Skip to content
Datganiad i'r wasg

Elusennau natur yn tanlinellu’r angen am £594 miliwn yn flynyddol i gefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur yng Nghymru

Brith y gors yn Welshmoor yng Ngogledd Gŵyr, De Cymru
Brith y gors yn Welshmoor, Gogledd Gŵyr | © National Trust / Mark Hipkin

Canfu adroddiad economaidd annibynnol newydd fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei fuddsoddiad yn sylweddol ym maes ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur – i £594 miliwn y flwyddyn - er mwyn sicrhau y cyflawnir targedau adfer natur a hinsawdd sy'n gyfreithiol rwymol.

Mae RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw ar y Llywodraeth i ymrwymo ar frys i’r buddsoddiad blynyddol hirdymor hwn ym maes ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur a’r hinsawdd, ac fel effaith argyfyngau natur a hinsawdd sy’n gwaethygu, bydd unrhyw oedi i ddiogelu’r sector amaethyddol at y dyfodol yn costio mwy i’w drwsio.

Dywed yr elusennau fod yn rhaid i gynlluniau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy helpu ffermwyr i ddod â byd natur yn ôl a mynd i’r afael â newid hinsawdd tra’n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac sy’n sail i fusnesau cydnerth.

Mae’r dadansoddiad economaidd newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod y gyllideb amaethyddol bresennol yng Nghymru hanner y swm sydd ei angen i gyrraedd targedau adfer natur a hinsawdd drwy ffermio a defnydd tir, ac i roi ffermio Cymru ar sylfaen fwy cynaliadwy.

Canfu’r dadansoddiad annibynnol, a gomisiynwyd gan RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru, fod cynyddu buddsoddiad Cymru i £594 miliwn y flwyddyn yn hanfodol er mwyn ariannu ffermwyr yng Nghymru wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, ac i ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd. Ledled y DU mae angen i'r ffigwr blynyddol gynyddu i £5.9 biliwn.

Mae’r adroddiad “Maint yr Angen” yn adeiladu ar ddadansoddiadau blaenorol, gan roi'r asesiad mwyaf cywir hyd yma o'r buddsoddiad sydd ei angen i alluogi ffermwyr i ddarparu natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae’r ffigurau newydd yn cynnwys, am y tro cyntaf, ddadansoddiad manwl o wahanol fathau o ffermydd a chostau amrywiol adfer natur ar draws sectorau gwahanol a ffermydd o feintiau gwahanol.

Daw’r dadansoddiad newydd i’r casgliad y bydd y gyllideb amaethyddol flynyddol gyfredol yng Nghymru o tua £300 miliwn, yn annigonol i fodloni targedau natur a hinsawdd.

Dywedodd Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:
“Gyda bron i 90% o Gymru yn cael ei ffermio, mae gan ffermwyr rôl hanfodol wrth adfer natur. O ddarparu amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt, adfer mawndiroedd ac arbed rhywogaethau o dan fygythiad, fel y Gylfinir, ceir uchelgais eang yn y diwydiant i gynhyrchu bwyd a mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd. Mae’r adroddiad Maint yr Angen yn amlygu’n glir bod angen llawer mwy o gyllid ar Gymru na’r lefelau presennol i gyd-fynd â’r uchelgais hwn.”

Mae cydnabyddiaeth gynyddol o’r buddion ehangach a ddaw yn sgil buddsoddi mewn adfer byd natur, yn anad dim fel sail i’n gallu i gynhyrchu bwyd. Yn ogystal â darparu’r aer rydyn ni’n ei anadlu a’r dŵr rydyn ni’n ei yfed, mae natur yn darparu pridd iach i ni gynhyrchu ein bwyd.

Mae adfer natur yn hanfodol i’n diogeledd bwyd yn y dyfodol, gan gynnwys gwneud ffermio’n fwy gwydn i effeithiau achosion o dywydd eithafol, sy’n gwaethygu, fel tywydd poeth, sychder a llifogydd, o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae ffermio gyda natur hefyd yn gwneud synnwyr busnes da gan ei fod yn llai dibynnol ar borthiant a gwrtaith sy’n gynyddol gostus.

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, mae’r elusennau’n dadlau bod yn rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yng Nghymru fod yn uchelgeisiol ac wedi’i ariannu’n briodol i wobrwyo ffermwyr am ddod â byd natur yn ôl a mynd i'r afael â newid hinsawdd tra'n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru:
“Mae’r adroddiad Maint yr Angen heddiw yn dangos yn glir faint o arian sydd ei angen ar ffermio yng Nghymru i fuddsoddi yn adferiad byd natur. Mae ffermwyr yn allweddol i adfer byd natur ac mae angen gwneud hyn ar raddfa fawr ac yn gyflym ledled Cymru. Mae hwn yn fuddsoddiad ac nid yn gost. Buddsoddiad i ddyfodol cynaliadwy lle bydd adfer byd natur gan ffermwyr yn helpu i liniaru llifogydd, storio carbon, lleihau llygredd afonydd a chynyddu gwytnwch yn erbyn digwyddiadau hinsawdd eithafol.”

Er mwyn cefnogi’n llawn y broses o drawsnewid ffermio i ddyfodol cynaliadwy, mae RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol o ran ei gynlluniau i fuddsoddi mewn amaethyddiaeth.

Dywedodd Helen Pye, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Fel y mae dadansoddiad newydd Maint yr Angen yn ei ddangos, rhaid i fuddsoddiad pellach ganolbwyntio ar gynlluniau cymhelliant sy'n darparu digon o gefnogaeth ar gyfer ffermwyr i ddod â byd natur yn ôl, mynd i'r afael â newid hinsawdd ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod amaethyddiaeth yn cael ei gefnogi’n iawn er mwyn pontio tuag at fusnesau ffermio mwy gwydn sy’n gyfeillgar i natur.”