Skip to content

Gwirfoddoli yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Ymwelydd, gwirfoddolwr a dehonglydd mewn gwisg, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Ymwelydd, gwirfoddolwr a dehonglydd mewn gwisg, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro | © National Trust Images/James Dobson

Ymunwch â’n tîm gwybodus a brwd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, gwneud cyfeillion newydd ac ymestyn eich gorwelion.

Gwirfoddolwyr profiad o’r tŷ.

Bydd Gwirfoddolwyr Profiad o’r Tŷ yn ychwanegu sbarc at unrhyw ymweliad – byddant yn estyn croeso cynnes i bawb, yn dod â hanesion Tŷ’r Masnachwr yn fyw ac yn helpu pobl i wneud y gorau o’u diwrnod.

 

Trwy gymryd rhan, bydd modd ichi wneud y canlynol:

  • Treulio amser yn ein mannau arbennig sy’n llawn dop o hanes
  • Dod i adnabod Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd a’n hymwelwyr
  • Bod yn rhan o dîm amrywiol a brwd a gwneud cyfeillion newydd
  • Ennill profiad o ran adrodd hanesion a chroesawu ymwelwyr
  • Meithrin a rhannu eich gwybodaeth

 

Hefyd, byddech yn ymuno â’r elusen gadwraeth fwyaf yn Ewrop ynghyd â thîm ehangach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n ymfalchïo mewn gofalu am 780 milltir o’r arfordir, mwy na 250,000 hectar o dir a mwy na 500 o dai hanesyddol, cestyll, henebion, gerddi, parciau a gwarchodfeydd natur (yn cynnwys goleudai, pentrefi, tafarndai a mwynglawdd aur!). Rydym yn elusen unigryw sy’n croesawu miliynau o bobl bob blwyddyn. Ein gweledigaeth yw agor mannau er budd pawb, am byth.

 

Ymwelydd, gwirfoddolwr a dehonglydd, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Ymwelydd, gwirfoddolwr a dehonglydd, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro | © National Trust Images/James Dobson

 Beth yw natur y gwaith?

 

  • Estyn croeso cynnes i bob ymwelydd.
  • Ymateb i anghenion gwahanol yr ymwelwyr, yn cynnwys pobl ag anghenion mynediad ychwanegol.
  • Darganfod yr hyn y mae’r ymwelwyr yn chwilio amdano yn ystod eu hymweliad a’u helpu i benderfynu sut i wneud y gorau o’u diwrnod.
  • Rhannu hanesion ysbrydoledig, ffeithiau hynod a gwybodaeth ymarferol neu, yn syml, rhoi cyfle i’r ymwelwyr grwydro wrth eu pwysau o amgylch y lle.
  • Dysgu rhagor am Dŷ’r Masnachwr Tuduraidd er mwyn ichi allu rhannu ei nodweddion arbennig i gyd – oddi mewn ac oddi allan.
  • Cewch ddigon o gyfle i wneud y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr, fel agor drws sy’n arwain at goridor neu ystafell gudd.
  • Ymateb i anghenion newidiol y Tŷ – cynnig help llaw gyda chasgliadau parhaol ac arddangosfeydd dros dro, ymchwilio, cyflwyno, arwain teithiau neu sgyrsiau.
  • Cynorthwyo gyda gweithdrefnau iechyd a diogelwch neu weithdrefnau gadael pe bai angen.
  • Bod yn rhan o dîm y gall fod angen iddo addasu a newid mewn ymateb i anghenion lleol, blaenoriaethau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu newidiadau yng nghanllawiau’r llywodraeth e.e. Covid.

Pam ymuno â ni?

Mae yna lu o resymau dros ymuno â ni; efallai mai gwirfoddoli fydd y penderfyniad gorau a wnewch erioed.

  • Dewch yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig.
  • Cewch gyfarfod â phobl o bob cefndir a chreu sawl cyfeillgarwch newydd.
  • Cewch ddefnyddio eich sgiliau presennol a dysgu sgiliau newydd.
  • Cewch gryfhau eich CV a helpu i ddatblygu eich gyrfa.
  • Dewch i fwynhau’r awyr agored anhygoel.
  • Cewch ddysgu am hanes y lle arbennig hwn.

I  ddarganfod mwy e-bost tudormerchantshouse@nationaltrust.org.uk

 

Garden volunteers helping to weed the Walled Garden at Wimpole, Cambridgeshire

Cymerwch olwg ar ein rolau gwirfoddoli

P'un a ydych chi am helpu yn yr awyr agored, gweithio gyda'r cyhoedd, neu ddod i nabod ein tai, cymerwch olwg ar beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.