Skip to content

Ymweliadau ysgolion â'r unig fwynglawdd aur Rufeinig hysbys yn y DU

Taith Dywysedig Danddaearol yn Nolaucothi
Taith Dywysedig Danddaearol yn Nolaucothi | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae Mwyngloddiau Aur Dolaucothi yn cynnig profiad dysgu unigryw yn yr awyr agored i fyfyrwyr o bob oed

Wyddoch chi?

Mae ymweliad â Dolaucothi yn hwyl ac anffurfiol, ond mae'n cynnig cyd-destun cyfoethog ar gyfer dysgu.

Mae olion mwyngloddio a nodweddion archaeolegol eraill yn ein helpu i groniclo hanes diwydiannol a chymdeithasol ein hardal dros sawl cyfnod o amser.

Yn oes y Rhufeiniaid, drwy gydol oes Fictoria/ Edward ac mor ddiweddar â’r 20fed ganrif, creodd gweithgarwch y mwyngloddiau aur ardal o ddiwydiant trwm, a hynny mewn lleoliad lle’r oedd y rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn amaeth ucheldirol a choedwigaeth. Mae tystiolaeth ffisegol o bob cam o’r broses gloddio yn bresennol yma yn y pyllau agored a’r gwaith tanddaearol.

Mae Dolaucothi yn rhoi’r cyfle i chi archwilio sut mae dau ddiwydiant gwahanol, mwyngloddio ac amaethyddiaeth - y ddau o bwys enfawr i hanes a datblygiad Cymru - yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yma yn Nyffryn Cothi.

Yn safle o bwys archeolegol, daearegol a botanegol sylweddol, mae Dolaucothi yn Heneb Gofrestredig ac yn SoDdGA. Rydym yng nghanol cefn gwlad Sir Gâr, ond mae’n hawdd cyrraedd yma oddi ar yr A482.

 

Teithiau Tywys o Dan y Ddaear

Ymwelwyr dan y ddaear mewn mwynglawdd tywyll
Ymwelwyr dan y ddaear mewn mwynglawdd tywyll | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae ein Taith Mwyngloddio Drwy Hanes yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar fywydau beunyddiol ac amodau gwaith cloddwyr aur Dolaucothi, gan gamu’n ôl tua 2000 o flynyddoedd. Mae'r Daith yn mynd i gloddfa dywyll, sy’n gyffrous iawn i fyfyrwyr ac yn pryfocio’r meddwl.

Mae ein Tywyswyr yn storïwyr cyfeillgar, profiadol, hwyliog a gwybodus, sy'n hapus i annog chwilfrydedd, dehongli a darganfod ymhlith myfyrwyr.

Gall teithiau tywys gael eu teilwra i ofynion dysgu eich grŵp os rhowch wybod i ni am unrhyw bynciau sy'n arbennig o berthnasol i'ch cwricwlwm, e.e.

Hanes Cymdeithasol Mwyngloddio

  • effaith mwyngloddio ar y gymuned leol
  • y newid o waith amaethyddol i fwyngloddio
  • cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd
  • sut a lle roedd gweithwyr yn byw, sut roedden nhw’n teithio i'r gwaith
  • y bwyd roedden nhw’n ei fwyta o dan ddaear
  • yr oriau hir a'r caledi corfforol o gloddio am aur
  • plant yn gweithio mewn mwyngloddiau

 

Hanes Diwydiannol

  • dulliau cloddio Rhufeinig, gan gynnwys cloddio hydrolig
  • newidiadau technolegol dros 2 fileniwm
  • cloddio modern (Fictoraidd / Edwardaidd, 20fed ganrif)
  • economeg a llwyddiant cymharol gwahanol gyfnodau cloddio

 

Byd Natur

Iard Mwynglawdd Dolaucothi ac Ystad Dolaucothi o’i hamgylch
Iard Mwynglawdd Dolaucothi ac Ystad Dolaucothi o’i hamgylch | © National Trust Images/Andrew Butler

Er bod Dolaucothi yn safle treftadaeth ddiwydiannol, mae'r mwyngloddiau aur wedi'u hamgylchynu gan Ystâd Dolaucothi, ardal ffermio ucheldirol anghysbell a hardd sydd dan ei sang â nodweddion naturiol a bywyd gwyllt.

 

 

Ar Iard y Mwynglawdd

Mae Iard y Mwynglawdd wedi'i hamgylchynu gan goetir, sy'n gartref i amrywiaeth o adar, fflora a ffawna i fyfyrwyr eu hastudio a'u mwynhau.

Mae croeso i fyfyrwyr gymryd rhan yn y Profiad Panio Aur ar eu liwt eu hunain, sydd wedi'i leoli ym mhen pellaf Iard y Mwynglawdd, y tu hwnt i'r Nant a’r Heulddisg Aur

Mae'r siediau yn Iard y Mwynglawdd yn cynnwys arddangosfeydd o beiriannau ac offer mwyngloddio o'r 1930au

Mae ein Canolfan Faes yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u labelu o wrthrychau mwyngloddio, mapiau tanddaearol a mapiau o’r wyneb, archifau ac arteffactau i fyfyrwyr eu hastudio.

Mae digon o fyrddau picnic, a rhai ohonynt o dan do

 

Panio am aur ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi
Panio am aur ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi | © National Trust Images/John Millar

Hygyrchedd

Mae ein teithiau safonol yn cynnwys llethrau serth a grisiau i'r mwynglawdd, yn ogystal â rhai arwynebau gwlyb / anwastad o dan ddaear. Fodd bynnag, gallwn gynnig taith i mewn i fwynglawdd gyda mynediad gwastad a dim grisiau, sy'n addas i fyfyrwyr â symudedd mwy cyfyngedig. I gael manylion llawn am hygyrchedd y safle yn gyffredinol, gweler ein Datganiad Mynediad.

 

 

I drefnu eich ymweliad

Llenwch ffurflen archebu a'i dychwelyd, gyda thystiolaeth atebolrwydd cyhoeddus*, i dolaucothi@nationaltrust.org.uk. Fe welwch gopi o'n Hasesiad Risg ynghlwm yma. Rhaid trefnu pob ymweliad grŵp ymlaen llaw. Ceisiwch archebu'n gynnar i osgoi cael eich siomi.

* Rhaid i’r holl grwpiau addysg gyflwyno tystiolaeth sy’n dangos bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gydag indemniad o £5m fan leiaf ar gyfer adeg eu hymweliad.  Gellir dangos tystiolaeth o yswiriant trwy rannu llythyr gan eich darparwr/brocer yswiriant yn datgan bod gennych yswiriant digonol. Ni fydd yn ofynnol i’r llythyr hwn fod wedi’i gyfeirio’n benodol at yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; gall fod yn llythyr ‘I bwy bynnag a fynno wybod’.  Dylid cyflwyno’r dystiolaeth hon wrth drefnu’r ymweliad. Nid yw hyn yn berthnasol i deuluoedd sy’n addysgu eu plant gartref, pan fydd y rhieni’n ymweld gyda’u plant eu hunain yn unig.

Unwaith y bydd eich archeb wedi'i chadarnhau, gallwn helpu i gynllunio'ch ymweliad, naill ai dros y ffôn, neu drwy'r wybodaeth a welwch yn ein Pecyn Gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho.

Tocyn Mynediad Grŵp Addysgol

Gall ysgolion fanteisio ar Docyn Mynediad Grŵp Addysgol, sef aelodaeth flynyddol sy'n rhoi mynediad am ddim i'r grŵp ysgol gyfan i ran fwyaf o lefydd o dan ofal ni am flwyddyn.

Teacher's Review

We have been very busy in class doing follow up work after our visit. This week we have created 3D maps out of collage materials of the site trying to recall key land marks.

All the children and staff had a fantastic time during our visit and they have not stopped talking about it since.

The excitement created by the gold panning was unbelievable. I have never seen them so engaged in an activity!

The cave experience was also brilliant.  I cannot commend the Tour Guides enough, they pitched the talk at just the right level. The day had all the ingredients to make a very memorable school trip.

From a nervous pupil, as he was going up the stairs in the cave, ‘I’m going to try and be brave’ which ended up in ‘this is the best day ever’ when he managed to reach the top. It was a fantastic boost to his self-confidence.

‘Best day out ever!’ was the most popular opinion by class mates.