Dathlu 'Gŵyl Fair y Canhwyllau' yn Stagbwll
- Cyhoeddwyd:
- 26 Chwefror 2025
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn helpu rhoi dathliad traddodiadol ‘Gŵyl Fair y Canhwyllau’ yn ôl ar y map yn Stagbwll hefo gorymdaith llusernau hudolus.
Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.
Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth a pholisi preifatrwydd YouTube Google cyn derbyn.
Dathlu 'Gŵyl Fair y Canhwyllau' yn Stagbwll
Edrychwch ar sut y cafodd y dathliad traddodiadol 'Gŵyl Ffair y Canhwyllau' ei ddathlu gan aelodau'r gymuned yn Stagbwll.
Mae ‘Gŵyl Fair y Canhwyllau’ yn ŵyl draddodiadol Gymreig sy’n nodi dyfodiad y gwanwyn, gyda defodau y gellir eu dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif. Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi bod yn llai amlwg, fodd bynnag, roedd gorymdaith lusernau a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn golygu bod yr ŵyl hon wedi’i dathlu mewn steil yn Stagbwll eleni.
Yn draddodiadol, ar Ŵyl Fair y Canhwyllau, a ddathlwyd ar Chwefror 2, byddai pobl yn cynnau canhwyllau i ddathlu eu bod wedi goroesi'r gwaethaf o’r gaeaf, fel symbol o olau yn y tywyllwch ac i ganolbwyntio ar yr amseroedd da sydd eto i ddod.
Yn Stagbwll eleni, gwnaeth aelodau’r gymuned bron i 60 o lusernau eirlysiau mewn gweithdai a gynhaliwyd gan yr artistiaid lleol Robert Jakes, Charlotte Cortazzi a Pauline Le Britton o Sand Palace Arts. Ynghyd â darnau mwy trawiadol a wnaed gan yr artistiaid eu hunain, cafodd y llusernau hyn eu goleuo a ffurfio'r orymdaith hudolus a aeth ar hyd y llynnoedd.
Cafodd y noson ei arwain gan y storïwr Deborah Winter a archwiliodd y credoau traddodiadol a fu’n sail i’r ŵyl cyn arwain yr orymdaith.
Dywedodd Rhian Sula, Rheolwr Cyffredinol Sir Benfro;
‘Mae’n wych gallu cynnal digwyddiad sy’n dod a phobl at ei gilydd yn Stagbwll ar ôl y gwaethaf o’r gaeaf a chreu cyfle i gael cysylltu â’r dirwedd a’n treftadaeth ddiwylliannol.’
‘Mae’n adeg o’r flwyddyn pan wyddom fod pobl yn ei chael hi’n anodd mynd allan ym myd natur wrth i’r dydd fod yn fyrrach, felly mae’n wych bod gennym y gofod hwn lle gallwn ddod ac ein cymunedau lleol at ei gilydd.’
Daw’r digwyddiad hwn fel digwyddiad cyntaf ym mlwyddyn ddiwylliant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, lle mae Cymru yn ei holl natur, harddwch a hanes amrywiol yn cael ei dathlu trwy raglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol a chreadigol.