Profiad Iard Mwynglawdd Dolaucothi
Dewch i brofi gweithgareddau newydd i'r teulu cyfan
Os yw’n well gennych chi aros ar lefel y tir a pheidio â mentro i’r mwynglawdd, mae yna ddigon i’w wneud o hyd. Dewch o hyd i beiriannau hanesyddol o’r 1930au, profiad panio aur newydd a llwyth o wybodaeth am yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys yn y DU.
Mae iard y mwynglawdd yn Nolaucothi wedi’i adnewyddu’n ofalus ar gyfer 2023, ac mae bellach yn cynnwys profiad panio aur newydd y gall pawb ei fwynhau.
Gafaelwch mewn padell ac ewch i chwilio am aur, pwy a ŵyr beth fyddwch yn dod ar ei draws. Mae’r gofer dŵr newydd yn llifo o waelod nant y mynydd i’r olwyn aur, ac mae’n hygyrch i bawb gymryd rhan.
Mae’r olwyn aur wedi’i hysbrydoli gan ddarn o emwaith aur Rhufeinig Dolaucothi, a ddarganfuwyd ar y safle ym 1799 ac sydd bellach yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Mae croeso i deuluoedd ddod â phicnic i eistedd ac ymlacio yn iard y mwynglawdd ond cofiwch ymweld yn gyfrifol a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi ar ddiwedd y dydd.
Dysgwch ragor am hanes Dolaucothi yn y Ganolfan Maes, lle cewch hyd i ystod o archifau, mapiau, llyfrau cyfair ac arddangosfeydd.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer mynediad safle yn unig (ac eithrio teithiau tywysedig o dan y ddaear) wrth gyrraedd. Os yw’n well gennych chi daith dywysedig, yna archebwch ymlaen llaw ar-lein drwy ein gwefan cyn i chi ymweld. Mae mynediad am ddim wrth gwrs i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am y prisiau diweddaraf ewch i’n tudalen hafan.