Skip to content
Datganiad i'r wasg

350 o blant o 12 ysgol ar draws Cymru yn dod ynghyd i nodi Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid drwy farddoniaeth a byd natur

Plant yn ysgrifennu barddoniaeth yn Ystâd Southwood, Sir Benfro
Ysbrydoli plant drwy natur a barddoniaeth fel rhan o Brosiect Tirweddau Telynegol | © National Trust Images/Phill Boyd

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi dod ynghyd i ysbrydoli pobl ifanc ar draws Cymru i weithredu yn erbyn newid hinsawdd drwy gysylltu byd natur, yr awyr agored a barddoniaeth.

Mae dydd Sadwrn 22 Hydref yn nodi Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid, mudiad ieuenctid byd-eang sy'n pryderu am newid hinsawdd ac anghyfiawnder byd-eang.

I gyd-fynd â'r diwrnod, mae'r ddau sefydliad yn lansio ‘Tirweddau Telynegol’ - prosiect barddoniaeth a ysbrydolwyd gan fyd natur gyda Casi Wyn, Bardd Plant Cymru a Connor Allen, Children’s Laureate Wales.

Gwelodd y prosiect 350 o blant o 12 ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn gweithdy creadigol mewn lleoliadau yn yr awyr agored ac ystafelloedd dosbarth.

Gwahoddwyd y plant i'w safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol lleol er mwyn iddynt gael eu hysbrydoli gan amgylchedd naturiol yr ardal, yr hanes a'r etifeddiaeth wrth ddychmygu sut fydd ei ddyfodol yn edrych. Yn yr ystafell ddosbarth, canolbwyntiwyd ar roi geiriau ar bapur a chyfansoddi cerdd sy'n rhannu eu perthynas hwy â byd natur, ac effaith newid hinsawdd ar eu stepen drws.

Gweithiodd Casi gyda phum ysgol yng ngogledd Cymru: Ysgol Cymerau, Edern, Y Faenol, Cemaes, Bro Gwydir a Pencae. Cafodd y plant y cyfle i archwilio Cemlyn ar Ynys Môn, Glan Faenol ym Mangor a Phorthdinllaen ym Mhen Llŷn.

Un safle wnaeth wirioneddol ysbrydoli oedd Gerddi Bodnant yng Nghonwy ble cafodd y plant gyfle i fynd tu ôl i'r llenni a dysgu mwy ynghylch effaith niweidiol Storm Arwen yn 2021, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i glirio ac adfer yr ardd o'r radd flaenaf hon.

Dywedodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru; "Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu am amrywiaeth o wahanol lefydd, pob un yn amrywio o ran yr heriau sy'n eu hwynebu gyda newid hinsawdd. Mae'r prosiect hwn wedi ein galluogi i gysylltu plant lleol i rai o'r llefydd hyn a'u galluogi i feithrin synnwyr o berchnogaeth. Credaf mai'r agosaf ydynt i'w amgylchedd lleol, y mwyaf o ofal fyddant yn ei gymryd o'r hyn sydd ar stepen eu drws."

Yng nghanolbarth a de Cymru, gweithiodd Connor gyda Sant Woolos, Parc Tredegar, Eglwys yng Nghymru y Trallwng, Ysgolion Cynradd VA Eglwys Sant Marc yng Nghymru ac Ysgol Gymunedol Treowen. Archwiliwyd Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd, Ystad Southwood yn Sir Benfro a Chastell a Gardd Powis yn y Trallwng.

Bu i frwdfrydedd Connor ymgysylltu meddyliau ifanc â heriau newid hinsawdd ac mae hyn i'w weld yn y cerddi, sy'n ystyried effaith cynnydd mewn glawiad sy'n effeithio'r llyn yn Nhŷ Tredegar i dywydd sych am gyfnod hir sy'n achosi tannau gwyllt ar Ystad Southwood.

Dywedodd Connor Allen, Children’s Laureate Wales: "Mae'r plant yn ymwybodol o effeithiau newid hinsawdd, mae ganddynt lawer i'w ddweud, ac mae barddoniaeth yn rhoi'r llwybr hwnnw iddynt fynegi eu teimladau a'u syniadau am y dyfodol, gan mai hwy yw'r dyfodol."

Dangosodd yr adborth o'r ysgolion fod y gweithdai creadigol wedi cryfhau cyswllt y plant gyda'u hardal leol a'u hysbrydoli i ymateb yn greadigol i heriau'r argyfwng hinsawdd. Roedd gallu cysylltu â byd natur a'r awyr agored wedi grymuso'r plant i fynegi eu hunain a'u safbwyntiau.

Mae Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate of Wales yn swyddi llysgenhadol cenedlaethol sy'n cael eu rhedeg gan Lenyddiaeth Cymru gyda'r nod o ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc ar draws Cymru drwy lenyddiaeth.
Wedi paru ag ymrwymiad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i hyrwyddo a chadw llefydd o harddwch naturiol a diddordeb hanesyddol tra'n creu profiadau difyr sy'n croesawu pawb, bu i'w huchelgeisiau ddarparu sylfaen i gydweithio ac ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru.

Dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru; "Mae'n bwysicach nag erioed i ymgysylltu pobl ifanc gyda byd natur a'r awyr agored a'u cael i gymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch hinsawdd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lenyddiaeth Cymru am y cyfle i gyd weithio ar y prosiect ysbrydoledig hwn, ac i chwarae'n rhan yn cynnig llais i bobl ifanc. Mae Casi a Connor wedi gwneud gwaith ardderchog yn ymgysylltu meddyliau ifanc, ac mae clywed rhai o'r cerddi yn bendant yn cynnig golwg eang ar yr hyn mae newid hinsawdd yn e olygu i blant yng Nghymru."

Ychwanegodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru; "Mae awduron wedi eu hysbrydoli gan dirwedd Cymry ar hyd yr oesau. Mae ein holl straeon, ein hiaith a'n chwedloniaeth wedi'u cydblethu â'n hamgylcheddau. Wrth weithio gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, mae ein beirdd llawryfog wedi llwyddo i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o awduron gyda rhai o dirweddau naturiol harddaf Cymru. Mae'r prosiect wedi ein cynorthwyo i greu sylfaeni i berthynas fydd yn parhau rhwng dau sefydliad, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol."

I weld y brwdfrydedd, yr ymgysylltiad, y creadigrwydd ac effaith y prosiect, gwyliwch y fideo yma; https://youtu.be/nPx28dv8GsA

Bydd y cerddi yn cael eu rhyddhau ddydd Sadwrn, 22 Hydref ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.