Chwefror 2024
Restoration of the habitat complete for World Wetlands Day
Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cam cyntaf o adfer Cors Marloes wedi’i gwblhau. Mae hyn wedi arwain at adfer 1.5 hectar, neu ardal tua theirgwaith maint cae pêl-droed, o gynefin gwerthfawr, gyda chronfeydd dŵr dwfn yn cael eu hailgysylltu â gwlypdiroedd mwy bas cyfagos a rhwydweithiau llwybrau’n cael eu gwella. Mae’r cysylltiadau at y Gors a Llwybr Arfordir Cymru ynghyd â’r llwybrau mynediad o faes parcio Traeth Marloes bellach yn addas ar gyfer sgwteri symudedd pob tir gan gysylltu â Runwayskiln a mannau i weld golygfeydd gwlypdir trawiadol a gwylio’r bywyd gwyllt. Byddwn yn eich diweddaru yma wrth i fam natur ail-wyrddu’r lleoliad. Diolch o galon i’n rhoddwyr. Derbyniwyd rhoddion tuag at y gwaith o adfer Gwlypdiroedd Cors Marloes gan Sefydliad Waterloo, Cyfoeth Naturiol Cymru, The Langdale Trust a rhoddion preifat.
![Awyrlun o Brosiect Gwlypdiroedd Cors Marloes wedi’i gwblhau](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/aerial-view-of-marloes-mere-wetland-project-finished-dave-welton.jpg?auto=webp&width=623&dpr=2 2x)