Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Yng nghanol Conwy mae Tŷ Aberconwy, tŷ masnachol 14eg ganrif ac un o'r tai hynaf yng Nghymru. Tu mewn, darganfyddwch siop lyfrau ail-law sy'n llawn llyfrau i ddewis ohonynt.
Eleni, mae pennod newydd yn dechrau yn Nhŷ Aberconwy wrth i'r llawr gwaelod ail-agor fel siop lyfrau ail-law.
Mae'r adeilad wedi cael sawl defnydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys fel gwesty, arddangosfa a siop hen bethau. Rydym yn edrych ymlaen at y bennod newydd yma ac at groesawu pobl yn ôl i'r adeilad hanesyddol yma yng nghanol Conwy unwaith eto.
Mae gennym amrywiaeth o lyfrau fyddai at ddant pawb, felly dewch draw os ydych chi'n chwilio am eich llyfr nesaf.
Bydd y siop lyfrau ail-law yn agor pob Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn o 10yb i 4yp.
Os oes gennych chi lyfrau o ansawdd dda i’w rhoi, mae croeso i chi eu gollwng yn Tŷ Aberconwy yn ystod oriau agor. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd.
Drwy gefnogi’r siop lyfrau, nid yn unig ydych chi’n rhoi ail fywyd i lyfrau, ond rydych hefyd yn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i edrych ar ôl llefydd arbennig fel Tŷ Aberconwy i bawb, am byth.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.