Skip to content
Datganiad i'r wasg

Cael gwared ar ysgolion pysgotwyr yn Rhiw Goch, Conwy er diogelwch y cyhoedd

Wyneb y graig uwchben Afon Lledr ar ôl tynnu ysgolion y pysgotwr
Wyneb y graig uwchben Afon Lledr ar ôl tynnu ysgolion y pysgotwr | © National Trust Images

Am resymau diogelwch, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cael gwared ar yr ysgolion pysgotwyr yn Rhiw Goch ger Dolwyddelan, Conwy.

Ar ôl hyrwyddo’r safle yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol – gwelwyd cynnydd cyflym yn nifer yr ymweliadau â’r ysgolion. Mae poblogrwydd sydyn safle nad oedd llawer yn arfer ymweld ag ef wedi achosi llawer o broblemau, yn amrywio o ddirywiad yn y strwythurau, difrod i ffiniau, tresmasu a pharcio peryglus ar hyd cefnffordd yr A470.

Dywedodd Tristan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;

“Roedd y strwythurau’n rhydlyd, yn simsan ac wedi’u lleoli’n uchel uwchben afon, roedden nhw’n anniogel. Rydym yn sylweddoli bod hyn yn rhan o’r apêl i rai, ond fel tirfeddianwyr mae gennym ddyletswydd foesol a chyfreithiol i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

Roedd yr ysgolion pysgotwyr yn strwythurau metel a oedd ynghlwm wrth y graig uwchben Afon Lledr. Roedd y pinnau gwreiddiol a oedd yn dal y rhodfa yn y ceunant ers degawdau, ond roedd pobl anhysbys yn gwneud gwaith atgyweirio ac ychwanegiadau heb eu rheoleiddio dros y blynyddoedd.

Fe’u gosodwyd yn wreiddiol i’w gwneud yn haws i osod trap bysgod yn y ceunant cul. Fodd bynnag, er nad oedd gan y safle hawliau mynediad, llwybrau troed na maes parcio cyhoeddus, roedd yr ysgolion wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Codwyd pryderon gan y gymuned leol ynghylch y parcio peryglus ar hyd ymylon yr A470, gydag ymwelwyr yn cerdded ar hyd ymylon cul y brif gefnffordd yn ogystal â thresbasu ar eiddo cymdogion.

Yn dilyn asesiad manwl o’r safle ac ar ôl archwilio opsiynau, nid oedd yr elusen gadwraeth yn gallu gwneud y strwythurau’n ddiogel i’r cyhoedd mewn amgylchedd heb ei reoleiddio. Cael gwared â’r ysgolion oedd yr unig ateb ymarferol a chynaliadwy, a ddylai hefyd helpu i leihau’r perygl o barcio ar hyd yr A470.

Ychwanegodd Trystan, “Rydyn ni wedi bod yn cysylltu â’r gymuned leol a rhanddeiliaid fel rhan o’r broses hon. Mae’n bwysig helpu i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn ddiogel, ac yn dilyn trafodaethau gyda’r cyngor cymuned lleol, roedd hi’n amlwg bod yr ysgolion yn achosi problemau.”

Ychwanegodd Simon Rogers, Rheolwr Cefn Gwlad Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;

“Mae llawer o’n mannau gwyllt dan straen ac nid oes ganddynt y seilwaith na’r capasiti i ddelio â nifer fawr o ymwelwyr. Rydyn ni eisiau i bobl fwynhau byd natur, yn gyfrifol. Hoffem annog ymwelwyr i fod yn ymwybodol o’u hôl troed digidol ac osgoi rhannu mannau gwyllt cudd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i helpu i gadw’r lleoedd hyn yn arbennig.”

Mae’r strwythurau wedi cael eu tynnu gan gontractwyr peirianneg lleol ac nid ydynt ar y safle mwyach. Hoffai Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru atgoffa pobl nad oes hawl mynediad cyhoeddus i’r ardal, na llefydd parcio gerllaw.

You might also be interested in

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.