Offer newydd yn helpu dringwyr i warchod rhywogaethau planhigion prin yng Nghwm Idwal
- Cyhoeddwyd:
- 25 Ionawr 2023
Bydd synwyryddion tymheredd newydd sy’n cael eu gosod yng Nghwm Idwal yn helpu i warchod planhigion prin y Warchodfa Natur Genedlaethol rhag cael eu niweidio yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Partneriaeth Cwm Idwal sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Mynydda Prydain (BMC) i uwchraddio offer synhwyro tymheredd ar glogwyni uchel Cwm Idwal i helpu i atal difrod damweiniol i blanhigion prin wrth ddringo yn y gaeaf.
Wrth i’r tymheredd ostwng a’r eira ddechrau pentyrru ar fynyddoedd Eryri, mae llawer o fynyddwyr yn ysu i gael dringo iâ unwaith eto.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr eira, yn aml nid yw’r tir oddi tanodd wedi rhewi - a gall defnyddio bwyelli iâ a heyrn dringo ar laswellt sydd heb rewi achosi niwed difrifol i rywogaethau planhigion prin sy’n tyfu yno.
Dywedodd Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal, sy’n cynrychioli’r tri sefydliad: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd, ac rwy’n falch iawn y bydd yr uwchraddiadau hyn yn golygu y bydd y prosiect yn parhau am flynyddoedd i ddod.
“Mae Cwm Idwal yn gartref i rai o’r rhywogaethau planhigion mwyaf prin yng Nghymru, yn cynnwys rhywogaethau Arctig-Alpaidd megis Lili’r Wyddfa a’r Tormaen cyferbynddail ond mae hyn yn denu miloedd o ymwelwyr sy’n mwynhau gweithgareddau hamdden yn yr ardal. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut all cadwraeth a hamdden awyr agored gydweithio i ofalu am ein hamgylchedd a’i fwynhau.”
Mae’r synwyryddion sydd wedi’u gosod yn uchel i fyny yn y cwm yn cofnodi tymheredd yr aer a’r tir ar amrywiol ddyfnderoedd ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i lawr i Ganolfan Wybodaeth Cwm Idwal. Yna gellir rhannu’r wybodaeth hon â dringwyr gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau gwybodus wrth ystyried a yw cyflwr y tywydd yn addas cyn iddynt gychwyn ar eu taith.
Dywedodd Tom Carrick, Swyddog Mynediad a Chadwraeth BMC: “Mae cael diweddaru’r prosiect ar y cyd hwn yn gyffrous iawn, gobeithio y bydd y data newydd yn llawer mwy dibynadwy ac y gellir ei ddefnyddio i helpu i warchod planhigion alpaidd uchel yng Nghwm Idwal. Er eich bod yn cael eich temtio i fynd allan i ddringo pryd bynnag mae yna eira ar y tir, dylai’r data hwn fod yn rhywbeth sy’n cael ei wirio bob dydd cyn mynd allan i ddringo yn y gaeaf, yn union fel edrych ar ragolygon y tywydd.”
Mae’r prosiect a gafodd ei sefydlu yn 2014, wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith dringwyr gaeaf sy’n ymweld â Chwm Idwal, ond ar ôl bron i 10 mlynedd roedd angen diweddaru’r offer. Bydd yr offer newydd hefyd yn caniatáu i ddata tymheredd hanesyddol gael ei arddangos.
Dywedodd Alison Roberts, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Hamdden Cyfrifol, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dringo yn y gaeaf yn ymwybodol o’r angen i leihau effaith eu gweithgaredd ar gynefinoedd sensitif a bregus. Bydd y data amser real sy’n cael ei gasglu yn ein helpu i gyfathrebu negeseuon am fynediad cyfrifol yn fwy effeithiol i rai sy’n defnyddio’r safleoedd ac yn helpu i amddiffyn y llystyfiant prin yn genedlaethol a bregus sydd i’w canfod yn Ogwen.”
Mae’r data tymheredd ar gael ar wefan BMC ac ar y sgrin gyffwrdd yng Nghanolfan Wybodaeth Cwm Idwal. Mae gwybodaeth bellach am ddringo cyfrifol yn y gaeaf ar gael trwy ddarllen y canllaw North Wales White Guide sydd ar gael yma.
Wales
Explore fairy-tale castles, glorious gardens and a wild Celtic landscape brimming with myths and legends on your visit to Wales.