Diwrnodau i’r teulu yn Nhŷ Tredegar
Mae digon i ddiddanu’r teulu i gyd yma yn Nhŷ Tredegar. Gyda phlasty trawiadol a 90 erw o erddi a pharcdir i’w darganfod, rydych chi’n siŵr o greu atgofion i’w trysori am flynyddoedd i ddod.
Trefnu eich ymweliad
Dyma wybodaeth allweddol ar gyfer trefnu ymweliad eich teulu...
- Mae cyfleusterau newid babanod ar gael drws nesaf i’r dderbynfa, ac yng Nghaffi’r Bragdy. Mae tai bach y parc ar agor yn ystod misoedd yr haf yn unig.
- Oherwydd y lloriau hanesyddol, ni allwch ddod â phramiau na bygis i mewn i’r tŷ. Mae lloches parcio pramiau ger drws ffrynt y tŷ.
- Ni chewch ddod â beics, sgwteri, ffrisbis na pheli i mewn i’r gerddi, ond mae digon o le i chwarae gyda’r pethau hyn yn y parc.
- Mae bocsys bwyd plant ar gael yng Nghaffi’r Bragdy, ac mae gan y siop lyfrau ail-law ddewis arbennig o lyfrau plant.
- Rhaid talu i fynd i’r tŷ a’r gerddi, ond gallwch fynd i’r parc am ddim.
Pecyn creadigol
Codwch becyn: Helpwch eich hun i un o'n Pecynnau Creadigol, sy'n llawn popeth sydd ei angen arnoch i droi ysbrydoliaeth yn weithiau celf. Cewch adael eich gwaith i eraill ei weld, neu fynd ag ef adref gyda chi.
Bagiau Cefn Antur Synhwyraidd
Bydd ein bagiau antur synhwyraidd yn addas i ystod o anghenion amrywiol i bob oed. Ewch am antur i'r gerddi, mae’r pecynnau’n cynnwys amrywiaeth o eitemau synhwyraidd, gan gynnwys teganau tawelu, amddiffynwyr clustiau, chwyddwydr, llyfr stori a theganau meddal.
Bagiau Cefn Antur
Gall teuluoedd a phlant gasglu bag cefn antur o’r Dderbynfa Ymwelwyr i wella eich ymweliad. Ewch drwy’r gerddi ffurfiol a’r Plasty wrth gysylltu â natur a’r rhai o’ch cwmpas drwy weithgareddau tymhorol hwyliog.
Llefydd gwych y chwarae
Dilynwch y ddolen hon am daflen i’w lawrlwytho a fydd yn dangos yr holl gemau gorau i chi eu chwarae yn y parcdir.
Pethau i’w gwneud yn y tŷ
Gwisgo i greu argraff
Esguswch mai Tŷ Tredegar yw eich cartref neu weithle chi gyda dewis o wisgoedd traddodiadol. Gyda ffrogiau, siacedi a hetiau i ddewis o’u plith – ydych chi am fod yn arglwyddes neu’n fwtler? A chofiwch dynnu llun fel teulu yn yr Ystafell Frown.
Chwarae gyda phypedau
Ewch i’r Lolfa lle gwelwch gornel glud ag arddangosfa bypedau ryngweithiol. Crëwch eich storïau eich hun am y bobl a oedd yn byw yma gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Allwch chi ail-greu rhai o’r straeon rydych chi wedi’u clywed yn ystod eich ymweliad?
Pethau i’w gwneud yn y gerddi
Datblygu man chwarae newydd
50 peth i'w wneud cyn dy fod yn 11 ¾
Mwynhewch weithgareddau’r 50 peth i’w wneud cyn dy fod yn 11 ¾ – rhestr fwced yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i anturiaethwyr ifanc. Gwyliwch aderyn, gwnewch ffrindiau gyda phryfyn neu ewch i grwydro yn eich welîs wrth i chi fwynhau popeth sydd gan y gerddi i’w gynnig. Casglwch daflen weithgareddau o’r dderbynfa ymwelwyr cyn i chi ddechrau ar eich antur wyllt.
Pethau i’w gwneud yn y parc
Lle i chwarae a mwynhau picnic
Gydag ardaloedd gwyrdd eang, y parc yw’r lle perffaith i gicio pêl, reidio beic neu fwynhau natur gyda phicnic a thaith gerdded. Mewn tywydd gwlyb, gall rhai o’r llwybrau fod yn fwdlyd, felly cofiwch wisgo’n addas ar gyfer eich ymweliad.
Bwydo’r hwyaid
Mae’r llyn addurniadol yn Nhŷ Tredegar yn gartref i lawer o wahanol adar, gan gynnwys hwyaid, cotieir, elyrch a gwyddau. Pys wedi rhewi yw’r bwyd gorau sydd gennych i adar yn eich cartref, mae’n siŵr – maen nhw’n llawn maetholion iach.
Llefydd Gwych y Chwarae yn Nhy Tredegar
Dilynwch y ddolen hon am daflen i’w lawrlwytho a fydd yn dangos yr holl gemau gorau i chi eu chwarae yn y parcdir.