Parc Carafanau a Chartrefi Modur Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Gyda thymor o niwloedd a ffrwythlondeb ar ein gwarthaf, a’r coed newydd ddechrau troi, dyma’r amser i fwynhau gwyliau’r Hydref yn Nolaucothi.
Dim ond taith gerdded fer o'r Mwyngloddiau Aur, ac yn hawdd ei gyrraedd o'r A482, mae'r safle tawel, diarffordd hwn yn gyfoeth o natur a bywyd gwyllt. Mae hefyd yn safle delfrydol i archwilio gweithfeydd tanddaearol ac archaeoleg Rufeinig unigryw Dolaucothi (cofiwch drefnu’r holl Deithiau Tanddaearol ymlaen llaw, drwy’r wefan hon).
Mae Ystâd Dolaucothi, sy’n ddwy fil a hanner o erwau, yn cynnig 25Km o lwybrau ag arwyddbyst, o dro ar lan yr afon i heic yn yr ucheldir.
Gallwch drefnu eich gwyliau yn ein Parc Carafanau a Chartrefi Modur ar ein gwefan: https://www.nationaltrust.org.uk/holidays/wales/dolaucothi-caravan-motorhome-park
Math o lety | Carafanau, Cartrefi Modur
Nifer o lefydd/lleiniau | 25
Y Tymor | 31 Maw 2023 - 30 Hyd 2023
Isafswm arhosiad | 1 noson
Nifer mwyaf o gŵn ar bob llain | 2
Cyfleusterau:
Sylwch: nid oes toiledau na chawodydd ar gael ar y safle hwn. Rhaid i chi fod yn hunangynhaliol. Mae gennym bwyntiau gwaredu cemegau a dŵr budr.
Cyrraedd:
Mae staff ar y maes ar ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Gall ein staff eich helpu i ddewis llain.
Os byddwch chi'n cyrraedd y tu allan i'r amseroedd uchod, mae croeso i chi ddewis eich llain eich hun yn dibynnu a wnaethoch chi archebu llain galed neu lain laswellt.
Cŵn:
Mae Dolaucothi yn faes cyfeillgar i gŵn ac mae croeso i gŵn ufudd aros ar y safle heb gost ychwanegol. Rhaid cadw cŵn ar dennyn trwy'r amser a rhoi ymarfer corff iddynt i ffwrdd o’r gwersyllwyr eraill. Codwch faw eich cŵn yn syth. Mae nifer o lwybrau cerdded cŵn i ddewis ohonynt ar y safle ac yn yr ardal leol.
Archebion grŵp:
Llenwch y ffurflen ymholi ar gyfer archebion grŵp ar ein gwefan (fel yr uchod).
Mwynderau:
O fewn pellter cerdded i Fwynfeydd Aur Dolaucothi.
Storio:
Lle i storio 20 o garafanau y tu allan i’r tymor.