Darganfyddwch fwy am Craflwyn a Beddgelert
Dysgwch sut i gyrraedd Craflwyn a Beddgelert, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae fferm Hafod y Llan yn eistedd ar lethrau deheuol yr Wyddfa, tirwedd sy’n gyfoeth o hanes gyda chofnodion yn estyn yn ôl i’r 12fed ganrif. Darllenwch fwy am hanes y fferm fwyaf sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn un o’r cyfeiriadau cynharaf at y fferm, ysgrifennodd Llywelyn Ein Llyw Olaf, yr olaf o Dywysogion Gwynedd, lythyrau i Edward I o Hafod y Llan. Yn y llythyrau, mae Llywelyn yn datgan sut cafodd ei ddynion eu cam-drin gan warchodluoedd Edward mewn helfa gerllaw, a byrlymodd tensiynau rhwng y ddau am gryn amser.
Mae olion o orffennol diwydiannol Hafod y Llan i’w gweld o gwmpas y lle o hyd - cadwch olwg am lethrau a hen gytiau gweithwyr chwarel Cwm Llan. Yn ôl y tebyg, agorwyd y chwarel yn y 1840au, gyda’r prif gyfnod o ddatblygu’n estyn o’r 1860au i’r 1870au, pan adeiladwyd tramffordd i ddyffryn Nant Gwynant. Yn ddiweddarach, cafodd melin ddŵr ei hadeiladu a’i hymestyn i brosesu copr.
Diolch i’r chwarel, roedd llwybr yn barod yn arwain o Nant Gwynant i Gwm Llan, ymhell cyn i Syr Edward Watkin ymddeol i gaban gerllaw. Ar ôl gwneud ei ffortiwn yn y diwydiant rheilffyrdd, trefnodd Syr Watkin i’r llwybr gael ei ymestyn i’r copa, ac ariannwyd y gwaith ganddo.
I ddathlu agoriad swyddogol Llwybr Watkin, y llwybr troed dynodedig cyntaf yng ngwledydd Prydain, yn rhyfeddol, gwahoddwyd y Prif Weinidog William Gladstone i’r digwyddiad lansio swyddogol.
Ym 1892, mentrodd torf o dros 2,000 o bobl drwy’r glaw i’r amffitheatr naturiol yng Nghwm Llan i wrando ar Gladstone yn siarad. Enwyd y graig fawr y safodd wrth ei hymyl yn Garreg Gladstone. Roedd yna lawer o ganu, a mynychwyd y digwyddiad gan gôr Porthmadog a Chaernarfon yn ogystal â’r AS Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach.
Mae Hafod y Llan wedi bod yn fferm fynydd am o leiaf 200 mlynedd. Ar ddechrau’r 1900au, mae’n siŵr y byddai gweithwyr y fferm wedi’i throi hi am Gwm Llan ac aros yn yr Hafoty, sef lloches gerrig, tra’n torri gwair. Pyrs Williams oedd un o gymeriadau mwyaf diddorol Hafod y Llan. Roedd yn adnabyddus am ei arloesedd a’i hiwmor.
Penderfynodd y teulu Williams ymddeol o ffermio ym 1997 a lansiwyd apêl i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi arian i brynu a diogelu’r fferm eiconig hon. Rhoddodd Syr Anthony Hopkins £1m drwy ei rôl fel Llysgennad Apêl Eryri, a oedd newydd ei sefydlu.
Daeth y genedl ynghyd i warchod y dirwedd eiconig hon, gan godi £4m ym 1998 i brynu a diogelu’r fferm.
Ers hynny, mae Hafod y Llan wedi’i ffermio’n fewnol gan ein rheolwr fferm a thîm o fugeiliaid. Rydym wedi treialu dulliau newydd o ffermio cadwraeth, cynnal ‘Yr Helfa’, sef perfformiad awyr agored gan Theatr Genedlaethol Cymru, a guradwyd gan y Bardd Gillian Clarke, a gweithio’n agos gydag ysgolheigion ffermio ifanc yn Llyndy Isaf gerllaw.
Dysgwch sut i gyrraedd Craflwyn a Beddgelert, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.
Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.
Dysgwch sut mae Hafod y Llan ar flaen y gad fel fferm gynaliadwy i’r dyfodol.
Mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert yn trawsnewid y ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu ac yn ariannu gwaith cadwraeth hanfodol.
Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.