Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a thîm Sioe Frenhinol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i greu gardd lesiant newydd er mwyn helpu pobl i gysylltu â natur

View of the wellbeing garden created for the Royal Welsh Show in 2024 and designed by National Trust Cymru gardeners.
Mwynhewch ychydig o natur gyda ni yn Sioe Frenhinol Cymru | © National Trust / Kate Rees

Eleni, gall ymwelwyr Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd fwynhau dod i gysylltiad â natur yn yr ardd lesiant newydd a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Cynlluniwyd yr ardd lesiant gan dîm garddio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru o Ddinefwr, Llanerchaeron a Chastell Powis a’i nod yw hyrwyddo bioamrywiaeth a deunyddiau amgylcheddol gynaliadwy yn ogystal â chynnig rhywle braf lle gall pobl dreulio amser yng nghanol natur, yn ddigon pell oddi wrth yr holl hwrlibwrli. Bydd Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal ar 22-25 Gorffennaf ac mae’n croesawu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Crëwyd yr ardd 15 metr newydd ar ffurf deilen dderwen. Bydd modd i’r ymwelwyr ddilyn llwybr wedi’i dorri trwy goed cyll canghennog at fan eistedd o’r neilltu yn y canol, fel y gallant ymgolli’n llwyr yn y man gwyrdd o’u cwmpas – rhywbeth a ysbrydolwyd gan goedwig law Geltaidd Cymru. Yn ogystal â’r derw safonol a’r cyll canghennog, ceir llu o bethau eraill i’w mwynhau, a hefyd darperir lle i fioamrywiaeth a bywyd gwyllt.

Yn ôl Alex Summers o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sef Prif Arddwr Llanerchaeron a Dinefwr ac arweinydd y gwaith o greu cynllun yr ardd hon: “Rydym yn falch dros ben o gael gweithio gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i greu gardd lesiant sy’n dod â phobl a natur at ei gilydd.

“Gwyddom fod treulio amser yn yr awyr agored yn dda i’n llesiant, felly gobeithio y bydd yr ymwelwyr yn mwynhau treulio ennyd neu ddau yn cysylltu gyda’r ardd a gobeithio hefyd y cânt eu hysbrydoli gan Bentref Garddwriaeth newydd y Sioe.”

Lleolir y man gwyrdd newydd ym Mhentref Garddwriaeth y Sioe, sef ardal a neilltuir yn benodol i ddathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru a ffocws Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gynwysoldeb a bioamrywiaeth.

Wrth sôn am yr ardd newydd a’r Pentref Garddwriaeth, dyma a ddywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Rydym wrth ein bodd o gael gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i gyflwyno Tawelwedd, ein Gardd Synhwyraidd newydd.

“Mae’r ardd hon yn rhan o’n Pentref Garddwriaeth newydd, a gaiff ei agor yn swyddogol gan Sue Kent ar ddiwrnod cyntaf y Sioe. Edrychwn ymlaen at groesawu ein gwesteion i’r ardal i archwilio’r Dysgubor, Marchnad y Tyfwyr, y Babell Flodau, Eisteddflodau, y Gerddi Micro a’r lleoliad bwyd a diod newydd, sef Garddfwyd.”

Bydd modd i’r ymwelwyr gael rhagor o wybodaeth am gynllun yr ardd a’r modd y cafodd ei chreu, yn ogystal â chael syniadau ar gyfer garddio gartref, mewn sgwrs gydag Alex Summers a gynhelir am 1.30pm ddydd Mercher 24 Gorffennaf. Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal ar brif lwyfan y Pentref Garddwriaeth.

Ar ôl i’r Sioe ddod i ben bydd yr elusen gadwraeth, mewn partneriaeth â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn rhoi’r planhigion i grwpiau cymunedol lleol fel y gall pobl a natur ym Mhowys barhau i elwa arnynt.

Yn ogystal â chreu’r ardd lesiant, bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o sgyrsiau dyddiol yn canolbwyntio ar ffermio cyfeillgar i natur yng Nghymru. Bydd y sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn stondin yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (887-CCA) yn yr Ardal Cefn Gwlad.

Beth sy ’mlaen

Dydd Llun 22 Gorffennaf

13:00-13:25
Sgwrs gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Bydd Siân Lloyd, y newyddiadurwr, yn siarad gyda Helen Pye o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ynglŷn â’r modd y mae’r elusen gadwraethol yn gweithio gyda ffermwyr i helpu natur. Hefyd, trafodir rôl yr elusen yn yr economi wledig a cheir cyfle i drafod dyfodol polisi ffermio yng Nghymru.

13:30-13:55
Sgwrs gyda Chastell Howell

Sut rydym yn cynhyrchu bwyd da gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd? Bydd Edward Morgan, Rheolwr ESG Castell Howell, yn ymuno â’r newyddiadurwr Siân Lloyd i drafod cynaliadwyedd cadwyni cyflenwi a gwaith prif gyfanwerthwr gwasanaethau bwyd annibynnol Cymru.

14:00-14:25
Diwrnod ym mywyd ffermwr cyfeillgar i natur

Mae Peter Smithies, ffermwr a thenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn rhannu ei brofiadau o ffermio yn Sir Benfro, a sut y llwyddodd i integreiddio’r amgylchedd i mewn i fodel busnes ei fferm.

14:30-16:00
Sesiwn galw heibio i gyfarfod â ffermwyr tenant Fferm Trehill, Sir Benfro

Dewch draw i glywed gan Peter a Gina Smithies sy’n ffermio Fferm Trehill yn Sir Benfro.

Dydd Mawrth 23 Gorffennaf

10:00-10:30
Sgwrs gyda’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy

Bydd Jonathan Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yn sgwrsio gydag Adele Jones o’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy i drafod yr hyn a wna’r elusen i gyflymu’r pontio tuag at system fwyd a ffermio fwy cynaliadwy.

10:30-12:00
Sesiwn galw heibio i gyfarfod ag Emma Douglas, porwr ar y Gŵyr

Dewch draw at y stondin i glywed gan Emma sy’n ffermio ar dir Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar y Gŵyr.

12:00-12:30
Diwrnod ym mywyd ffermwr cyfseillgar i natur

Bydd Emma Douglas, ffermwr a phorwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yn rhannu ei phrofiadau o ffermio ar y Gŵyr, a’r modd y mae wedi ymgorffori’r amgylchedd ym model ei busnes fferm.

Dydd Mercher 24 Gorffennaf

10:00-12:00
Sesiwn galw heibio i gyfarfod â ffermwr tenant Fferm y Parc

Dewch draw at y stondin i sgwrsio gyda Dan Jones sy’n ffermio Fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno.

13:00-13:25
Sgwrs gyda Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur Cymru

Bydd Jonathan Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn siarad gyda Tony Davies, Cyd-gadeirydd Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur Cymru, am ei brofiadau o ran adeiladu busnes ffermio llwyddiannus mewn partneriaeth â natur.

13:30-13:55
Lle i Dyfu

Ewch i’r Pentref Garddwriaethol i wrando ar Alex Summers, Prif Arddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yn sôn am greu gardd lesiant ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru a lle i dyfu yn Llanerchaeron, Ceredigion.

14:00-16:00
Sesiwn galw heibio i gyfarfod â ffermwyr tenant Maesmoi

Dewch draw i glywed gan Dewi a Val Edwards sy’n ffermio ym Maesmoi, Pumsaint, Sir Gaerfyrddin.

Dydd Iau 25 Gorffennaf

11:00-11:30
Tenantiaethau ffermio gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Bydd Gethin Evans, Uwch-reolwr Ystadau, yn sôn am broses denantiaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer gosod ffermydd – sut i ymgeisio, y pethau y dylid eu hystyried a’r modd y mae’r elusen yn gweithio gyda thenantiaid i ategu ffermio cyfeillgar i natur.