Skip to content

Pethau i'w gweld a'u gwneud yng Nghregennan

Walker enjoying a peaceful moment at Cregennan
Cerddwr yn mwynhau tawelwch yng Nghregennan | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Ewch am dro mewn tirlun hynafol sydd â thystiolaeth o weithgaredd dyn sy'n ymestyn yn ôl dros 4,000 o flynyddoedd. Cewch fwynhau golygfeydd trawiadol, daeareg ddiddorol a bywyd gwyllt sy'n ffynnu.

Hanes difyr

Ers canrifoedd lawer, mae pobl wedi bod gyda chysylltiad â'r tir yma. Mae'n debyg bod y meini hirion a'r carneddi hyn yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd ac mae'r hen gorlannau defaid yn adlewyrchu hanes hir o ffermio sy'n parhau hyd heddiw. Mae yma sawl adfail bach, gan gynnwys Hafoty Fach, man geni i emynydd o'r 18fed ganrif, a oedd yn dwyn yr enw Ioan Rhagfyr. 

Golygfeydd godidog 

Ar ddiwrnod clir, gallwch fwynhau golygfeydd godidog ar draws afon Mawddach tuag at Abermaw, lle mae ein darn cyntaf o dir, Dinas Oleu, wedi'i leoli ar y pentir uwchlaw'r dref. Gallwch hefyd ddringo Pared y Cefn Hir i fwynhau panorama o olygfeydd mynyddig. 

Cylchdaith Cregennan
Cylchdaith Cregennan | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Cylchdaith Cregennan 

Mae’r gylchdaith gerdded cymedrol tair milltir a hanner yma yn ffordd wych o ddarganfod daeareg hynod ddiddorol y dirwedd syfrdanol ond garw oddi'ch cwmpas, sy’n gartref i gymysgedd cyfoethog o fywyd gwyllt, hanes a dau lyn sy’n cysgodi islaw crib creigiog Pared y Cefn Hir.

Mae opsiwn hefyd ar hyd y daith i dorri'n ôl i wneud cylchdaith fyrrach a haws o un milltir a hanner. 

Llun o'r awyr o Llynnau Cregennan, Eryri
Llun o'r awyr o Llynnau Cregennan, Eryri | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Dau lyn arbennig 

Rhoddwyd y ddau lyn a'r tir cyfagos i'n gofal ym 1959 gan yr Uwchgapten C. L. Lynne-Jones, er cof am ei ddau fab a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd.

Mae ansawdd y dŵr yn y llynnoedd yn eithriadol o dda. Mae modd gweld i lawr i ddyfnderoedd o 8 metr, sy'n golygu eu bod ymhlith yr enghreifftiau gorau o lynnoedd ucheldir sy'n isel mewn maetholion (oligoroffig) yng Nghymru. Maent yn gartref i amrywiaeth o blanhigion ac inferrtebratau, sy'n cynnal llawer o rywogaethau fel madfallod dŵr palfog sy'n bridio a gwenoliaid prin. 

Am ymholiadau pysgota ar y llynnoedd, cysylltwch gyda Pysgodfa Llynnoedd Cregennan os gwelwch yn dda ar 01341 250426.

Helpwch ni i amddiffyn y llynnoedd

Gofynnwn yn garedig i bobl beidio â nofio, caiacio, padlfyrddio, na chaniatáu i gŵn fynd i mewn i'r llynnoedd. Mae hyn yn helpu i leihau'r risg o gyflwyno rhywogaethau goresgynnol o ddyfroedd cyfagos a llygryddion o driniaethau cŵn ac eli haul.