Skip to content
Newyddion

Coetir coffa Covid-19 yn agor ar ystâd Erddig Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

The Commemorative Woodland at Erddig, featuring a pink bench in the foreground. In the background, a few people stroll along a pathway surrounded by greenery.
The Commemorative Woodland at Erddig, featuring a pink bench in the foreground. In the background, a few people stroll along a pathway surrounded by greenery. | © Paul Harris

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi agor un o goetiroedd coffa newydd Cymru yng Ngogledd Cymru. Mae Coetir Coffa Hafod y Bwch, sydd wedi’i leoli ar ystâd Erddig yn Wrecsam, yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau i Covid-19, ac mae’n gweithredu fel symbol o wydnwch Cymru yn ystod y pandemig.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi agor un o goetiroedd coffa newydd Cymru yng Ngogledd Cymru. Mae Coetir Coffa Hafod y Bwch, sydd wedi’i leoli ar ystâd Erddig yn Wrecsam, yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau i Covid-19, ac mae’n gweithredu fel symbol o wydnwch Cymru yn ystod y pandemig.

Wedi’i greu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae naw hectar o dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Hafod, ar ochr ddeheuol ystâd Erddig, wedi’i drawsnewid yn ofalus dros y tair blynedd ddiwethaf i greu man cyhoeddus newydd ar gyfer cofio, myfyrio a chysylltu â natur.

Dyluniwyd y coetir mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol lleol ac mae wedi’i greu o wahanol ardaloedd gyda llwybrau gwastad, llydan a hygyrch yn eu cysylltu. Mae’n un o dri choetir coffa yng Nghymru ac mae’n ffurfio rhan o’r rhwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Gymru: “Mae'n fraint i ni ein bod wedi cefnogi Llywodraeth Cymru i greu un o dri choetir coffa Cymru.

“Fel elusen gadwraeth, mae rhoi lleoedd i bobl gysylltu â natur, harddwch ac awyr iach wrth wraidd ein gwaith. Bydd y man gwyrdd diogel a hygyrch hwn ger Wrecsam yn rhoi lle i bobl leol, cymunedau ac ymwelwyr gofio am y rhai a gollwyd i Covid-19 ac elwa o dreulio amser ym myd natur.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at ddyluniad a chreadigaeth y lle arbennig hwn. Mae celf a natur wedi dod ynghyd mewn ffordd fendigedig drwy’r darnau ystyrlon hyn o waith wedi’u curadu gan Studio Response, sy’n cynnwys comisiynau gan Hanan Issa, Iestyn Tyne, stiwdio ddylunio SOUP a Rachel Jones, gan ategu natur heddychlon a myfyriol y coetir.”

Yng nghanol y coetir mae dôl laswelltir eang yn darparu lle cymdeithasol awyr agored i bicnics, digwyddiadau a gweithgareddau, ac yn cynnig ffynhonnell fwyd i beillwyr.

Er budd natur, mae rhannau bach, coediog wedi eu plannu’n ddwys ac wedi’u gadael ar gyfer bywyd gwyllt yn unig. Bydd coed a llwyni yn darparu cartrefi mawr eu hangen a lleoedd i nythu i adar a mamaliaid wrth gynorthwyo i leihau sŵn a llygredd o'r ffordd gyfagos. Bydd pyllau, gwrychoedd a llennyrch o goed fan hyn a fan draw yn ychwanegu at amrywiaeth o gynefinoedd hollbwysig a grëwyd i amffibiaid, mamaliaid ac adar allu ffynnu.

Gwahoddwyd Bardd Cenedlaethol Cymru (2022-2025) Hanan Issa i helpu i rannu stori’r coetir a llais y gymuned drwy ysgrifennu’r gerdd The Trees Treasure What We Have Lost, sydd wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Iestyn Tyne. Mae'r gerdd wedi’i gosod ar frics a ddyluniwyd gan stiwdio ddylunio SOUP, ar hyd llwybrau’r coetir. Ysbrydoliwyd dyluniad y brics gan yr hen Johnstown Brick Works, sy’n edrych dros y safle.

Yn dychmygu adleisiau hanes o fewn pridd y coetir, mae’r gerdd yn cyfeirio at natur gylchol amser, tir a galar a sut y gellir cael cysur o ddod ynghyd i gofio a threulio amser ym myd natur.

Un o'r nodweddion mwyaf blaenllaw o fewn y coetir yw'r casgliad o 20 o feinciau lliwgar sydd i’w gweld ar hyd a lled y lle. Wedi’u dylunio gan yr artist gweledol Rachel Jones, mae pob lliw yn cynrychioli planhigyn gwahanol sydd i’w gweld ar y safle. Mae’r meinciau yn lle i gofio am anwyliaid a’u bwriad yw creu eiliadau lliwgar o lawenydd, myfyrdod a chysylltiad cymdeithasol, gan gydnabod natur gylchol y tymhorau ar yr un pryd.

Mae cyfanswm o 13,000 o goed hefyd wedi cael eu plannu ar y safle, gyda’r mwyafrif yn amrywiadau dail llydan brodorol sydd â chysylltiad hanesyddol a diwylliannol â’r ardal. Cafodd y rhywogaethau a ddewiswyd, sy’n cynnwys coed ffrwythau sy’n blodeuo a’r ddraenen wen, eu dewis oherwydd eu gallu i addasu i fygythiadau plâu, afiechydon a hinsawdd sy’n newid.

Dywedodd y Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: “Bydd y coetiroedd yn symbol pwerus o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coed dyfu ac wrth i fywyd gwyllt ffynnu. Bydd yn lle hardd i gysylltu â natur, a gwyddom fod hyn yn gwneud lles i’n hiechyd corfforol a meddyliol.

“Roedd y pandemig yn gyfnod dychrynllyd i nifer o deuluoedd, ac mae’n bwysig ein bod yn creu cofeb fyw, barhaol i gofio’r rhai a fu farw o Covid-19. Mae'r coetiroedd yn ffordd dda o gofio pobl a gollwyd, yn ogystal ag ychwanegu at ein lleoedd gwyrdd hardd am genedlaethau i ddod.

“Rwy’n edrych ymlaen at gerdded o amgylch Hafod y Bwch cyn gynted ag y gallaf.”

Mae dau goetir coffa arall yn cael eu creu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru Brownhill yn Sir Gaerfyrddin ac Ynys Hywel yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r tri choetir coffa yn ffurfio rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru.