Ailgyflwyno planhigyn oedd wedi diflannu i'r gwyllt yng Nghymru ar ôl 62 o flynyddoedd
- Cyhoeddwyd:
- 24 Mai 2024
Mae planhigyn mynydd hardd a arferai lynu wrth ymyl clogwyni yn Eryri wedi cael ei ailgyflwyno’n llwyddiannus i’r gwyllt yng Nghymru ar ôl diflannu o’r ardal ers 1962.
Mae’r ailgyflwyno arbrofol yma ar y Tormaen Crymddail (Saxifraga rosacea), ar ôl degawdau o gynllunio, yn fuddugoliaeth i fotanegwyr Plantlife a’u partneriaid – Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – sy’n gweithio i achub rhywogaethau sy’n agos at ddifodiant yng Nghymru.
Mae’r planhigyn bychan hardd yma sy’n aelod o deulu’r Tormaen (Saxifragaceae) wedi cael ei gynnal drwy ei feithrin ac mae’r planhigion yn dod o linach uniongyrchol sbesimenau 1962 sydd wedi cael eu rhoi yn ôl yn y gwyllt.
Mae'r gwaith arbrofol llwyddiannus o blannu y tu allan wedi cael ei wneud ar dir y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdano, ac yn ystod y misoedd sydd i ddod bydd arolygon ar gyfer cynefinoedd priodol yn cael eu cynnal gan fotanegwyr sy'n abseilu. Nod yr arolygon yma yw darganfod ble fydd orau i ailgyflwyno'r rhywogaeth yn llawn i'r gwyllt. Bydd y lleoliadau'n cael eu dewis yn agos at y mannau lle credir bod poblogaethau wedi'u cofnodi'n flaenorol.
Y gred ydi bod y Tormaen Crymddail wedi wynebu difodiant yng Nghymru yn bennaf oherwydd gorgasglu gan selogion planhigion, yn enwedig yn oes Fictoria. Nid yw'r planhigyn gwyllt yn gystadleuydd cryf yn erbyn rhywogaethau planhigion sy'n tyfu’n gryfach ac felly ystyrir bod cyfoethogi ar y maethynnau yn ei hoff gynefin mynyddig oherwydd llygredd aer atmosfferig wedi chwarae rhan yn ei dranc hefyd.
Erbyn hyn mae’r Tormaen Crymddail yn blodeuo mewn lleoliad sy'n agos at y man lle cafodd ei gofnodi ddiwethaf yn y gwyllt ac mae cynlluniau ar droed i gynyddu'r niferoedd nawr bod y plannu allan cyntaf wedi digwydd. Cofnodwyd y rhywogaeth gyntaf yng Nghymru yn 1796 gan J.W.Griffith (Clark, 1900) ac mae hyd at bum cofnod o'r 19eg ganrif. Yn yr 20fed ganrif, mae tri chofnod, pob un yn Eryri.
Mae’r ailgyflwyno llwyddiannus wedi cael ei arwain gan fotanegydd Plantlife, Robbie Blackhall-Miles, Swyddog Prosiect ar gyfer prosiect partneriaeth cadwraeth Tlysau Mynydd Eryri sy’n ceisio diogelu dyfodol rhai o’n infertebrata a’n planhigion alpaidd prinnaf ni yng Nghymru.
Dywedodd Robbie Blackhall-Miles: “Mae dychwelyd rhywogaeth goll i’r gwyllt yn llwyddiannus yn foment arbennig ar gyfer adferiad byd natur. Roedd tranc trist y Tormaen Crymddail wedi’i ysgogi’n bennaf gan drachwant casglwyr planhigion, felly mae’r prosiect yma’n cynrychioli dychwelyd tlysau wedi’u dwyn i’w priod le yn nhirwedd Cymru. Mae pob un planhigyn gwyllt brodorol yn cyfrannu at amrywiaeth ac iechyd ecosystemau ac mae rhoi’r Tormaen Gwridog yn ôl lle mae'n perthyn yn adfer cydbwysedd coll.
“Mae’r Tormaen Crymddail a llu o blanhigion gwyllt Arctig Alpaidd eraill yn cael eu herio’n arbennig gan newid hinsawdd sy’n cael ei sbarduno gan weithgarwch dynol felly mae’n ddyletswydd arnom ni i ofalu’n well am gynefinoedd mynyddig fel Eryri.”
Dywedodd John Clark, Rheolwr Rhaglen Natur am Byth: “Mae ailgyflwyno fel hyn yn greiddiol i raglen uchelgeisiol Natur am Byth, gan ddod â rhywogaethau yn ôl o ymyl goroesiad yng Nghymru. Mae ein partneriaeth ni’n eang ac yn bellgyrhaeddol, gan rymuso arbenigwyr rhywogaethau, perchnogion tir a chymunedau lleol i adfer yr amrywiaeth o fywyd sydd ar garreg eu drws.”
Dywedodd Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Mae planhigion Arctig Alpaidd yn rhan mor bwysig o dreftadaeth naturiol Cwm Idwal a pham ei fod yn lle mor arbennig.
“Cafodd Cwm Idwal ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru oherwydd ei ddaeareg unigryw a’r planhigion sydd i’w cael yma, a dyna pam mae’r prosiect yma’n wirioneddol gyffrous a gobeithiol. Mae’n arwydd diriaethol o’r gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud i fyd natur drwy
gydweithio, ac mae’n dangos adferiad byd natur ar waith yn wyneb yr argyfwng bioamrywiaeth drwy ddod â rhywogaethau sydd wedi diflannu yn ôl i’w cynefin brodorol.
“Mae’r ailgyflwyno yma’n cyd-fynd ag uchelgeisiau adnewyddu byd natur yr Ymddiriedolaeth yn ogystal â gwella cyflwr cynefinoedd presennol. Er mwyn cael ecosystem weithredol iach mae angen I chi gael yr holl rywogaethau brodorol yn bresennol ac yn iach.”
O dan brosiect Tlysau Mynydd Eryri, mae cadwraethwyr hefyd yn gweithio i hybu poblogaethau o rywogaethau o blanhigion sydd wedi gostwng i ddim ond saith planhigyn ar ôl yn y gwyllt yng Nghymru a phlanhigyn sydd â dim ond pedwar unigolyn hysbys yn y gwyllt yn y byd.