Skip to content

Ymweld â Ystad Hafod

Ymwelydd yn cerdded heibio arced gothig Ystad Hafod, Ceredigion
Ymwelydd yn cerdded heibio arced gothig Ystad Hafod | © National Trust Images / Paul Harris

Mae Hafod yn un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd sy’n arddangos steil y pictiwresg o’r ddeunawfed ganrif. Wedi’i guddio yng nghrombil canolbarth Cymru bu’r ystad unwaith yn gartref llewyrchus i deulu’r Johnes – ac wedi’i ddisgrifio yn aml fel paradwys i’r rhai oedd yn byw yma. Er nad yw’r plasdy yn bodoli heddiw, mae rhywfaint o’r adeildadwaith o gyfnod yr ystad wreiddiol yn goroesi, gan amlygu straeon cudd o gyfnod hanesyddol cyffrous.

Cerdded yn Hafod

O fewn Hafod mae pum llwybr wedi’i cyfeirio i’w mwynhau, gydag amrywiaeth mewn hyd a thirwedd y llwybrau. Dyluniwyd y llwybrau fel rhan o’r tirwedd hanesyddol fel ffordd i ddathlu cyfres o olygfeydd sy’n mynd a chi heibio i raeadrau, llennyrch mwsogl a phontydd dros geunentydd creigiog.

Byddwch yn cerdded hyd yr un llwybrau hanesyddol a grëwyd gan Thomas Johnes yn ei flynyddoedd cyntaf yn Hafod, gan gynnwys y llwybr egnïol ar Rodfa’r Bonheddwr neu’r llwybr nesaf at yr afon ar Rodfa’r Foneddiges.

Gerddi yn Hafod

Yng nghanol yr ystâd cewch hyd i Ardd Flodau Mrs Johnes. Man heddychlon i’w ddarganfod wrth gerdded hyd Rhodfa’r Foneddiges. Bu i’r ardd, fu unwaith ar goll yn y coed, gael ei hadfer gan Ymddiriedolaeth yr Hafod, gyda’r casgliad o blanhigion yn adlewyrchu’r hyn fyddai wedi’u plannu yma’n wreiddiol gan Mrs Johnes.

Yna, yn guddiedig ar ben darn o gerrig brig ger Cofgolofn Bedford ceir hyd i Ardd Mariamne, noddfa wedi’i greu ar gyfer eu merch i gael mwynhau yr hyn yr oedd hi’n angerddol amdano ymhell o brif lwybrau’r ystâd.

Lefel Lampwll (Cavern Cascade)

Nodwedd hynod adnabyddus, ac yn ran allweddol o nodweddion tirwedd dylunedig Thomas Johnes.

NODYN PWYSIG: Mae Lefel Lampwll yn parhau ar gau o ganlyniad i gerrig ansefydlog uwch y fynedfa, dilynwch yr arwyddion mewn lle.

Ymweld a’r Eglwys

Mae’r Eglwys yn nodwedd bwysig o fewn yr ystâd, wedi’i leoli ger y maes parcio. Wedi’i adeiladu gan Thomas Johnes yn 1803, dyma’r unig adeilad sylweddol sy’n parhau i sefyll o’r amser hynny. Heddiw mae’r Eglwys yn gartref i arddangosfa yn sôn am hanes yr ystâd; ar agor yn ddyddiol o’r Pasg tan fis Medi (10:30-16:30), gyda gwasanaeth yn cael ei gynnal ar yr ail Sul yn y mis.

Gwaith coed diweddar yn Hafod

Pan fyddwch yn ymweld â Hafod efallai y bydd rhai ardaloedd yn edrych yn wahanol i’r tro diwethaf i chi fod yma, neu, os yn ymweld am y tro cyntaf yn sylwi fod tipyn o goed wedi cael eu torri.

Mae’r coed yn Hafod yn rhan o goediwg weithredol; ry’ ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gyfrifol am reolaeth y goedwig weithredol.

Dros y flwyddyn diwethaf bu’n rhaid i CNC gwblhau gwaith cwympo coed mewn sawl rhan wahanol o fewn yr ystad. Yn fwyaf diweddar, ardal o goed pinwydd urddasol ger y prif lwybr sy’n arwain o’r maes parcio tuag at Raeadr Peiran. Roedd y coed yn yr ardal hyn, ac eraill o fewn yr ystad, wedi’u heintio gydag afiechyd coed ac roedd yn rhaid eu cwympo am resymau diogelwch.

Ble mae’r coed wedi’u cwympo fel sylwch fod tyfiant naturiol yn dod yn ôl a bydd yr ardaloedd yma’n cael eu rheoli fel coedwig naturiol, gydag ardaloedd yn cael eu hail blannu gyda choed cynhenid.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynglyn a’r gwaith cwympo coed, gellir cysylltu gyda CNC ar 0300 065 3000 neu ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os hoffech siarad gyda’r tim lleol yn Hafod, cysylltwch ar 01974 282568 neu hafod@nationaltrust.org.uk

Natur a bywyd gwyllt Hafod

Wrth grwydro ger yr afon – efallai cewch gipolwg ar ddyfrgi, neu os byddwch yn dawel iawn, gweld glas y dorlan yn gwibio heibio a’r siglen neu’r trochwr yn gorffwys gerllaw. Edrychwch yn yr awyr am adar ysglyfaethus fel gwalch Marthin gyda’u hadenydd eang o liw golau, y bwncath (gyda’u cynffon crwn) neu’r barcud coch (gyda’u cynffon fforchog). Mae’r bele swil i’w gweld weithiau yn crwydro’r coedwigoedd yn chwilota am fwyd a pharatoi at y torllwyth nesaf yn y gwanwyn.

Mae Hafod yn safle sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gan gael ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae’r dolydd yn gartref i gapiau cwyr bendigedig ac ochrau’r dyffrynnoedd serth yn creu awyrgylch arbennig ar gyfer cennau, rhedyn, mwsoglau a ffwng.

Gwartheg yr Ucheldir yn pori ar Ystad Hafod, Ceredigion
Gwartheg yr Ucheldir yn pori ar Ystad Hafod, Ceredigion | © National Trust Images/Paul Harris