Skip to content

Hanes a chwedlau Cwm Idwal

Pedwar cerddwr yn dringo bryn creigiog ger Pen yr Ole Wen, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd. Mae llawer o gerrig anferth ar y bryn ac mae copa i’w weld yn y cefndir.
Cerddwyr ger Pen yr Ole Wen | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae Cymru’n wlad o greaduriaid mytholegol a hen chwedlau, ond mae gan Gwm Idwal ei storïau ei hun. Gyda’i gribau o greigiau ysgithrog yn nannedd y gwynt, a ffurfiwyd gan dân folcanig a’u sgrafellu gan rew, mae’n lle sydd ag awyrgylch unigryw iawn iddo.

Cwm Idwal, Eryri

Tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl gwthiwyd y creigiau i fyny gan ymchwydd tanddaearol anferth a greodd holl fynyddoedd Eryri. Gwelodd y mynyddoedd, a oedd unwaith yn cymharu a Mynyddoedd Himalaia, eu copaon yn cael eu sgwrio gan y gwynt a’r tywydd i’r maint a welwn ni heddiw.

Charles Darwin yn ymchwilio

Am ganrifoedd roedd cyfrinach ffurfio Cwm Idwal yn union hynny - cyfrinach. Ond pan gyrhaeddodd Charles Darwin yma yn 1831 i ymchwilio i’r hyn fyddai’n dod yn gyhoeddiad byd-enwog ond dadleuol ganddo ‘On the Origin of Species’, gwelodd y cliwiau cyntaf am sut y ffurfiwyd Cwm Idwal.

Ffosiliau bychan bach

Sylwodd bod ffosiliau bychan bach o anifeiliaid a phlanhigion y môr yn y cerrig gwasgaredig, gan ddarlunio’n berffaith eu bod unwaith wedi bod yn llawr creigiog i’r Cefnfor Iapetus.

Ail ddarganfyddiad Darwin

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach dychwelodd Darwin a sylweddoli bod y dirwedd wedi ei cherfio gan rewlifau anferth. Roedd yr afonydd yma o rew wedi gadael cwm ar ôl lle â’r dystiolaeth wedi ei chrafu ar bob craig.

Golygfa o’r uchelderau i lawr o’r Garn ar draws tirwedd mynyddig, dan eira gyda Llyn Idwal i’w weld yn y dyffryn isod yn Eryri, Cymru.
Edrych i lawr ar Lyn Idwal o’r Garn | © National Trust Images/Joe Cornish

Chwedlau Cwm Idwal

Gelwir y marian rhewlifol mwyaf yn y cwm yn Fedd y Cawr. Tybir mai dyma fedd Idwal, cawr o chwedl sydd ar goll yn niwloedd amser.

Chwedl drist cenfigen, chwant a marwolaeth

Enwir y llyn ar ôl dyn ifanc a fu farw mewn ffordd drasig. Yn ôl y chwedl roedd Idwal yn fab i’r tywysog o’r 12fed ganrif, Owain Gwynedd. Yn hardd ac ysgolheigaidd, nid oedd anian rhyfelwr yn Idwal ac fe’i hanfonwyd i aros mewn lle diogel gyda’i ewythr, Nefydd, tra roedd ei dad yn rhyfela.

Alltud

Roedd Nefydd yn ddyn cenfigennus a chanddo fab ei hun Rhun, oedd, yn wahanol i Idwal, yn ddi-glem a di-gymeriad. Wedi ei rwygo gan chwerwedd, aeth Nefydd a’r bechgyn am dro ger y llyn a gwthio Idwal iddo, gan chwerthin am ben y dyn ifanc wrth iddo foddi. Roedd Owain wedi torri ei galon ac alltudiodd Nefydd o’i diroedd. Yna rhoddodd enw ei fab ar y llyn.

Fersiwn wahanol o’r chwedl

Mewn fersiwn arall o’r chwedl, mae Idwal yn dywysog o’r wythfed ganrif, mab Cadwaladr, a ddioddefodd dynged debyg. Fe’i llofruddiwyd gan elyn oedd yn chwennych ei diroedd.

Y llyn lle nad oes adar yn hedfan

Yn ôl y chwedl ffodd yr adar oedd yn byw ar y llyn mewn galar oherwydd y weithred erchyll a gyflawnwyd yno. Hyd y dydd heddiw, credir bod yr adar yn cadw at yr addewid honno i beidio â hedfan dros y dŵr i ddangos parch i’r tywysog fu farw.

Yn 1954 dynodwyd Cwm Idwal yn Warchodfa Natur Genedlaethol, y gyntaf yng Nghymru.

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.

Darganfyddwch fwy am Garneddau a Glyderau

Dysgwch sut i gyrraedd Carneddau a Glyderau, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Cerdded a dringo ar Dryfan 

Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.