Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae treulio amser yn yr ardd, un ai'n garddio'n hamddenol, neu'n mwynhau'r ardd yn gyffredinol, wedi'i brofi i wella ein llesiant. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn allweddol o ran byw bywyd hapus ac iach. Dyma sydd wrth graidd ein cenhadaeth fel elusen. Dywedodd Octavia Hill, un o'n cyd-sefydlwyr: “Mae pawb yn mwynhau tawelwch. Mae prydferthwch a lle yn bwysig i bob un ohonom.” Wrth weithio â phartneriaid, rydym yn ceisio gwella mynediad at erddi ac ardaloedd gwyrdd, fel bod rhagor o bobl o fewn cyrraedd i ardaloedd distaw er mwyn adfer a myfyrio.
Ar dir eang Erddig saif Melin Puleston, pentref hanesyddol a hwb ar gyfer gwaith cymunedol Erddig, yn ogystal â lleoliad gardd llesiant dawel.
Cafodd yr ardd ei chreu a’i rheoli drwy waith Erddig gyda phobl ifanc yn y gymuned leol. Mae Melin Puleston yn gartref i Tyfu Erddig a Chlwb Ieuenctid Erddig, sy’n darparu man diogel, cefnogol a chyfeillgar i bobl ifanc a natur ffynnu. Mae’r ddau ohonynt yn cynnig ystod o gyfleoedd i bobl ifanc gael cysylltu â natur, o dyfu blodau i’w gosod a’u harddangos, i feithrin llysiau, gofalu am fywyd gwyllt, neu gymryd amser i orffwyso ac ymlacio mewn amgylchedd hardd.
Yn ogystal â chynnal ein gwirfoddolwyr a’n cyfranogwyr ym Melin Puleston, rydym hefyd yn croesawu grwpiau o sefydliadau partner, er mwyn iddynt hwythau hefyd gael manteisio ar fuddion y baradwys hon.
Mae'r ardd lesiant hefyd ar agor, ac am ddim i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Rydym oll yn cael cyfnod yn ein bywyd lle rydym angen synnwyr o dawelwch, am ba bynnag reswm. Mae Melin Puleston yn cynnig digonedd o hyn.
Mae Gardd y Golchdy yn Nhŷ Tredegar yn fan gwyrdd cymunedol wrth ymyl ystâd Duffryn, lle mae sefydliadau lleol yn cynnal hyfforddiant, a lle mae pobl yn dod i dreulio amser gyda’i gilydd.
Mae aelodau o Growing Space, elusen iechyd meddwl, ynghyd â gwirfoddolwyr lleol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gofalu am yr ardd hygyrch, ac mae aelodau Llwybrau Lles Coetiroedd hefyd yn gwneud defnydd ohoni.
Ers rhai blynyddoedd, mae’r ‘allotmenteers’ o gymuned Duffryn wedi bod yn tyfu ac yn cynhaeafu ffrwythau a llysiau o’r rhandir yn Nhŷ Tredegar. Mae gardd synhwyraidd yno bellach, yn llawn llysiau a phlanhigion cyffyrddadwy a phersawrus, yn ogystal â gardd lonydd - gan ddarparu ardal dawel ar gyfer myfyrio.
Mae yna ardal o wlâu blodau uchel er mwyn sicrhau mynediad i gadeiriau olwyn, fel bod pawb yn cael mynediad at y buddion eang sy’n dod o arddio. Er mai grwpiau cymunedol lleol sy’n gwneud defnydd mwyaf o’n gerddi, maent hefyd yn agored i'r cyhoedd ar ddyddiau penodol.
Ynghyd â Ponthafren, elusen sy’n lleol i ardal Y Trallwng a’r Drenewydd, rydym wedi sefydlu gardd gymunedol yng Nghastell a Gardd Powis. Wedi’i sefydlu ar dir y castell, mae’r ardd yn lle hanfodol i bobl ganolbwyntio ar eu llesiant a chysylltu â natur.
Mae Ponthafren yn Elusen Iechyd Meddwl a Llesiant sy’n darparu gwasanaeth i hyrwyddo iechyd meddwl positif. Mae’r ardd yn lle i ymgasglu, tyfu llysiau, ffrwythau, a blodau, dysgu sgiliau newydd, a threulio amser ym myd natur.
Er mwyn cynorthwyo wrth greu’r ardd, cafodd Ponthafren a’u defnyddwyr gwasanaeth gwmni tiwtor o elusen Tir Coed, sef elusen sy’n cysylltu pobl â thir a choed drwy gyflwyno rhaglenni hyfforddiant, dysgu a llesiant awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae sawl cwmni lleol wedi cefnogi wrth greu’r ardd, drwy roddi pren i adeiladu gwlâu uchel ar gyfer llysiau a phlanhigion eraill, a rhoddi compost a phlanhigion. Mae’r tîm yng Nghastell a Gardd Powis hefyd wedi cefnogi drwy ddarparu planhigion ar gyfer y gwlâu a’r planwyr.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Ddydd Mawrth 21 Mawrth, ymunodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cerebral Palsy Cymru yn eu canolfan i blant yng Nghaerdydd i ddathlu blwyddyn mewn partneriaeth a chwblhau gardd llesiant hygyrch newydd.
Mae 0.65 hectar o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghastell y Waun wedi ei wella ar gyfer pobl a byd natur wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gydweithio ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol i greu Dôl Ofalgar newydd, lle gall pobl gysylltu â byd natur, gan wella eu hiechyd a llesiant.