‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’
Mwynhewch ddarganfod natur a’r awyr agored gyda’n rhestr ‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’.
Os ydych chi’n chwilio am antur, mae’r rhestr ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’ yn lle gwych i ddechrau darganfod. I sicrhau y gallwch gwblhau eich gweithgareddau’n ddiogel, dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i gwblhau eich gweithgareddau gyda diogelwch mewn golwg.
I sicrhau bod anturiaethwyr bach yn hyderus yn y gwyllt, mae’n bwysig eu bod nhw’n dysgu am ffiniau a sut i gadw’n ddiogel hefyd. Dylech ddod i’ch penderfyniad eich hun o ran beth sy’n ddiogel ac addas ar gyfer oedran a gallu eich plentyn. Argymhellwn fod yr holl weithgareddau ’50 peth’ yn cael eu goruchwylio gan oedolyn.
Does neb yn hoffi sanau gwlyb. Cyn i chi ddechrau arni, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo’n addas ar gyfer y tywydd a bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gadw’n gynnes, glân, diogel a sych. Os yw’r tywydd am fod yn wlyb neu’n wyntog, ceisiwch osgoi gweithgareddau sy’n cynnwys dringo neu grwydro’n agos at goed, creigiau neu donnau.
Does dim angen i chi deithio’n bell i ganfod coeden y gallwch ei dringo, cael cip y tu mewn iddi neu guddio y tu ôl iddi. Er bod lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn annog pobl i ganfod coed, nid yw rhai coed – fel coed hynafol – yn ymdopi’n dda gyda phobl yn eu dringo. Edrychwch i weld a yw’r goeden sy’n denu sylw eich plentyn wedi’i heintio, wedi’i difrodi, yn dangos arwyddion o dwf ffwngaidd neu’n arbennig mewn unrhyw ffordd cyn iddo chwarae arni.
P’un a ydych chi’n hel ffosiliau, yn nofio yn y môr neu’n darganfod ogofau, cadwch olwg ar amseroedd y llanw a’r cerrynt a chadwch yn glir rhag creigiau rhydd a chlogwyni. Gall creigiau fod yn llithrig iawn ar y traeth, hyd yn oed pan mae’n heulog. Felly byddwch yn ofalus os ydych chi’n archwilio pyllau glan môr a chadwch olwg am wrthrychau miniog, yn enwedig os ydych chi’n droednoeth.
Cyn i’ch plentyn wneud un o’r heriau actif, helpwch ef i ddewis rhywle sy’n ddiogel ac addas i’w allu. Os ydych chi’n bwriadu gwneud un o’n gweithgareddau mwy heriol, fel dringo creigiau, nofio yn y môr neu ganŵio, gallech gofrestru ar gyfer digwyddiad wedi’i drefnu i sicrhau’r amodau mwyaf diogel ar gyfer eich plentyn.
Mae bwyd ar ei orau yn ffres, ond peidiwch â rhoi unrhyw beth yn eich ceg yn yr awyr agored oni bai eich bod yn gwybod ei fod yn ddiogel i’w fwyta. Mae hyn yn arbennig o wir am ffwng, a all fod yn wenwynig.
Os ydych chi’n mwynhau byd natur gyda phicnic, ceisiwch osgoi unrhyw ardaloedd lle mae anifeiliaid wedi bod, a golchwch eich dwylo’n drylwyr cyn bwyta.
Mwynhewch ddarganfod natur a’r awyr agored gyda’n rhestr ‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’.
Mwynhewch ddiwrnod allan i’w gofio gyda ni yr haf hwn. Cynlluniwch eich antur natur eich hun a gweld faint o’n gweithgareddau ‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’ allwch chi roi cynnig arnynt. (Saesneg yn unig)
Lawrlwythwch restr weithgareddau lawn y '50 peth i'w gwneud cyn dy fod yn 11¾’.