Crwydro Hafod y Bwch

Mae Coedlan Goffa Hafod y Bwch lle i gofio a myfyrio, ynghyd â chynnig man gwyrdd ar gyfer y dyfodol i bawb gael budd ohono.
Mae Coedlan Goffa Hafod y Bwch yn rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru, lle i gofio a myfyrio, ynghyd â chynnig man gwyrdd ar gyfer y dyfodol i bawb gael budd ohono. Yn cynnwys naw hectar ar ochr ddeheuol ystâd Erddig, mae’r coetir diogel a hygyrch hwn yn gwahodd ymwelwyr i anrhydeddu anwyliaid a chysylltu â natur mewn amgylchedd heddychlon.
Coedlan i’w chofio
Mae’r coetir yn sefyll fel man i gofio, myfyrio a chysylltu â’r byd naturiol yn barhaus. Gyda’i thema ‘gwydnwch’ – teyrnged i’r cryfder a ddangoswyd gan bobl Cymru, mae’n gweithredu nid yn unig fel cofeb ond hefyd fel symbol o obaith ac adnewyddiad. Bydd y coetir yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o gefnogi adferiad natur a brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Nawr yn agored i’r cyhoedd, mae’n gwahodd pawb i ddod ynghyd, i fwynhau ei harddwch ac i fod yn dyst i’w dwf am genedlaethau i ddod.
Creu coetir: Ein dyluniad
Cafodd dyluniad y coetir ei siapio gan fewnbwn cymunedol, gyda’r nod o greu lle ar gyfer pobl a natur. Yn dilyn sesiynau ymgysylltu cymunedol a mewnbwn gan randdeiliaid, daeth nifer o ofynion allweddol i’r amlwg, gan arwain y broses o greu gwahanol ardaloedd, pob un â’i ffocws penodol ei hun.
Lle i bobl
Mae’r Coetir Coffa yn fan croesawgar lle gall ymwelwyr gysylltu â natur, myfyrio ac archwilio. Yn ei chanol, mae dôl laswelltir eang yn cynnig man heddychlon i gael picnic a chynnal digwyddiadau, a llwybrau lle torrwyd y glaswellt yn troelli drwy flodau gwyllt yn yr haf. Mae ardal chwarae naturiol yn annog antur, tra bod perllan gerllaw yn blodeuo’n iach yn y gwanwyn ac yn cynnig ffrwythau i’w casglu yn yr hydref. Ar gyfer pobl sy’n awyddus i gael amser personol, mae man tawel gyda nodwedd ddŵr tawel yn cynnig lle i gael seibiant a myfyrio. Mae llwybrau hygyrch yn cysylltu gwahanol ardaloedd, yn arwain at lwybrau cefn gwlad gyda golygfeydd. Mae meinciau wedi’u gosod yn ofalus, ac wedi’u hysbrydoli gan blanhigion lleol, yn gwahodd ymwelwyr i eistedd ac ymgolli yn yr amgylchedd, tra bod raciau beics wrth y fynedfa yn gwneud cyrraedd ar ddwy olwyn yn hawdd.

Lle i natur
Mae’r Coetir Coffa yn hafan heddychlon lle gall natur ffynnu. Mae llawer o goed wedi’u plannu’n ddwys yn rhoi lloches i adar a mamaliaid, ac yn lladd y synau garw o'r ffordd gerllaw. Mae rhywogaethau o ddail llydan brodorol, a ddewiswyd am eu gwydnwch a’u hanes yma yn y tirlun, yn creu coetir cyfoethog ac amrywiol. Mae dôl o flodau gwyllt yn suo gyda pheillwyr yn yr haf, gan ddilyn patrymau system gae cefnen a rhych. Mae pyllau, coetyrch a llennych gwasgaredig yn cynnig noddfa arall, gan gefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy’r tymhorau.

Sut mae hyn wedi ysbrydoli creadigrwydd
I’n cynorthwyo i rannu stori’r gymuned leol, y goedlan a’r ardal leol gyda’r rhai sy’n ymweld, buom yn gweithio gyda Hanan Issa, stiwdio ddylunio STUCO a'r artist gweledol Rachael Jones. Studio Response, ymarfer creadigol o Gaerdydd sydd wedi curadu, comisiynu a gweithio gyda’r artistiaid i greu’r gweithiau celf.
Mae’r Coed yn Trysori’r Hyn A Gollasom
Geiriau gan Hanan Issa, cyfieithiad gan Iestyn Tyne, gwaith celf wedi ei ddylunio gan SOUP.
Gwahoddwyd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru (2022-2025) i'n helpu i rannu stori'r goedlan a lleisiau ein cymunedau wrth i ni gofio'r rhai a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19. Gan ddychmygu adlais hanes o fewn pridd y goedlan, mae'r gerdd yn cyfeirio at natur gylchol amser, tir a galar a sut y gellir dod o hyd i gysur wrth gasglu, cofio a threulio amser ym myd natur.
Gweithiodd SOUP gyda Hanan a Iestyn i ddylunio ffordd o gyflwyno geiriau'r gerdd yn y goedlan. Bwriad y gwaith yw taith, ffordd o deithio wrth ddarllen a chofio. I adlewyrchu treftadaeth yr ardal, maent wedi cymryd ysbrydoliaeth uniongyrchol o hen Waith Brics Johnstown sy'n edrych dros y safle.

Lliwiau’r Cof gan Rachael Jones
Un o’r nodweddion mwyaf amlwg yn y goedlan yw’r casgliad o 20 o feinciau lliwgar sydd i’w darganfod drwyddi draw. Mae bob un lliw yn cynrychioli gwahanol blanhigion sy’n tyfu ar y safle. Bwriad y meinciau yw creu ambell ennyd lliwgar o lawenydd, myfyrdod a chysylltiad cymdeithasol, gan gydnabod ar yr un pryd natur gylchol y tymhorau. Mae Lliwiau’r Cof yn chwarae ar y syniad o’r hyn y gall ‘mainc goffa’ fod, gan greu mannau cadarnhaol ar gyfer cofio a chael ein hatgoffa o’n hanwyliaid trwy wahanol dymhorau’r flwyddyn.
Dyma’r planhigion a gaiff eu cynrychioli: Helyg Llwyd, Oestrwydden, Criafol, Cwyros, Cyll, Rhosynnau Gwyllt, Y Bengaled, Llygad-llo Mawr, Milddail, Masarn Bach, Eurinllys, Pys-y-ceirw, Ffawydd, Blodau Neidr, Briallu, Ysgaw a Chlafrllys.

Gyda diolch i:
- Ein cymunedau lleol
- Literature Wales
- Paul Eastwood
- Covid-19 Bereaved Families Cymru
- NEW Mind Wales