Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich tro nesaf fel teulu yng Nghastell y Waun. Dewch i archwilio Tŵr Adam, gan gynnwys, toiledau canoloesol a thyllau llofruddio, cwblhau rhai o’r gweithgareddau ‘50 peth i'w gwneud cyn eich bod yn 11¾’, a llosgi ychydig o egni yn ein mannau chwarae naturiol.
Cymerwch gipolwg o’r wybodaeth hon i wneud y mwyaf o’ch ymweliad nesaf fel teulu â Chastell y Waun:
Beth am ymgolli mewn profiad hwyliog a llawn hud yn Nadolig hwn yng Nghastell y Waun? Dewch i ddarganfod ceidwaid ffyddlon y gaer wrth iddynt warchod y trysorau lu a gedwir oddi mewn i waliau’r Castell. Archwiliwch yr Ystafelloedd Swyddogol hardd a myfyriwch ar yr hyn a drysorir fwyaf gennych chi adeg y Nadolig. Ewch i weld neuadd lawn awyrgylch y gweision a’r morwynion ac i archwilio Tŵr Adam.
Crëwch atgofion bythgofiadwy gyda phrofiadau Nadoligaidd, o frecwast a swper gyda Siôn Corn i’n groto gwrthdro unigryw.
Yna, ewch i gael diod Nadoligaidd yn ein Hystafell De ac ewch am dro gaeafol i’r awyr agored; casglwch daflen weithgareddau yn y Swyddfa Docynnau a chwiliwch am y sêr sy’n cuddio o amgylch y gerddi barugog.
Rydym yn argymell eich bod yn dechrau eich ymweliad ger y Tŵr Adam canoloesol, lle mae arwyddion o hanes canoloesol y castell i’w gweld. Dewch i gael hwyl yn gwisgo gwisg ffansi arfwisg, mynd ar daith i ganfod garderobes canoloesol (toiledau i chi a mi) a thyllau llofruddio, a mentro i lawr i’r dwnsiynau sydd ar ddwy lefel... os ydych chi’n ddigon dewr!
Mae ein dau fan chwarae awyr agored yn Home Farm yn lleoedd gwych i ddiddanu eich rhai bach. Maent wedi’u lleoli’n gyfleus ger y Ciosg, sy’n gweini diodydd cynnes ac oer a byrbrydau, gyda digonedd o leoedd i eistedd awyr agored. Felly, mae’n lle gwych i losgi ychydig o egni, neu am hoe fach cyn dechrau dringo’r bryn at y castell.
Rhaid goruchwylio plant bob amser. Mae amseroedd agor y Ciosg yn amrywio.
Dewch â’ch teulu’n agosach at natur gyda 50 syniad wedi'u cynllunio i’n helpu i chwarae ac archwilio. Mae digonedd o weithgareddau awyr agored i'w gwneud drwy gydol y flwyddyn, dyma rai sydd ar gael yng Nghastell y Waun:
Mae gan bob coeden rywbeth arbennig. Chwiliwch am gliwiau yn ei gwreiddiau, rhisgl a changhennau i ddatguddio ei hanes. Mesurwch led ei boncyff gyda’ch breichiau a defnyddiwch eich dwylo i deimlo gwead ei boncyff – a yw’n llawn tolciau, yn teimlo’n arw neu’n llyfn? A oes unrhyw flodau neu hadau’n tyfu yno? Gallwch rwbio creon dros ddarn o bapur dros y boncyff er mwyn datgelu’r llinellau a’r patrymau.
Rhif. 9 Bwyta picnic yn y gwyllt
Mae croeso ichi fwyta picnic yn ein gerddi ac ar yr ystâd. Mae byrddau picnic wedi’u lleoli yn nhu blaen y castell, ac mae meinciau wedi’u gwasgaru ledled yr ardd, yn ogystal â man dan gysgod ger y gwrychoedd a dan goed. Cyn i chi gychwyn, mae'n bryd ichi wagio’r oergell ond os ydych chi awydd rhywbeth bach ychwanegol, mae ein hystafell de ar yr iard yn cynnig bwyd poeth ac oer, byrbrydau a chacennau i fynd adref gyda chi.
Dewiswch fan yn yr ardd ar ddiwrnod sych, gorweddwch ar eich cefn ar y gwair, ac edrychwch i fyny. Beth allwch chi ei weld? Defnyddiwch eich dychymyg i ganfod siapiau a lluniau yn y cymylau wrth iddynt wibio heibio drwy’r gwynt. A ydynt yn edrych fel unrhyw beth, fel anifeiliaid, coed neu gymeriadau cartŵn?
Os yw hi’n ddiwrnod braf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo sbectol haul i ddiogelu eich llygaid, a chofiwch, peidiwch ag edrych yn uniongyrchol at yr haul.
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.