Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Heddiw, mae Kete yn cynnig golygfeydd arfordirol eang a lleoliad tawel i wylio bywyd gwyllt a cherdded, a’r llwybr yn rhan o Lwybr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Ond mae tipyn mwy i’r safle arbennig hwn na golygfeydd tlws. Os craffwch chi’n agosach ar y dirwedd fe welwch arwyddion bychain o hanes milwrol lliwgar Kete. Saif maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyrion gorsaf y Llynges Frenhinol gynt, yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. Felly, ar eich ymweliad ewch ar drywydd hanes a darganfod mwy am rôl bwysig Kete yn hyfforddi recriwtiaid i ganfod awyrennau’r gelyn.
The Royal Air Force had the first military base here. Established early in the Second World War, it was a Chain Home Low (CHL) radar station, with the role of tracking low-flying enemy aircraft.
Erbyn 1944 fe adeiladwyd sefydliad hyfforddi y Llynges Frenhinol yn Kete, HMS Goldcrest 2, a gomisiynwyd wedyn fel HMS Harrier – Ysgol Cyfarwyddyd Awyrennau Ymladd y Llynges Frenhinol ac Ysgol Feteoroleg.
Roedd yr orsaf yn hyfforddi swyddogion cyfarwyddyd awyrennau ymladd, technegwyr radar a phlotwyr radar. Gyda’i gilydd, eu gwaith oedd darganfod awyrennau’r gelyn – awyrennau bomio neu awyrennau bomio torpedo – cyn iddyn nhw allu ymosod ar longau cyfeillgar, a chyfarwyddo awyrennau ymladd i’w saethu.
Cai awyrennau o orsafoedd cyfagos eu defnyddio fel rhan o’r ymarferion hyfforddi, gan greu brwydrau ffug dros y môr wrth iddyn nhw ddilyn cyfarwyddiadau llywio gan yr hyfforddai. Yn ystod y rhyfel pan nad oedd awyrennau sbâr ar gael at ddiben hyfforddiant, fe ddefnyddiai’r Llynges Frenhinol feiciau hufen iâ tair-olwyn gan gwmni Hufen Iâ Walls. Rhoddwyd teliffon radio, cwmpawd a metronom ar bob beic.
Roedd rhai o’r beiciau yn esgus bod yn awyrennau bomio’r gelyn gan lywio cwrs tra’n pedlo i guriad pendant y metronom. Byddai’r technegwyr a phlotwyr radar yn darparu safle yr
‘awyrennau’ a’r swyddogion cyfarwyddyd awyrennau ymladd yn cyfrifo’r cwrs angenrheidiol i’w rhwystro.
Fe gaeodd y safle yn y 1960au ac fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; rydym yn gofalu am ychydig llai na 70 hectar. Bellach, cerdded yr arfordir a gwylio bywyd gwyllt sy’n digwydd yma. Craffwch am adar fel brain coesgoch a’r hebog tramor ar frig y clogwyn, edrychwch ar ein merlod mynydd Cymreig yn pori’r pentir a’r blodau arfordirol hardd sy’n tyfu o ganlyniad i’n rhaglen pori cadwraethol.
Erbyn hyn mae’r ardal hefyd yn safle Darganfod yr Awyr Dywyll, yn un o safleoedd gorau’r DU ar gyfer syllu ar y sêr.
Ychydig yn bellach ar hyd yr arfordir mae Penrhyn Marloes ac rydym yn ffodus i fod yn gofalu am hwn hefyd. Ymwelwch â Thraeth Marloes, ac archwilio’r gors a chwiliwch am forloi bach yn yr hydref.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.