Skip to content

Sylfeini Adeilad y Cywasgydd o’r 1930au – Arolwg Geoffisegol

Compressor House Foundations
1930's Photo of Compressor House Foundations | © Dolaucothi

Rydym wedi bod yn cynnal arolwg geoffisegol yn Nolaucothi o amgylch sylfeini adeilad concrit rhyfedd ar y Mwynlawr.

Dangosir yr adeilad ar fap sy’n dyddio i’r flwyddyn 1935 ac fe’i labelir fel sylfaen ar gyfer Adeilad Cywasgydd o’r 1930au. Byddai’r adeilad hwn wedi darparu aer cywasgedig ar gyfer y peiriannau cloddio a ddefnyddid dan y ddaear.

Mae gwaith ymchwil diweddar ar yr archifau gan yr Athro Barry Burnham yn dangos y cyfeirir at yr un adeilad mewn gwahanol gyfnodau, cyn y 1930au. Mae’n bosibl bod y cyfeiriad cyntaf i’w olrhain i’r 1880au!

Mae’n ymddangos bod yr un sylfeini wedi cael eu defnyddio a’u hailddefnyddio gan wahanol weithrediadau cloddio am fwy na 50 mlynedd, gan eu haddasu rhyw gymaint ar gyfer gwahanol beiriannau

Edward Taylor with Geophys Equipment
Edward Taylor with Geophys Equipment | © Dolaucothi

Efallai y bydd modd i’r arolwg geoffisegol roi syniad inni beth oedd siâp a maint rhai o’r sylfeini cynnar. Yn ei dro, efallai y bydd hynny’n cyfrannu at brosiect posibl gan yr Athro Burnham i gloddio’r safle. Mae’r Athro Burnham eisoes wedi dechrau clirio a chofnodi’r rhannau o’r adeilad sydd uwchben y ddaear.

Ar gyfer yr Ŵyl Archaeoleg a gynhelir yn Nolaucothi ar 21-28 Gorffennaf, mae’r Athro Burnham yn gobeithio cloddio a chofnodi sylfeini Adeilad y Cywasgydd, gan chwilio am ragor o gliwiau’n ymwneud â hanes yr adeilad.

Gyda gobaith, bydd modd i’r ymwelwyr wylio’r gwaith cloddio archaeolegol hwn yn fyw yn ystod yr Ŵyl. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir.

Dyma weithgareddau eraill a gynhelir rhwng 21 a 28 Gorffennaf:

  • Dysgu am archaeoleg gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a fydd yn arddangos crochenwaith a lampau olew o gyfnod y Rhufeiniaid
  • Gwneud eich Lamp Olew Rufeinig eich hun
  • Dilyn y Llwybr Archwilio Treftadaeth
  • Chwarae Gwisgo, Gemau Rhufeinig, Lliwio

Digwyddiadau arbennig dan arweiniad Simon Timberlake a Brenda Craddock o’r Grŵp Ymchwil Mwyngloddio Hynafol ar gyfer penwythnos y 27ain a’r 28ain o Orffennaf.

Ailgreu offer cynhanesyddol.

Gweithdy Cerrig Morthwylio gyda Brenda Craddock.

Arddangosiadau byw o sut i wneud offer cerrig morthwylio traddodiadol a fyddai wedi cael eu defnyddio mewn mwyngloddiau cynhanesyddol. Dydd Sadwrn a dydd Sul, 11am – 1pm.

Mwyndoddi Copr gyda Simon Timberlake.

Arddangosiadau byw o sut i fwyndoddi copr, o fwyn i fetel, mewn ffwrnais gynhanesyddol a ailadeiladwyd yn bwrpasol. Dydd Sadwrn a dydd Sul, 1.30pm – 4pm

Furnace
Furnace | © Simon Timberlake

Hefyd (dydd Sadwrn 11am yn unig) Cyflwyniad gan Simon Timberlake: Archaeoleg Mwynglawdd Aur Rhufeinig yn Rosia Montana, Romania