Skip to content

Ymweld â Morfa a Nant Bach

Golygfeydd o Forfa a Nant Bach
Golygfa o'r Eifl o Forfa a Nant Bach | © Alex Jones

I’r rhai sy’n mwynhau cerdded a’r awyr agored, mae Morfa a Nant Bach yn lleoliadau delfrydol ar gyfer crwydro arfordir gogleddol Llŷn. Yn gyfoeth o natur, hanes a golygfeydd godidog, ni ddylid colli'r rhan hon o'r penrhyn.

Mulfran yn sychu ei adenydd
Mulfran yn sychu ei adenydd | © Nick Upton

Adar arfordirol  

Mae'r creigiau môr uchel yn darparu mannau nythu ardderchog ar gyfer  nythfeydd mulfrain. Daliwch nhw yn lledu eu hadenydd i sychu eu plu a gwyliwch nhw yn plymio o dan y dŵr i chwilio am bryd o fwyd.  

Mae'r frân goesgoch, gyda'u harddangosfeydd awyrol hyfryd i'w gweld yn plymio i fyny a lawr ar hyd llwybr yr arfordir. Yn aelod o deulu’r frân gyda’u pig a’u coesau coch, mae 215, sef tri chwarter poblogaeth y DU yn byw yng Nghymru, gyda 60 par yn byw ac nythu yn Llŷn.  

Blodau gwyllt 

Ymhlith y glaswelltir morol cyfoethog, mae blodau fel y seren las i'w gweld ddiwedd y gwanwyn. Mae clustog Fair yn addurno’r llwybr arfordir mewn lliwiau pinc bywiog yn ystod misoedd yr haf ac mae’r llwyni eithin yn blodeuo’n felyn llachar drwy’r flwyddyn. 

Golygfeydd godidog 

O fynyddoedd yr Eifl i Eryri ac ar draws y môr i Fôn, ni ddylid colli'r golygfeydd o Morfa a Nant Bach. Mae creigiau Ynys Fach ac Ynys Fawr yn cynnig cyfleoedd gwych i dynnu lluniau yn erbyn cefndir dramatig yr hen chwarel wenithfaen yn y bryniau. 

Creigiau môr ger Trefor
Creigiau môr | © Alex Jones

Cerdded Morfa a Nant Bach  

Ymgollwch mewn golygfeydd ysblennydd, natur a hanes. O grwydro’r ffermdir i ddarganfod harddwch arfordir Llŷn, mae Morfa a Nant Bach yn le perffaith i bawb sydd yn caru cerdded a natur. 

Olion hanesyddol

Yng nghysgod Yr Eifl, mae adfeilion chwarel wenithfaen Trefor. Wedi'i hagor ym 1850, roedd unwaith yn un o'r chwareli gwenithfaen mwyaf yn y byd. Mae gwenithfaen o'r chwarel wedi palmantu strydoedd dinasoedd fel Lerpwl a Manceinion a hyd yn oed yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cerrig cyrlio yn y gemau Olympaidd. Daeth chwarelwyr o bob rhan o'r DU i weithio ac i fyw yma. 

Two visitors exploring the garden in spring at Quarry Bank, Cheshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dau o bobl yn cerdded dau gi bach ar hyd traeth Llanbedrog, darn eang o dywod gyda chytiau traeth lliwgar a choed tal gwyrdd tywyll yn unon tu ôl iddynt.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci 

Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.

Bottlenose dolphin (Tursiops truncatus) adult in August, rolling over backwards in Moray Firth, Inverness-shire, Scotland, UK
Erthygl
Erthygl

Bywyd gwyllt Pen Llŷn 

Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar, darganfod bywyd gwyllt y gwlyptir neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.