Skip to content

Crwydrwch y parc yn Ninefwr

Close-up of buttercups in a wildflower meadow with woodland in the distance at Dinefwr, Carmarthenshire
Buttercup meadow at Dinefwr, Carmarthenshire | © National Trust Images / Corrinne Manning

Mae’r parc yn Ninefwr yn doreth o hanes Cymreig ac yn gorchuddio ystâd 800 erw ar gyrion hen dref amaethyddol Llandeilo. Ymwelwch â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a’r parc cyntaf yng Nghymru i gael ei enwi’n Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Yn Ninefwr, fe welwch ficrocosm o dreftadaeth a natur Cymru ar un safle. 

Dewch i archwilio Ystad Dinefwr

Mae parcdir Dinefwr yn gyforiog o hanes Cymru. Mae’n 850 acer o faint ac fe’i lleolir ar gyrion tref ffermio hardd Llandeilo. Dewch am dro i’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) hwn, a’r parcdir cyntaf trwy Gymru i’w ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol. Yn Ninefwr, gallwch brofi microcosm o dreftadaeth a byd natur Cymru.

Uchafbwyntiau’r haf

Dewch i fwynhau taith hudolus trwy aceri o ddolydd blodau gwyllt sy’n llawn tegeirianau, cribellau melyn, blodau ymenyn a glaswelltau brodorol. Cewch fwynhau cysgod a thawelwch ar hyd y llwybr trwy’r coetir a chewch edmygu’r coed hynafol, rhai o goed derw hynaf Cymru. Ewch am dro ar hyd y llwybr pren a chwiliwch am yr adar dŵr, y brogaod a’r creaduriaid eraill sy’n byw yn y pyllau a’r chwyn.

Yn yr haf, mae gwartheg a lloi brid prin, sef Gwartheg Gwyn y Parc, yn pori’r caeau o amgylch yr Ystad, ac yn aml gellir eu gweld o flaen Tŷ Newton.

Cynefinoedd hollbwysig

Ceir ystod eang ac amrywiol o gynefinoedd yn Ninefwr, ac maen nhw’n denu rhywogaethau pwysig. Mae gwahanol fathau o adar preswyl a mudol yn bridio ar yr Ystad neu’n gorffwyso yma ar eu taith. Yn ddiweddar, daethpwyd o hyd i chwilod prin.

Golygfa o'r awyr o Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Golygfa o'r awyr o Dinefwr, Sir Gaerfyrddin | © National Trust Images/James Dobson

'Cymerwch lond llaw o bridd o Ddinefwr a’i wasgu rhwng eich cledrau. Y sudd sy’n llifo o’ch dwylo yw hanfod Cymru.'

- Wynford Vaughan Thomas, darlledwr, newyddiadurwr ac awdur

Bywyd gwyllt Dinefwr

Mae hwn yn baradwys i fyd natur. Yn ogystal â phoblogaethau mawr o rai o adar brodorol a mudol mwyaf diddorol Prydain, mae’r ystâd yn gartref i lawer o’n mamaliaid mwyaf cyfrinachol, y mae llawer o bobl yn treulio oes heb eu gweld; dyfrgwn, ffwlbartiaid, llygod y gwair a hyddod brith.

Parc ceirw canoloesol yn Ninefwr

Mae’r ystâd yn gartref i barc ceirw canoloesol 100 erw o faint. Mae’r haid o dros gant o Hyddod Brith i’w clywed yn beichio a bloeddio o bob rhan o’r ystâd, yn enwedig ar drothwy’r cyfnod rhidio ym mis Hydref.

Fe welwch y Corvidae (teulu’r Fran) yn helpu gyda’r broses dwtio – maen nhw i’w gweld yn pigo ar groen sidanaidd y bwystfilod tra’n eistedd ar eu cyrn enfawr wrth i’r cyfnod rhidio agosáu.

Y coed hynaf yng ngwledydd Prydain yn Ninefwr

Mae coetir hynafol Dinefwr yn gartref i rai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain. Mae gennym dros 300 o goed derw, y mae rhai’n dros 400 oed, sy’n eu gwneud nhw’n hynafiaid go iawn. Maen nhw’n darparu ecosystemau hanfodol i amrywiaeth o rywogaethau. Hyd yn oed pan fo’r coed yn marw neu’n cwympo, dydyn ni ddim yn eu symud ymaith. Maen nhw’n aros yn eu hunfan i greu cynefin i blanhigion, bywyd gwyllt a ffyngau.

Plannu newydd

Yn ogystal â gofalu am y coed aeddfed, rydym yn plannu rhai newydd hefyd fel bod gennym goed ar wahanol gamau bob amser. Bydd mwy yn cael eu plannu yn y Parc Gwartheg Mewnol ac Allanol i ail-greu dyluniad y 18fed ganrif.

Yn y pendraw, caiff y planhigfeydd hyn eu rheoli fel y parc ceirw, fel porfeydd coediog. Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio y bydd Dinefwr bob amser yn enwog am ei hynaf-goed.

Ancient parkland at Dinefwr, Carmarthenshire
Ancient parkland at Dinefwr, Carmarthenshire | © National Trust Images/James Dobson
Y fynedfa flaen a’r dreif yn Nhŷ Newton, Dinefwr

Darganfyddwch fwy yn Ninefwr

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Buwch a llo Gwartheg Gwyn, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Gwartheg Gwyn 

Mae’r brîd prin a hynafol hwn wedi bod yn pori’r ardal hon ers dros 1000 o flynyddoedd ac yn gysylltiedig â Dinefwr ers y 9fed ganrif.

Golygfa o uchder o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dinefwr 

Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.

Golygfa o dŷ Newton
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.