Pam bod angen y prosiect?
Gwelodd Tŷ Aberconwy lawer o newidiadau o ran arddangosfa neu’r ffordd y mae’n cael ei ddehongli ers canol yr 1990au. Mae’r ffordd y mae ymwelwyr yn mwynhau amgueddfeydd ac adeiladau treftadaeth hefyd wedi newid. Rydym yn gweld mwy o ymweliadau gan deuluoedd ac fe fyddem yn hoffi defnyddio dull gwahanol o rannu hanes difyr y lle arbennig hwn. Rydym hefyd eisiau gweithredu fel lle i’r gymuned leol ei ddefnyddio.
Pam bod Tŷ Aberconwy mor arbennig?
Tirnod yng Nghonwy
Adeiladwyd Tŷ Aberconwy yn yr 14eg ganrif, a dyma’r unig dŷ masnachwr sydd wedi goroesi yng Nghonwy. Mae’n cynnwys dau lawr isaf o garreg sy’n cynnal llawr arall ffrâm bren sy’n ymwthio allan dros y stryd.
Ychydig sy’n hysbys am hanes cynnar y tŷ ond daeth dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1934. Roedd wedi ei brynu cyn hynny gan Alexander Campbell Blair oedd wedi ei achub rhag cael ei bacio a’i gludo i’r Unol Daleithiau.