Skip to content

Teithio cynaliadwy yng Nghymru

Visitors with rucksacks walking towards Ogwen Cottage on a sunny day, Carneddau and Glyderau, Gwynedd, Wales
Visitors walking towards Ogwen Cottage | © National Trust Images / Chris Lacey

P’un a ydych am gerdded neu deithio ar fws neu drên. Cynlluniwch eich diwrnod allan yng Nghymru drwy ddefnyddio opsiynau teithio gwyrddach.

Teithio ar fws

Gogledd Cymru

  • Gerddi Bodnant - Mae bws rhif 25 gwasanaeth Bws Arriva o Landudno yn stopio y tu allan i giât y fynedfa. Gwiriwch Arriva Cymru am yr amserlenni bws diweddaraf.
  • Castell y Waun - Mae bws rhif 2/A gwasanaeth Bws Arriva o Wrecsam i Groesoswallt yn gollwng ym mhentref Y Waun ger yr orsaf drenau. Gwiriwch Arriva Cymru am yr amserlenni bws diweddaraf.
  • Erddig - Dilynwch lwybrau gwasanaeth Bws Arriva: Llwybr 2 o Groesoswallt a thrwy Cefn Mawr i Wrecsam, Llwybr 4 o Benycae, Llwybr 5 o Langollen. Stopiwch yn Felin Puleston, Rhostyllen a cherddwch 1 filltir drwy Barc Gwledig Erddig. Gwiriwch Arriva Cymru am yr amserlenni bws diweddaraf.
  • Castell Penrhyn a'r Ardd - Gwasanaethau bws o Fangor a Chaernarfon i Landudno gan gerdded am 1 filltir ar ôl gadael y bws wrth rodfa’r castell. Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
  • Tŷ a Gardd Plas Newydd - Mae’r bws rhif 42 o Fangor i Langefni (sy’n mynd heibio gorsaf drenau Bangor ac yn agos at orsaf drenau Llanfairpwll) yn stopio ar Ffordd Brynsiencyn, ger y maes parcio ymwelwyr. Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
  • Plas yn Rhiw - Mae’r bws 17B o Bwllheli i Aberdaron (sy’n mynd heibio gorsaf drenau Pwllheli), yn stopio wrth giât y fynedfa. Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
  • Llŷn - Gwiriwch yma ar gyfer amserlenni diweddaraf y gwasanaeth bws fflecsi Llŷn. Gwiriwch yma am yr amserlenni bysiau lleol.
  • Eryri - Gwiriwch yma am amserlenni diweddaraf y rhwydwaith o wasanaethau bysiau cysylltiedig yn Eryri.

Canolbarth Cymru

  • Castell a Gardd Powis - Gwasanaethau bws o Groesoswallt i’r Trallwng a’r Amwythig i Lanidloes. Dewch oddi ar y bws yn y Stryd Fawr. 1 filltir ar droed o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490). Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
  • Llanerchaeron - Gwasanaeth bws T1 Traws Cymru o 1 Sgwâr Alban Aberaeron i Lanbedr Pont Steffan. Gwiriwch yr amserlenni diweddaraf.

De Cymru

  • Tŷ Tredegar - Mae’r ddau fws lleol rhif 30 a 36 yn stopio o fewn 5 munud ar droed o Dŷ Tredegar. Gwiriwch yma am yr amserlenni diweddaraf.
  • Dinefwr - Gwasanaethau bws i Landeilo. Gwiriwch Traveline Cymru ar gyfer yr amserlenni diweddaraf. Y safle bws agosaf at Barc Dinefwr yw Ffordd Caerfyrddin, Llandeilo.
  • Dolaucothi - Daliwch y bws Rhif 689 o Lanbedr Pont Steffan. Gwiriwch Bwca bws am yr amserlen ddiweddaraf.
  • Gerddi Dyffryn - Daliwch y bws rhif X2 i Sain Nicolas, yna cerddwch am 1 filltir (1.6km) at y fynedfa. (Nodwch mai taith gerdded ar hyd ffordd wledig heb balmant yw hon). Gwiriwch yma am yr amserlen ddiweddaraf.
  • Sir Benfro - Gwiriwch wasanaethau bws Cyngor Sir Penfro a llwybrau Gwibfws yr Arfordir yma.
  • Bannau Brycheiniog - Daliwch y bws rhif T4, Caerdydd-Y Drenewydd. Dewch oddi ar y bws yn Storey Arms i gael mynediad i’r Bannau. Gwiriwch yma am yr amserlenni diweddaraf.
  • Rhosili a De Gŵyr - Mae gwasanaethau bws rheolaidd ar gael o Abertawe i Rosili, ac mae’r amserlenni yn newid bob tymor. Gwasanaethau 118/119 (NAT) ac 114 (Dyddiau Sul First Cymru). Mae gwasanaethau ychwanegol yn cysylltu rhannau mwy tawel o’r Gŵyr gyda’r gwasanaeth 118 ac 116 Abertawe-Gogledd Gŵyr. Gwiriwch yma ar gyfer amserlenni diweddaraf y gwasanaeth bws Gower Explorer.
  • Whiteford a Gogledd Gŵyr - Daliwch yr 115. 116 ac 119 y Gower Explorer. Gwiriwch yma ar gyfer yr amserlenni diweddara

Teithio ar drenau

Cofiwch gynllunio eich taith ymlaen o’r orsaf drenau.

Gogledd Cymru

  • Castell Penrhyn a'r Ardd - Yr orsaf drenau agosaf yw Bangor, 3 milltir i ffwrdd.
  • Gerddi Bodnant - Yr orsaf drenau a argymhellir yw Cyffordd Llandudno, ar y brif linell. Mae gwasanaethau bysiau a thacsis i’w cael yma. 5 milltir i ffwrdd.
  • Castell y Waun - Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf y Waun sydd ¼ milltir at giatiau’r ystâd, a chyfanswm o 1½ milltir i’r castell.
  • Erddig - Y gorsafoedd trenau agosaf yw Wrecsam Canolog 1½ milltir ar droed neu Gorsaf Gyffredinol Wrecsam (2 filltir ar droed).
  • Tŷ a Gardd Plas Newydd - Yr orsaf drenau agosaf yw Llanfairpwll, 1¾ milltir i ffwrdd.
  • Plas yn Rhiw - Yr orsaf drenau agosaf yw Pwllheli, 10 milltir i ffwrdd.

Canolbarth Cymru

  • Castell a Gardd Powis - Yr orsaf drenau agosaf yw’r Trallwng. 1 filltir ar droed o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490).
  • Llanerchaeron - Yr orsaf drenau agosaf yw New Inn Forge ar y gwasanaeth trên o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ½ milltir i ffwrdd.

De Cymru

  • Tŷ Tredegar - Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf Casnewydd, 2 filltir i ffwrdd.
  • Dinefwr - Yr orsaf drenau agosaf yw Llandeilo, sydd 1.5 milltir o Barc Dinefwr. Mae Lein Calon Cymru yn rhedeg tua’r de i Abertawe, neu thua’r gogledd i’r Amwythig.
  • Gerddi Dyffryn - Yr orsaf drenau agosaf yw Caerdydd Canolog, 7 milltir i ffwrdd.
  • Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd - Yr orsaf drenau agosaf yw Dinbych-y-pysgod, ½ milltir i ffwrdd.
  • Gardd Goedwig Colby - Yr orsaf drenau agosaf yw Cilgeti, 2½ milltir i ffwrdd.

Cyrraedd ar droed

Gogledd Cymru

  • Castell y Waun - Mae llwybrau troed o bentref Y Waun ar agor drwy gydol y flwyddyn ac o Lwybr Clawdd Offa o fis Ebrill i fis Hydref yn unig. Mae’r fynedfa ac allanfa yn hygyrch ar droed, mae'n 1½ milltir o bellter i gerdded i swyddfa docynnau Home Farm.
  • Erddig - O’r gorsafoedd trenau, cerddwch ar hyd y llwybr troed ar Ffordd Erddig. O safle bws Felin Puleston, cerddwch 1 filltir drwy Barc Gwledig Erddig. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded ar ddyddiau gwlyb.
  • Plas yn Rhiw - Mae’n rhwydd i’w gyrraedd ar droed o lwybr arfordir Llŷn.

Canolbarth Cymru

  • Castell a Gardd Powis - 1 filltir ar droed o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490).
  • Llanerchaeron - Cerddwch y llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig.

De Cymru

  • Gardd Goedwig Colby - Taith gerdded 3/4 milltir o Amroth ar hyd llwybr cyhoeddus ger yr Amroth Arms.
  • Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd - Dilynwch y mynegbost o’r Sgwâr Tuduraidd ger Lifeboat Tavern, neu o Stryd y Bont neu Stryd Crackwell.

Pwyntiau gwefru cerbydau trydanol

Mae gennym 36 o bwyntiau gwefru ar draws y cestyll, tai hanesyddol, traethau a dyffrynnoedd rydym yn gofalu amdanynt.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Electric vehicle charging point in the car park at Wimpole Estate, Cambridgeshire
Erthygl
Erthygl

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru 

Dysgwch am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru sydd â phwyntiau gwefru cerbydau trydan i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Tu allan i Gastell Penrhyn ar ddiwrnod braf

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Carped o glychau’r gog yng nghanol llawer o goed llawn o ddail gwyrdd llachar mewn coetir ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.