Skip to content

Helios yng Ngerddi Dyffryn

Helios, a brightly lit sculpture of the sun displayed at Bath Assembly Rooms, Somerset
Helios art sculpture displayed at Bath Assembly Rooms, Somerset | © National Trust/James Dobson

Dewch i weld yr haul fel erioed o'r blaen. Mae Helios yn gerflun sfferig saith metr goleuedig gan yr artist Prydeinig Luke Jerram. Profwch Helios yng Ngerddi Dyffryn ar 23-26 Mai a 29 Mai-1 Mehefin. Gyda goleuadau’n ymdonni, delweddau solar a synau'r haul wedi'u recordio gan NASA, mae hwn yn gyfle gwych i weld y rhyfeddod clyweledol hwn ar ddangos yn yr awyr agored.

Beth yw Helios?

Mae hwn yn gyfle unigryw i weld a phrofi darn hudol o gelf sy'n ysgogi teimladau o ryfeddod, perthyn, diolchgarwch a chwilfrydedd. Oedolion a phlant, yr hen a’r ifanc, bydd pawb yn siŵr o gael eu swyno gan yr hyn sy’n eu disgwyl ar Lawnt y De yng Ngerddi Dyffryn.

Wedi'i enwi ar ôl duw Groegaidd yr haul, mae Helios yn cynnig cip manwl ar seren fwyaf cysawd yr haul, gan gynnwys nodweddion prin fel smotiau haul. Mae'r cerflun wedi’i adeiladu i raddfa, gyda phob centimetr yn cynrychioli 2,000 cilomedr o wyneb yr haul. 

Ynghyd â'r golau, mae Helios yn cynnwys seinwedd gan Duncan Speakman a Sarah Ande sy'n cynnwys recordiadau NASA o'r haul. Gyda'i gilydd, mae'r golau a'r sain yn creu profiad unigryw ac ymdrochol, gan ein gwahodd i archwilio harddwch a phŵer cudd yr haul yn agos ato. 

Mae Gerddi Dyffryn yn cynnig cyfle gwych i weld y gwaith celf sfferig saith metr yn yr awyr agored. Bydd Helios ar ddangos ar Lawnt y De, gydag arddangosfeydd blodau trawiadol a dŵr adlewyrchol y Wyneb Deheuol yn y cefndir.

Mae Helios wedi’i gyd-gomisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cork Midsummer Festival, Eglwys Gadeiriol Lerpwl, Hen Goleg y Llynges Frenhinol a Choleg Prifysgol Llundain.  

"Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi'n beryglus edrych yn uniongyrchol ar yr haul, gan y gall niweidio ein golwg. Mae Helios yn ffordd ddiogel i ni ddod yn agos at – ac archwilio – ei arwyneb manwl gan gynnwys smotiau haul, sbigylau a ffilamentau."

Dyfyniad gan Luke Jerram Arlunydd Helios

Pryd fydd Helios yng Ngerddi Dyffryn?

Gall ymwelwyr weld Helios o Ddydd Gwener 23 i Ddydd Llun 26 Mai ac o Ddydd Iau 29 Mai i Ddydd Sul 1 Mehefin. Mae'r dyddiadau hyn yn ystod hanner tymor mis Mai, ond gan y bydd y gwaith celf yn yr awyr agored, dim ond am bedwar diwrnod ar y tro y gellir ei arddangos (i warchod ei gyflwr), felly ni fydd ar ddangos dros yr hanner tymor cyfan.

Mae cerflun fel Helios yn cymryd amser i'w osod a'i dynnu i lawr felly bydd y gerddi ar gau i ymwelwyr Ddydd Mercher 21 i Ddydd Iau 22 Mai a Dydd Llun 2 Mehefin. Byddwn ni ar agor fel arfer ar 27-28 Mai gyda digon o bethau i deuluoedd eu gwneud pan na fydd Helios yn cael ei arddangos.

Faint o'r gloch bydda’ i’n gallu ei weld?

Fel y gall mwy o ymwelwyr brofi Helios, mae oriau agor arferol Gerddi Dyffryn yn cael eu haddasu a'u hymestyn tra’i fod ar ddangos. Mae'r amseroedd hyn i'w cadarnhau – byddwn ni’n diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y byddan nhw wedi’u penderfynu.

Oes angen i mi archebu?

Rydyn ni wrthi’n penderfynu a fydd ’na system archebu. Efallai y bydd adegau neu ddigwyddiadau pan fydd angen archebu ymlaen llaw. Byddwn ni’n diweddaru'r dudalen hon pan fydd hyn yn cael ei gadarnhau.

Beth yw'r gost?

Ni chodir tâl ychwanegol i brofi Helios. Bydd angen talu pris mynediad arferol Gerddi Dyffryn (am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Gallwch weld yr holl brisiau mynediad yma.

A yw'n hygyrch?

Mae Gerddi Dyffryn yn safle hygyrch i raddau helaeth gyda pharcio i ddeiliaid bathodyn glas, toiledau hygyrch ar bellterau rheolaidd oddi wrth ei gilydd, a llwybrau heb risiau o amgylch yr ardd.

Mae bygi sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn tywys ymwelwyr o gwmpas y gerddi.

Mae'r llwybr i ac o Helios yn hollol hygyrch. Mae sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn ar gael i'w llogi am ddim.  Archebwch y rhain ymlaen llaw, os gwelwch yn dda, i sicrhau y byddan nhw ar gael. Ffoniwch i archebu:  02920 593 328.

Mae llefydd i eistedd o amgylch Helios, fel bagiau ffa awyr agored, cadeiriau dec a seddi mwy hygyrch.

Mae pecynnau synhwyrau ar gael i ymwelwyr niwroamrywiol iau, ac maen nhw am ddim i unrhyw un eu benthyg, heb fod angen archebu na thalu blaendal (ar gael ar sail y cyntaf i'r felin).

Mae’r pecynnau’n cynnwys amddiffynwyr clust, cerrig gofid a theganau ffidlan. Gofynnwch i'r Tîm Croeso am un pan fyddwch chi'n cyrraedd.

A fydd y caffis ar agor?

Mae dau gaffi yng Ngerddi Dyffryn, a bydd y ddau ar agor yn ystod arddangosfa Helios ond gydag oriau agor amrywiol. Mae ein caffis yn gweini snaciau poeth ac oer gan gynnwys brechdanau, brechdanau cras, pasteiod a chacennau, a diodydd poeth ac oer gan gynnwys diodydd alcoholig.

Beth am barcio?

Mae parcio am ddim yn y maes parcio i ymwelwyr, gyda llefydd parcio i ddeiliaid bathodyn glas a cherbydau trydan.

Cofiwch mai dim ond hyn a hyn o le sydd yn ein maes parcio, ond byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i ddarparu ar gyfer pob car. Gyda hyn mewn golwg, gofynnwn i bawb barcio'n gyfrifol, gan ystyried ymwelwyr eraill, a chadw at y baeau a’r ardaloedd parcio dynodedig. Efallai y bydd adegau pan fydd angen i ni eich cadw wrth y fynedfa nes bod lle yn dod ar gael, neu eich troi i ffwrdd a gofyn i chi ddod yn ôl yn ddiweddarach neu ar ddiwrnod arall.

Beth sy'n digwydd mewn tywydd gwael?

Er ein bod ni i gyd yn gobeithio am dywydd braf tra bod Helios ar ddangos, byddai'n eithaf cŵl gweld glaw yn diferu oddi ar yr haul! Mae'r gwaith celf wedi'i oleuo o'r tu mewn, felly bydd yn edrych yr un mor ysblennydd mewn tywydd garw ag y bydd ar ddiwrnod sych. Fodd bynnag, bydd Helios yn cael ei symud o’r neilltu am gyfnod os bydd y gwynt yn codi, er mwyn sicrhau diogelwch y gwaith celf ac ymwelwyr.

Os bydd tywydd gwyntog, edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan Gerddi Dyffryn i gael diweddariadau cyn i chi deithio.

Beth arall alla’ i ei weld a'i wneud?

Mae arddangosfeydd a digwyddiadau teuluol eraill yng Ngerddi Dyffryn dros hanner tymor mis Mai a phan fydd Helios ar ddangos.

Mae digwyddiadau'n dal i gael eu cadarnhau ond dyma syniad o'r rhaglenni y gallwch eu mwynhau ochr yn ochr â Helios:

  • Y Ddaear gan Luke Jerram, sydd wedi’i chreu i’r un raddfa i gynnig persbectif ar gyfer maint yr haul
  • Crefftau i blant ar thema’r haul
  • Gorsaf gwisg ffansi, gyda gwisgoedd ar thema’r gofod i bobl a chŵn!
  • Pecynnau creadigol fel y gallwch chi wneud eich gwaith celf eich hun wedi'i ysbrydoli gan Helios
  • Llwybr yr haul o amgylch y gerddi
  • Arddangosfa byd natur y Lolfa
  • Dolydd bach ar siâp pelydrau’r haul ar Lawnt y De

Ac nid dyna'r cyfan! Byddwn ni’n cadarnhau digwyddiadau Helios eraill yn ystod yr wythnosau nesaf felly cofiwch gadw’r dudalen we hon a'n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd gwybodaeth yn cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i fwy o ddigwyddiadau a rhaglenni gael eu cadarnhau.

"Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Helios i Erddi Dyffryn. Mae'r gosodiad trawiadol hwn nid yn unig yn brofiad unigryw a swrrealaidd, ond hefyd yn dyst i ymrwymiad parhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnig profiadau diwylliannol eithriadol yng Nghymru ac ar draws y DU. Ydy, mae Cymru’n cael hen ddigon o law, ond ym mis Mai eleni mae'r haul yn sicr o ddisgleirio ar Erddi Dyffryn! Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gyffrous i rannu'r gwaith celf anhygoel hwn gyda'n holl ymwelwyr. Rydyn ni'n gwybod y bydd yn brofiad bythgofiadwy i bawb."

Dyfyniad gan Lizzie Smith JonesNational Trust General Manager of Dyffryn Gardens
Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.