
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Bob blwyddyn mae 7 miliwn o gwpanau untro yn cael eu taflu yn y llefydd sydd yn ein gofal, gan greu gwastraff sy'n niweidiol i natur, bywyd gwyllt a'r hinsawdd. Fel elusen gadwraeth, rydyn ni’n edrych yn barhaus ar ffyrdd o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Gofynnwn am eich cefnogaeth i'n helpu i gael gwared ar gwpanau untro erbyn diwedd 2026.
Yn y DU, mae 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro yn cael eu taflu bob blwyddyn: 7 miliwn bob dydd, neu 5,000 y funud. Mae hyn yn achosi niwed mawr i'n hamgylchedd.
Mae un gwpan papur yn allyrru 110g o CO2 yn ystod ei oes – ôl troed carbon sy'n cynnwys echdynnu deunyddiau crai, cynhyrchu a chludiant. Yn 2023-24, ein hôl troed carbon ar gyfer cwpanau untro oedd 763 tunnell o CO2, sy'n cyfateb i yrru 3 miliwn o filltiroedd.
Y pris cyfartalog ar gyfer cwpan untro a chaead yw 14c. Rhwng 2022 a 2024, ar gyfartaledd, taflwyd saith miliwn o gwpanau bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwario mwy na £1m ar gwpanau untro bob blwyddyn – arian a allai fel arall gael ei ailfuddsoddi mewn diogelu a gofalu am y llefydd rydych chi'n eu caru.
Gyda'n gilydd gallwn ni greu newid sy'n diogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn ni gael gwared ar gwpanau untro yn y llefydd rydyn ni'n gofalu amdanynt erbyn diwedd 2026.
I gefnogi'r newid hwn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â'ch cwpan amldro eich hun ar gyfer diodydd tecawê. Bydd hyn yn rhoi gostyngiad o 25c i chi ar eich diod boeth.
Os nad oes gennych gwpan amldro, gallwch:
Os ydych chi'n benthyg cwpan i’w ddychwelyd, gofynnwn yn garedig i chi ei ddychwelyd ar ddiwedd y dydd trwy ei roi yn un o'n pwyntiau casglu pwrpasol.
Efallai na fydd rhai o'r llefydd yn ein gofal yn cynnig cwpanau i’w dychwelyd, felly rydyn ni’n argymell dod â'ch un eich hun. Diolch.
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Cefnogwch ein hamcanion cynaliadwyedd drwy brynu cwpan wedi ei ailgylchu y gellir ei ailddefnyddio o gaffis, siopau neu ar-lein. Mae gennym ystod o gwpanau Circular & Co ar gael i’w prynu, a byddwch yn cael eich diod boeth gyntaf am ddim wrth ymweld â lleoliad sydd dan ein gofal. (Saesneg yn unig)
Gyda’n gilydd, rydym yn sicrhau ein dyfodol drwy weithredu ar yr hinsawdd a’r amgylchedd. Dysgwch fwy am sut rydym yn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yn y lleoedd dan ein gofal. (Saesneg yn unig)
Gall ein gweithredoedd bach helpu i wneud newidiadau mawr. Mae llawer o ffyrdd i wneud gwahaniaeth, dysgwch sut y gallwch chwarae eich rhan gyda syniadau o blannu coed i fynd yn ddi-fawn. (Saesneg yn unig)
Newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i’r lleoedd sydd dan ein gofal. Edrychwch ar ein haddewidion amgylcheddol wrth i ni addasu, lleihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â’r difrod sydd eisoes wedi’i wneud. (Saesneg yn unig)