Skip to content
Prosiect

Prosiect Llynnoedd Ystad Ystagbwll

Delwedd o'r awyr yn dangos twf Sparganiwm yn Llynnoedd Ystâd Stackpole.
Delwedd o'r awyr yn dangos Sparganium yn Llynnoedd Stackpole | © James Dobson

Mae llynnoedd Ystad Ystagbwll o bwysigrwydd Ewropeaidd ar gyfer gwarchod natur, gydag amgylchedd amrywiol sy’n cynnwys coedwig genedlaethol Cymru, twyni, clogwyni calchfaen a thraethau.

Mae Llynnoedd Ystagbwll, a elwir hefyd yn Byllau Lili Bosherston, yn rhan o Ystad Ystagbwll. Mae’r ystad, a leolir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, oddeutu 2000 acer o faint. Mae’n cynnwys tirweddau amrywiol, megis llynnoedd dŵr croyw artiffisial mawr, coetiroedd, twyni, clogwyni calchfaen a thraethau.


Mae rhan helaeth o’r dirwedd o bwysigrwydd Ewropeaidd ar gyfer gwarchod natur – gwelir hyn yn y dynodiadau, sy’n cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Gwarchodfa Natur Genedlaethol a thri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Hefyd, mae’r llynnoedd yn rhan o’r Warchodfa Natur Genedlaethol a reolir mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n rhan o’r Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yr ystyrir ei bod yn un o’r ardaloedd pwysicaf o’i bath yng Nghymru. Ymhellach, ym mis Ionawr 2024 y coetir hwn oedd y cyntaf i ennill statws coedwig genedlaethol Cymru.

Hefyd, cydnabyddir bod Llynnoedd Ystagbwll yn safle Gradd 1 yng Nghofrestr CADW/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.

Ychydig o leoedd yn y DU sy’n cynnwys cynefinoedd a bywyd gwyllt mor amrywiol mewn ardal gymharol fach ar safle nad oes yn rhaid talu i fynd arno. Oherwydd hyn, gall pobl gael mynediad rhad ac am ddim at amgylchedd lle gallant fwynhau heddwch a thawelwch.

Mae’r Ystad yn denu oddeutu 500,000 o ymwelwyr undydd bob blwyddyn ac mae’n boblogaidd ymhlith cerddwyr a phobl sy’n hoffi ymweld â Bae Barafundle a Broad Haven South. Mae hefyd yn denu amrywiaeth eang o arbenigwyr – o naturiaethwyr a daearegwyr i ddringwyr, pysgotwyr, rhedwyr a syrffwyr.

Gan fod yr ystad yn agos at bentrefi Ystagbwll a Bosherston, mae’n amwynder lleol gwerthfawr a phoblogaidd a ddefnyddir yn ddyddiol.

Cafodd y parciau, y gerddi, y llynnoedd a’r coetiroedd eu datblygu a’u gwella er mwyn creu tirwedd addurnol soffistigedig a hardd ar raddfa enfawr. Ar ei hanterth, byddai Ystad Ystagbwll wedi sefyll ochr yn ochr â rhai o ystadau gorau Prydain, oherwydd roedd ganddi lwybrau, pontydd, coredau a grotos mewn mannau strategol, gyda gwaith plannu gofalus ac arloesol yn ategu’r cwbl.

Dyfyniad gan CadwCadw Welsh government's historic environment service.
Llun o'r awyr o Lynnoedd Stackpole
Llynnoedd Stackpole o'r awyr | © James Dobson

Cefndir

Dros y ganrif ddiwethaf, mae dyddodion silt yng nghangen ddwyreiniol uchaf y llynnoedd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod y degawd diwethaf wrth i’r llyn fynd yn fasach. Mae hyn wedi arwain at golli cynefin dŵr agored a gwelir mwy a mwy o rywogaethau planhigion dŵr yn tyfu yno, fel cleddlys

Mae newid hinsawdd a siltio yn arwain at ostwng lefel y dŵr yn ystod yr haf, ac mae’r gostyngiad dilynol yn lefel yr ocsigen yn y dŵr yn creu amodau perffaith sy’n galluogi cyanobacteria (Alga gwyrddlas) i ffynnu – rhywbeth y gwelwn fwy a mwy ohono bob blwyddyn.

Yn ystod y gaeaf, mae stormydd mwy mynych, sy’n arwain at lefelau dŵr uwch nag arfer, yn cynyddu’r gwaddodion ac yn achosi mwy o lifogydd ar lwybrau mynediad yr ystad.
Dros sawl blwyddyn bellach, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn monitro’r broblem hon ac yn ceisio’i datrys, ond mae’r dystiolaeth a welwn yn ddyddiol yn dangos bod y llynnoedd a’r coetir o’u hamgylch yn cael trafferth i ddelio â newidiadau mor fawr yn yr amgylchedd. Yn ei dro, mae hyn yn effeithio ar fynediad a phrofiad preswylwyr ac ymwelwyr.

Y Prosiect


Nod y prosiect hwn yw dod o hyd i ateb cynaliadwy a hirdymor ar gyfer Llynnoedd Ystagbwll. Ar hyn o bryd, mae’r prosiect wedi cyrraedd y cam dichonoldeb.

Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i weithio gyda’n cymuned leol, gyda’n hymwelwyr a chyda thoreth o arbenigwyr i ddatblygu dull a fydd yn ein galluogi i ddeall Ystagbwll yn well a gwarchod a rheoli’r ystad mewn modd cynaliadwy yn yr hirdymor.


Amserlen y Cam Dichonoldeb

Isod, ceir amserlen ddangosol ar gyfer gwaith/gweithgareddau a wneir yn ystod cam dichonoldeb y prosiect hwn.


Gorffennaf – Hydref

Ein nod yw gweithio gydag arbenigwyr (oddi mewn ac oddi allan i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) i ganfod a datblygu atebion rheoli posibl a all ategu’r prosiect.

Ar yr un pryd, bydd trydydd parti allanol yn cael ei benodi i ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid hollbwysig.

Mis Hydref ymlaen


O fis Hydref, byddwn yn dechrau adolygu gwybodaeth ac adborth a byddwn yn ystyried opsiynau ac atebion a fydd yn deillio o gyngor gan arbenigwyr a sylwadau gan y gymuned. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer llynnoedd Ystagbwll – gweledigaeth a fydd yn cael ei rhannu gyda rhanddeiliaid er mwyn iddynt allu cyfrannu ati.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda’r datblygiadau diweddaraf. I gael rhagor o wybodaeth am statws y prosiect, cadwch olwg ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a’r dudalen hon.

Amserlen Prosiect Llynnoedd Ystad Ystagbwll.

Penodi Pobl Tir Môr

Mehefin 2024

Pleser yw cadarnhau ein bod wedi penodi Pobl Tir Môr i fwrw ymlaen â’r ymgynghoriad cymunedol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn sicrhau bod pobl sy’n byw yng nghyffiniau’r llynnoedd, yn ogystal â phobl eraill sy’n trysori’r llynnoedd ac sy’n byw ymhellach i ffwrdd, yn cael cyfle i roi adborth ar Brosiect y Llynnoedd.
 

Logo Pobl Tir Mor
Logo Pobl Tir Mor | © National Trust Images / Sue Jones
Ymwelwyr yn cerdded i lawr allt at draeth yn Stagbwll

Darganfyddwch fwy yn Stagbwll

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.