Skip to content
Datganiad i'r wasg

Tŷ Tredegar a Gerddi Dyffryn yn dod yn fyw yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ddathlu natur a hanes ar y Maes

Yr ystafell aur yn Nhŷ Tredegar, wedi’i haddurno’n goeth â phren euraidd
Yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, De Cymru | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Gall ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni gael blas ar ddau eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sydd ar garreg eu drws, drwy gamu i mewn i fersiynau graddfa fach o Dŷ Tredegar a Gerddi Dyffryn ym mis Awst.

Gan ddefnyddio ystafell aur odidog Tŷ Tredegar a thirlun Edwardaidd Gerddi Dyffryn fel ysbrydoliaeth, gall ymwelwyr â stondin Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod gael eu cludo i ddau eiddo hudolus sydd o fewn tafliad carreg i'r maes eleni. Cynhelir yr Eisteddfod rhwng 3 a 10 Awst, ac mae’r dathliad blynyddol o ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg yn denu 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ceir cysylltiad arbennig rhwng yr Ymddiriedolaeth a'r Ŵyl eleni, a gynhelir ym Mharc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd, gan fod Godfrey Morgan, a etifeddodd Dŷ Tredegar ym 1875 ei hun yn gefnogwr balch o'r Eisteddfod. Ef a gyfrannodd y Corn Hirlas a ddefnyddir yn yr Eisteddfod hyd heddiw, fel rhan annatod o seremonïau Gorsedd Cymru. Mae arfbais teulu Godfrey, sef pen carw, ar y corn, ac mae lluniau ac ysgrifau ganddo ynghylch Eisteddfod 1893 a gynhaliwyd hefyd ym Mhontypridd, i'w cael ar y stondin.

Yn ôl Lizzie Smith Jones, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Ne Ddwyrain Cymru:

“Mae'n destun balchder a chyffro mawr inni y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Rondda Cynon Taf eleni, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i arddangos rhan fach yn unig o'r arlwy gwych sydd gennym i ymwelwyr yn Nhŷ Tredegar a Gerddi Dyffryn.

“Mae’n fraint cael rhannu mwy am gysylltiad Tŷ Tredegar â’r Eisteddfod a gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau darganfod mwy am stori Godfrey Morgan ac yn cael profi ein 'hystafell aur fach' ar y Maes.

“Mae cyfle hefyd i blant ac oedolion gael gwisgo i fyny fel yr Arglwydd a'r Fonesig Tredegar yn ein hadran gwisgo i fyny, gan dynnu llun hen ffasiwn ohonyn nhw’u hunain ar ein camera. Ar ben hyn i gyd, mae cyfle i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a chreu eu blodau a'u chwilod eu hunain i fynd adre o Erddi Dyffryn bach y maes!"

Yn ogystal â rhoi cyfle i ymwelwyr gael cipolwg o ddau leoliad lleol dros wythnos yr Ŵyl, bydd y sefydliad cadwraeth hefyd yn rhannu pasys dydd am ddim i rai sy'n ymweld â'r stondin, er mwyn iddynt gael gweld Gerddi Dyffryn a Thŷ Tredegar drostynt eu hunain yn hwyrach yn yr haf, neu leoliad arall o'u dewis o blith eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Mae Gerddi Dyffryn ar gyrion Caerdydd, heb fod ymhell o Rondda Cynon Taf, ac yn lle perffaith i ymweld fel teulu ym mhob tymor. Yn yr haf caiff ymwelwyr o bob oed gyfle i ymgolli ym myd natur. Plasty trawiadol yw Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd. Mae wedi'i leoli ar 90 erw o erddi a pharcdir, gan greu'r lle perffaith i fynd ar grwydr am y dydd ychydig y tu allan i Bontypridd.