Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Rydym yn falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer un o goedlannau coffa tri newydd Cymru a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Pandemig Covid-19.
Rydym yn falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer un o goedlannau coffa tri newydd Cymru a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Pandemig Covid-19.
Mae Coedlan Goffa Hafod y Bwch yn rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru, lle i gofio a myfyrio, ynghyd â chynnig man gwyrdd ar gyfer y dyfodol i bawb gael budd ohono.
Yn cynnwys naw hectar ar ochr ddeheuol ystâd Erddig, mae’r coetir diogel a hygyrch hwn yn gwahodd ymwelwyr i anrhydeddu anwyliaid a chysylltu â natur mewn amgylchedd heddychlon.
Mae’r coetir yn sefyll fel man i gofio, myfyrio a chysylltu â’r byd naturiol yn barhaus. Gyda’i thema ‘gwydnwch’ – teyrnged i’r cryfder a ddangoswyd gan bobl Cymru, mae’n gweithredu nid yn unig fel cofeb ond hefyd fel symbol o obaith ac adnewyddiad.
Bydd y coetir yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o gefnogi adferiad natur a brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Nawr yn agored i’r cyhoedd, mae’n gwahodd pawb i ddod ynghyd, i fwynhau ei harddwch ac i fod yn dyst i’w dwf am genedlaethau i ddod.
Cafodd dyluniad y coetir ei siapio gan fewnbwn cymunedol, gyda’r nod o greu lle ar gyfer pobl a natur. Yn dilyn sesiynau ymgysylltu cymunedol a mewnbwn gan randdeiliaid, daeth nifer o ofynion allweddol i’r amlwg, gan arwain y broses o greu gwahanol ardaloedd, pob un â’i ffocws penodol ei hun:
Mae mynedfa groesawgar i’r coetir, sy’n llawn planhigion, yn cysylltu pobl â’r maes parcio cyfredol ac yn darparu gwybodaeth i bobl gynllunio eu hymweliad.
Yng nghanol y coetir, mae dôl fawr o laswelltir yn darparu ardal gymdeithasol awyr agored ar gyfer cael picnic, digwyddiadau a gweithgareddau. Yn ystod misoedd yr haf mae’r llwybrau’n creu profiad trochol i ymwelwyr wrth i’r blodau gwyllt flodeuo.
Anogir pobl i grwydro drwy fyd natur mewn ardal chwarae naturiol ar gwr y safle.
Mae man cymunedol parhaol yno sy’n cynnwys perllan yn llawn coed ffrwythau, y disgwylir iddynt flodeuo yn y gwanwyn a chynnig ffrwythau i’w casglu yn yr hydref.
Ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am funud o heddwch, mae ardal dawel arbennig yn rhoi lle i feddwl gyda nodwedd ddŵr yn ganolog iddo.
Mae llwybrau gwastad, llydan a hygyrch sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a bygis yn cysylltu’r gwahanol ardaloedd. Mae’r llwybrau sy’n bodoli eisoes yn cynnig mwy o fynediad ar droedm gan alluogi pobl i archwilio’r cefn gwlad o’u cwmpas.
Mae meinciau lliwgar sy’n adlewyrchu’r planhigion lleol yn rhoi mannau croesawgar i eistedd ac ymlacio.
Mae rheseli beic ar gael i feicwyr wrth y brif fynedfa.
Mae rhannau bach coediog ym mhen draw’r safle wedi’u plannu’n ddwys ac wedi’u gadael yn gyfan gwbl ar gyfer bywyd gwyllt. Mae coed a llwyni yn cynnig cartrefi a mannau nythu angenrheidiol ar gyfer adar a mamaliaid, yn ogystal â helpu i leihau sŵn a llygredd o’r ffordd gyfagos.
Mae rhywogaethau coed yn y coetir wedi cael eu dewis am eu gallu i addasu i fygythiadau gan blâu, afiechydon a hinsawdd sy’n newid, gyda’r mwyafrif ohonynt yn rhywogaethau dail llydan yn hanesyddol, gyda chysylltiad diwylliannol â’r ardal.
Mae ail ddôl yn cynnig ffynhonnell fwyd i bryfed peillio ac yn diogelu tystiolaeth o ddôl ‘cefnen a rhych’ hanesyddol. Mae pyllau gwasgaredig, gwyrchoedd a llennyrch coediog yn ychwanegu at amrywiaeth y cynefinoedd hollbwysig a gaiff eu creu er budd amffibiaid, mamaliaid ac adar.
Mae'r ardal goetir yn Erddig yn fan coffa drwyddi draw ac nid ydym yn bwriadu cael coed sydd wedi eu cyflwyno'n bersonol. Mae hyn oherwydd bod coetiroedd yn ddynamig, yn systemau byw sy'n cael eu rheoli'n weithredol. Er mwyn iddynt ffynnu bydd yn angenrheidiol i ni dynnu coed weithiau am resymau diogelwch ac i wneud lle i'r coetir aeddfedu.
Mae’r prosiect coedlannau coffa yn rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys rhwydwaith o goedlannau cyhoeddus a reolir yn ôl safonau uchel ledled Cymru, a bydd yn cynnwys coedlannau newydd a choedlannau sy’n bodoli eisoes. Bydd ymgysylltu â’r gymuned yn hollbwysig wrth ddatblygu safleoedd y Goedwig Genedlaethol, er mwyn helpu i sicrhau y bydd y coedlannau’n cynnig cyfleoedd ar gyfer hamddena, addysg ac ymarfer corff ac, yn yr achos hwn, lle i fyfyrio er mwyn cofio’r rhai a gollwyd yn sgil Covid-19.
Mae dau goetir coffaol arall wedi’u creu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: Brownhill, Cyfoeth Naturiol Cymru yn Sir Gaerfyrddin ac Ynys Hywel, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhannu cynllun un o goedlannau coffa newydd Cymru a leolir yn Erddig ger Wrecsam. Estynnir gwahoddiad i bobl helpu i blannu coed yn y goedlan, a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig Covid-19.