Skip to content

Rhodd er cof yng Ngerddi Dyffryn

Plant a tree at Dyffryn Gardens, Champion Trees at Dyffryn Gardens
Champion Tree at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © Hugh Mothersole

P'un a ydych chi'n dathlu achlysur arbennig neu'n cofio rhywun annwyl, mae rhodd goffa yn ffordd wych o nodi adegau pwysicaf bywyd. Mae ymwelwyr yn aml yn gofyn a allant gysegru coeden yn y gerddi i anrhydeddu achlysur arbennig fel pen-blwydd pwysig, priodas neu enedigaeth, neu er cof am anwylyd. Darllenwch ’mlaen i gael gwybod mwy am gysegru coeden yng Ngerddi Dyffryn.

Plannu coffaol

Rydym yn plannu coed ddwywaith y flwyddyn – yn y gwanwyn a'r hydref. Os hoffech gysegru coeden, cewch restr o lasbrennau (coed ifanc) sydd ar gael, sy'n amrywio yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r cynlluniau plannu ar gyfer ein Gardd Goed.

Unwaith y bydd coeden wedi’i chysegru, byddwch yn derbyn pecyn coffa gyda map wedi'i gomisiynu'n arbennig yn nodi lleoliad eich coeden a'i chyfesurynnau. Ni allwn gynnig plac pwrpasol, ond byddwn yn ychwanegu neges gysegru i'ch coeden ar gronfa ddata planhigion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Iris. Bydd y cysegriad hwn yn barhaol.  

Oherwydd natur newidiol y tywydd a chyflwr y ddaear, ni allwn eich gwahodd i fod yn bresennol pan fydd eich coeden yn cael ei phlannu ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn y ddaear ac yn barod i chi ymweld â hi. Byddwn hefyd yn anfon llun o'r goeden atoch.

A blossom tree over looking the South Lawn at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Blossom at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © Paul Harris

Os hoffech gysegru coeden, e-bostiwch dyffryn@nationaltrust.org.uk i ddechrau'r broses.  Nid oes rhaid i chi gysylltu yn y gwanwyn neu'r hydref – po gynharaf y cysylltwch â ni, y cynharaf y gallwn roi gwybod i chi pa goed sydd ar gael neu roi eich enw ar y rhestr aros os yw ein planhigion eisoes wedi'u cymryd ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Cost coeden goffa yw £250 a thrwy gysegru coeden yng Ngerddi Dyffryn, byddwch chi nid yn unig yn anrhydeddu achlysur neu berson arbennig ond hefyd yn cefnogi'r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud yng Ngerddi Dyffryn i ddatblygu a gwarchod y gerddi hardd hyn am genedlaethau i ddod. Mae plannu coffaol hefyd yn ymrwymiad i ddyfodol pawb - coed yw un o'n hamddiffynfeydd naturiol gorau yn erbyn newid hinsawdd, maent yn glanhau'r aer rydyn ni'n ei anadlu, yn cloi carbon wrth iddyn nhw dyfu ac yn cynnig cartrefi i fywyd gwyllt. Am ffordd wirioneddol wych o ddathlu adegau pwysig bywyd.

An autumn tree covered in yellow and orange leaves in the Arboretum at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
The Arboretum in autumn, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © James Dobson
Ffynnon Bowlen y Ddraig yn Nhŷ a Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru

Donate

Everyone needs nature, now more than ever. Donate today and you could help people and nature to thrive at the places we care for.