Taith Porthor
Mwynhewch arfordir garw ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hon yn daith wych i amgyffred peth o hanes a threftadaeth yr ardal.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio ym Mhorthor, cyfeirnod grid: SH170293
Cam 1
O’r maes parcio dilynwch lwybr yr arfordir ar hyd y llwybr rhwng y ddau gaban toiledau, yna trwy glwstwr o goed helyg.
Cam 2
Cewch olygfeydd gwych o Borthor i lawr i’r dde. Yn Saesneg, mae’r traeth yn cael ei alw yn ‘Whistling Sands’ oherwydd y wich neu sŵn chwibanu y mae’r tywod yn ei wneud dan draed. Dilynwch y llwybr nes dewch chi at fainc a giât mochyn ar y chwith i chi.
Cam 3
Ewch trwy’r giât mochyn a dilyn y llwybr sy’n troelli ar hyd yr arfordir. Rydym yn adfer llethrau’r clogwyn ar y dde i chi, trwy ddefnyddio chwistrellu o’r awyr i reoli rhedyn a mynd yn ôl at draddodiad pori’r arfordir.
Cam 4
Byddwch yn wyliadwrus yma; efallai y byddwch chi’n ddigon lwcus i weld morlo, llamhidydd neu hyd yn oed ddolffin yn nofio oddi ar yr arfordir.
Cam 5
Y ddwy ynys i lawr ar y dde i chi yw Dinas Bach a Dinas Fawr. Ymhellach ar hyd yr arfordir yn y pellter fe welwch chi gopa Mynydd Anelog yn codi o Fôr Iwerddon.
Cam 6
Yn fuan ar ôl i chi fynd heibio’r ynys gyntaf fe ddewch at giât mochyn gydag un arall yn union ar y chwith i chi. Ewch trwy’r ddwy, gan ddilyn yr arwyddion i fyny llethr graddol.
Cam 7
Dilynwch yr arwyddion o gwmpas ochr y cae i fyny at fferm Carreg. Trowch i’r dde trwy’r giât mochyn olaf a dilyn yr arwyddion oren heibio Carreg i’r ffordd. Chwiliwch am y garreg goch, iasbis, arbennig, yr oedd gwaith yn arfer tyllu amdani yma ar fferm Carreg.
Cam 8
Pan gyrhaeddwch chi’r ffordd trowch i’r chwith. Ar ôl tua 650 llath (600m) fe welwch chi arwydd Porthor. Dilynwch y lôn yn ôl i’r man cychwyn yn y maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio ym Mhorthor, cyfeirnod grid: SH170293
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith arfordirol Porth Meudwy
Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Gweithgareddau awyr agored ym Mhorthor
Nid yn unig mae ein harfordir yn hardd, mae’n hwyl hefyd. Os byddwch chi’n syrffio, corff-fyrddio neu mewn caiac, byddwch wrth eich bodd yn y dŵr ym Mhorthor. Crwydrwch ar hyd traeth gwych i deuluoedd a mwynhau lle gwych i ymlacio.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)