Darganfyddwch fwy am Fynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg
Dysgwch sut i gyrraedd Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae mynydd Pen-y-fâl yn codi’n uchel uwchben y cefn gwlad cyfagos ac yn gefnlen drawiadol i dref farchnad y Fenni yn Ne Cymru. Mwynhewch olygfeydd godidog ar draws de Cymru, Bannau Brycheiniog ac i dde-orllewin Lloegr o’r copa.
Yn pician rhwng cribau Llanwenarth, Deri a Rholben, mae Pen-y-fâl yn un o’r copaon uchaf yng nghrombil y Mynyddoedd Duon. Mae’n 1,955 troedfedd (596 metr) o uchder.
Mae ei siâp conigol yn debyg i losgfynydd, ond mae’r mynydd wedi’i wneud o’r un dywodfaen goch â gweddill y Mynyddoedd Duon.
Mae llwybrau amrywiol yn cris-croesi gwar crwn y mynydd, sydd dan flanced o rug a rhedyn – mae’n lle cyffrous i gerdded a mwynhau’r gwylltni garw drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r mynydd yn hafan i fywyd gwyllt yr ucheldir. Mae ehedyddion yn hedfan fyny fry, gwenoliaid yn gwibio fan hyn fan draw a grugieir cochion yn llechwra yn y grug, tra bod y boda ac ambell i farcud coch yn goruchwylio popeth o’r entrychion.
Mae tair crib Llanwenarth, Rholben a Deri, sy’n debyg i fysedd, wedi’u ffurfio o lethrau Pen-y-fâl, gan greu dau ddyffryn coediog dwfn – Cwm y Santes Fair a Chwm Cibi.
Mae’r coetiroedd derw sy’n dechrau ar frig Llanwenarth yn estyn am filltiroedd drwy’r dyffrynnoedd hyn ac maent yn lleoedd arbennig i ddod wyneb yn wyneb â natur ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mae rhostir agored Pen-y-fâl yn dir comin cofrestredig sy’n estyn i mewn i ddwy sir. Mae’r darn mwyaf yn Sir Fynwy, gyda’r gweddill ym Mhowys.
Mae tir comin yn dir dan berchnogaeth breifat lle mae gan ffermwyr lleol yr hawl i bori eu hanifeiliaid, sy’n golygu bod y mynydd yn hanfodol i’r ffermwyr cyfagos sy’n meddu ar hawliau pori ar Ben-y-fâl.
Yn swatio dan y llethrau coed deri ar Fynydd Pen-y-fâl, mae Fferm Parc Lodge yn eistedd ym mhen uchaf Cwm Cibi ac ar un adeg roedd yn barc ceirw canoloesol.
Mae’r fferm yn ymestyn ar draws cwm agored eang ac mae’n arbennig o bwysig am y coedwigoedd helaeth gwasgaredig a’r coed sbesimen sy’n tyfu ar hyd ochrau’r cwm. Mae’r coetiroedd ym Mharc Lodge yn rhan o goedwig ehangach sy’n ymestyn am sawl cilomedr.
Dyma ymyl ddwyreiniol eithaf y math hwn o goetir deri Atlantaidd ac mae tair ardal fawr wedi cael eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Nôl yn y canol oesoedd roedd Parc Lodge yn barc ceirw, ar gyfer priordy’r Fenni fwy na thebyg. Ond nid oes ceirw wedi bod yma am gannoedd o flynyddoedd.
Heddiw, mae banc amlwg i’w weld yn nodi hen ffin allanol y parc canoloesol. Mae’r banc yn nodedig am ei fod yn un o’r enghreifftiau mwyaf cyflawn o fanc terfyn yng Nghymru ac mae’r parc wedi’i restru fel safle ICOMOS (y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd).
Ynghudd dan gopa unigryw Mynydd Pen-y-fâl mae ‘na fyd bach sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â thir gwyllt a garw’r copa. Mae Cwm y Santes Fair yn swatio rhwng cribau crwn bryniau Llanwenarth a Rholben, lle mae milltiroedd o goed deri a ffawydd hyfryd yn gorchuddio ochrau’r cwm, a lle mae Nant Iago yn dechrau ei thaith.
Mae’r coetiroedd rhyfeddol hyn yn fur o ddail i’ch gwarchod rhag gweddill y byd. Yn y gwanwyn mae gwyrddni llachar y coed yn ffurfio cadeirlan fawreddog naturiol, gyda golau’r haul yn diferu drwy’r dail gan greu patrwm brith o gysgodion sy’n chwarae ar wyneb Nant Iago wrth iddi ymlwybro i lawr i dref y Fenni.
Mae darnau mawr o’r coetiroedd hyn wedi cael eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae’r cwm hefyd yn gartref i boblogaeth fawr o forgrugyn coch y coed, sy’n brin iawn.
Mae’r brigiad olaf hwn yn y Mynyddoedd Duon, sy’n codi’n ddramatig o’r dirwedd, yn gyfoeth o hanes a thir gwyllt. Mae golygfeydd godidog rif y gwlith i bob cyfeiriad ac mae’r daith gerdded i’r copa yn wefreiddiol a gwerth chweil.
Wedi’i gwahanu wrth y brif gadwyn o fynyddoedd gan Gwm Gafenni, mae Ysgyryd Fawr yn codi’n ddramatig o’r dirwedd, er, yn 486m o uchder, mae’n llai na’i chymdogion.
Mae lleoliad anghysbell Ysgyryd Fawr yn golygu bod golygfeydd godidog i bob cyfeiriad: Swydd Henffordd a’r Malverns i’r gogledd, y Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog i’r gorllewin, Dyffryn Wysg a Gwlad yr Haf i’r de a Swydd Gaerloyw a Fforest y Ddena i’r dwyrain.
Y maes parcio (rhaid talu) ar y ffordd rhwng y Fenni ac Ynysgynwraidd yw’r brif fynedfa i’r bryn. O’r fan hon, mae’r llwybr yn troelli’n serth drwy Goed Pant Ysgyryd ac allan i’r gefnen, gyda llethrau llai serth yn arwain at y copa.
Gall y rheini sydd ar drywydd her go iawn sgramblo i’r copa ar lechweddau gogleddol y mynydd, tra bod y traciau drwy Goed Pant Ysgyryd yn fwy hamddenol.
Dysgwch sut i gyrraedd Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.