Skip to content

Codwch arian i ni

A group of visitors cycling through the Wallington estate in autumn
Cycling at Wallington, Northumberland | © National Trust Images/Chris Lacey

Os mai dyma’ch tro cyntaf yn codi arian neu os ydych chi’n hen law arni, dysgwch sut y gallwch godi arian i gefnogi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ofalu am y llefydd rydych chi’n eu caru. P’un a ydych yn codi £200 neu £2,000, byddwch yn helpu i ddiogelu’r llefydd hyn am genedlaethau i ddod.

Pam mae angen eich cefnogaeth arnom

Am dros 125 o flynyddoedd, mae pobl fel chi wedi bod yn helpu i ddiogelu a gofalu am lawer o’r llefydd sydd bwysicaf i ni yn y DU. Diolch i’ch cefnogaeth, rydym nawr yn gofalu am rai o dirweddau harddaf a mwyaf gwerthfawr ein cenhedloedd, i bawb, am byth.   

Drwy godi arian i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol, yn gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. 

Sut y gallai eich arian chi helpu 

  • Gallai £125 helpu i ofalu am 250 troedfedd o arfordir drwy gydol y flwyddyn 
  • Gallai £550 ariannu deuddydd o waith cadwraeth tecstilau arbenigol 
  • Gallai £2,500 blannu un cae pêl-droed (½ hectar) o goetir

Sut i gymryd rhan 

Dewiswch eich her
Gall eich her codi arian fod yn unrhyw beth dan haul. Gallech redeg, nofio neu feicio 20 milltir – gallech hyd yn oed wneud 300 naid seren neu olwyn-dro. Os byddai’n well gennych fod yn greadigol gartref, beth am ymrwymo i blannu 20 math newydd o flodyn yn eich gardd? Efallai yr hoffech osod her i’ch hun i ddarllen 100 o lyfrau eleni, neu efallai bod gennych syniad hollol wahanol.
Crëwch dudalen codi arian ar-lein
Ar ôl i chi benderfynu ar eich her neu weithgaredd, y ffordd hawsaf i godi arian ar gyfer eich her yw trwy greu tudalen JustGiving. Pan fyddwch yn barod, cofiwch rannu eich tudalen gyda’ch ffrindiau a’ch teulu a gofynnwch iddyn nhw noddi eich her. Beth am greu cystadleuaeth gyfeillgar i weld pwy all godi’r mwyaf o arian?Crëwch eich tudalen JustGiving
Cwblhewch a rhannwch eich her
Nawr, y cyfan sydd ar ôl i’w wneud yw cwblhau eich her a chael lot o hwyl wrth wneud hynny. Cofiwch rannu eich llwyddiant gyda’ch noddwyr a ni. Byddem wrth ein bodd yn gweld beth rydych chi’n ei wneud felly rhannwch lun neu fideo o’ch her ar ein Facebook, Instagram neu Twitter.
Gweithgareddau pobi yn Attingham Park, Swydd Amwythig
Gweithgareddau pobi yn Attingham Park, Swydd Amwythig | © National Trust Images/James Dobson

Awgrymiadau ar gyfer codi arian

Gofynnwch am gwmni

Gall cynnwys ffrindiau, teulu a chydweithwyr helpu i rannu’r baich, lledaenu’r neges a gwneud unrhyw her yn fwy o hwyl. Pwy all ymuno â chi?

Rhowch hwb i’ch rhoddion

Crëwch dudalen roddion ar-lein a chofiwch floeddio amdani. Rhannwch eich digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn eich papur newydd a’ch cymuned leol.

Gosodwch darged

Beth bynnag yw maint eich her, bydd targed yn eich ysgogi ac yn ysbrydoli eraill i’ch cefnogi.

Traciwch eich cynnydd

Mae llawer o ffyrdd o’ch cadw ar y trywydd cywir a chofnodi eich cynnydd, gan gynnwys apiau neu ddyddiadur neu siart.

Yn bwysicaf oll, mwynhewch

Cofiwch gael hwyl. Rydych chi’n gweud rhywbeth arbennig ar gyfer llefydd arbennig, felly mwynhewch eich hun a’r atgofion rydych chi’n eu creu.

Diolch o galon

Beth bynnag yw eich her, cofiwch fod pob ceiniog a godwch yn helpu i ofalu am y lleoliadau rydym yn gofalu amdanynt. O goed campus ein coetiroedd gwyrdd eang i liwiau llachar ein gerddi blodeuog, diolch am ddiogelu’r llefydd sy’n bwysig i ni i gyd.

Marathonau a digwyddiadau chwaraeon

Os buoch chi’n llwyddiannus yn y balot agored ar gyfer Marathon Llundain, y Great North Run neu unrhyw weithgaredd chwaraeon ac am redeg drosom ni, fe fyddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwn ddarparu fest redeg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i chi, help i sefydlu eich tudalen roddi ac anfon llawer o awgrymiadau ar sut i wneud y mwyaf o’ch cyfraniadau. Fe wnawn ni hyd yn oed anfon ein medalau eco i chi ar ôl i chi orffen. Cysylltwch trwy giving@nationaltrust.org.uk.

Dringo yn Chwarel Bolehill Quarry yn Longshaw, Rhosydd Burbage a Dwyreiniol, Swydd Derby
Dringo yn Chwarel Bolehill Quarry yn Longshaw, Rhosydd Burbage a Dwyreiniol, Swydd Derby | © National Trust Images/Robert Morris
Abseiling at Souter Lighthouse and The Leas, Tyne & Wear

Codi arian

Mae codi arian yn ffordd wych arall o gefnogi natur, hanes a harddwch.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Two people run along a gravel track at the Longshaw Estate in Derbyshire on a sunny winters day
Erthygl
Erthygl

Straeon codi arian: rhedeg er budd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Dysgwch sut y gwnaeth dau gefnogwr godi arian i ni drwy redeg pellter mawr: un drwy her aml-farathon ar draws Gogledd Dyfnaint a’r llall ar gwrs 125km i ddathlu ein 125 mlwyddiant. (Saesneg yn unig)

A family stand with their backs to the camera, looking out over Ullswater and the surrounding hills
Erthygl
Erthygl

Gwnewch rodd drwy eich ymddiriedolaeth elusennol 

Gallwch wneud rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy eich ymddiriedolaeth elusennol eich hun. Dysgwch sut mae ymddiriedolaethau elusennol fel Loteri Cod Post y Bobl, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Elusennol Jeremy Willson, wedi helpu ein gwaith. (Saesneg yn unig)

Ponies grazing at Lizard Point, Cornwall

Gwnewch rodd 

Mae byd natur a’n lleoliadau o harddwch hanesyddol mewn perygl dirfawr. Gyda’n gilydd, gallwn helpu natur i adfer, dod â phobl yn agosach at fyd natur, a sicrhau bod ein hanes cyffredin yn parhau i'n hysbrydoli ni i gyd. (Saesneg yn unig)

Thick frost on the ground with the windpump standing against a bright blue sky at sunrise at Horsey Windpump, Norfolk

Ein hachos 

Rydym yn deall yr effeithiau cadarnhaol y mae ein lleoliadau arbennig yn eu cael ar bobl, felly rydym yn gweithio’n galed i’w cadw nhw’n arbennig. Rydym yn gofalu am ein treftadaeth naturiol ac adeiledig gyffredin ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel ei bod yn para i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)

Runners crossing the Tyne Bridge, Newcastle, during the Great North Run
Erthygl
Erthygl

Run the Great North Run 

The Great North Run is the world's biggest half marathon. Discover more about the event and why you should run for charity with the National Trust.