Skip to content

Diwrnodau allan i’r teulu yn Nolaucothi

Diwrnodau allan i’r teulu yn Nolaucothi
Diwrnodau allan i’r teulu yn Nolaucothi | © Paul Harris

O anturiaethau tanddaearol ym mherfeddion y mwyngloddiau aur i brofiad ‘panio am aur’ ar y mwynlawr – mae yna ddigonedd o hwyl i’r holl deulu yn Nolaucothi.

Gwisgwch fel mwyngloddiwr a mentrwch i dwneli, ceuffyrdd a phonciau y byd sy’n llechu dan eich traed, neu beth am fwynhau gweithgareddau uwchben y ddaear ar y mwynlawr?

Teithiau Tanddaearol

Cofiwch drefnu lle ymlaen llaw. Mynediad a theithiau am ddim i aelodau’r YG

Mae’r daith Mwyngloddio drwy Hanes yn ffefryn pendant ymhlith teuluoedd – sef taith danddaearol dywyll trwy’r talcenni Fictoraidd lle gall plant weld sut brofiad a gâi’r plant a arferai weithio yn y mwyngloddiau ers talwm.

Ceir manylion llawn am yr holl deithiau tywysedig, ynghyd â dolenni ar gyfer y system archebu, yma.

Croesewir teuluoedd ar bob un o’r Teithiau; ond am resymau diogelwch, rhaid i blant fod yn 1m o daldra fan leiaf (fel arfer, plant oddeutu 5 oed) ar gyfer mynd dan y ddaear.

Gweithgareddau ar y Mwynlawr

Dewch i weld peiriannau mwyngloddio’r gorffennol ar y Mwynlawr sy’n dyddio i’r 1930au; man agored mawr gyda choetir ar ei gyrion a lle delfrydol i gemau a chwarae yn yr awyr agored. Dewch â phicnic, chwiliwch am adar a bywyd gwyllt arall, rhowch gynnig ar banio am aur neu ymlaciwch wrth y Ffrwd a’r Heulddisg Aur.

Profiad Panio am Aur

Gafaelwch mewn padell a hidlwch y graean – tybed a welwch chi fflach o aur dan y dŵr? Cewch gadw unrhyw beth y dewch o hyd iddo – ond cofiwch, nid aur yw popeth melyn!

Y Ganolfan Faes

Os hoffech gael hwyl dan do, yn enwedig pan fydd hi’n bwrw glaw, ewch i’r Ganolfan Faes lle ceir Bocsys Dillad, Deunyddiau Lliwio a Gemau Dan Do, yn ogystal â mapiau mwyngloddio, llyfrau, archifau ac albwm lluniau’n ymwneud â Dolaucothi. Yma, ceir atgynyrchiadau o’r Gemwaith Aur Rhufeinig hardd y daethpwyd o hyd iddo ar ystad Dolaucothi ym 1799, yn ogystal â gwybodaeth am Syr John a’r Fonesig Gardner Wilkinson, sef archaeolegydd a botanegydd enwog o Oes Fictoria â chysylltiadau agos â theulu Johnes Dolaucothi.

Llwybr Natur

Dilynwch yn ôl troed botanegydd, sef y Fonesig Gardner Wilkinson, ar Lwyr y Botanegwyr. Ewch i nôl Taflen a Phecyn Botanegydd o’r dderbynfa ac ewch ar eich hynt eich hun.

Cerdded Ystad Dolaucothi

Ar wahân i’r Mwynlawr, ceir 24 cilomedr o lwybrau ag arwyddbyst ar Ystad Dolaucothi, sy’n addas i bawb o bob oed. Edmygwch y golygfeydd godidog oddi ar y llwybrau neu mwynhewch fynd am dro hamddenol ar hyd Afon Cothi ar Lwybr y Parcdir.

Bydd y llwybrau’n eich tywys trwy ddolydd blodau gwyllt, coetiroedd llawndwf, tir ffermio agored a rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Sir Gaerfyrddin; cynefin delfrydol i fywyd gwyllt gyda myrdd o adar gwahanol.

Cofiwch ein tagio @dolaucothiNT/YG yn unrhyw luniau a bostiwch. Rydym wrth ein bodd yn gweld eich anturiaethau i lawr yn y mwyngloddiau neu o gwmpas yr Ystad.

Cynllunio ymweliad eich teulu

Er mwyn eich helpu i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw, dyma rywfaint o wybodaeth hollbwysig:

Rhaid trefnu’r holl Deithiau Tanddaearol ymlaen llaw. Rhaid i blant fod yn 1m o daldra fan leiaf (fel arfer, plant oddeutu 5 oed).

Cewch yr holl amseroedd agored ar gyfer gwahanol rannau’r eiddo yma. Gwiriwch yr amseroedd agor cyn teithio, oherwydd gall y patrwm newid o dymor i dymor.