Skip to content

Digwyddiadau yn Nhŷ Mawr Wybrnant 2025

Digwyddiadau Diwrnodau Agored Tŷ Mawr Wybrnant
Mae yna nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal yn Nhŷ Mawr Wybrnant eleni | © National Trust

Mae gennym raglen gyffrous eto eleni a fydd yn cyffwrdd ar amrywiaeth o themâu gwahanol – o len gwerin i gerddoriaeth ac o hanes i daith gerdded interactif.

Mae’r diwrnodau agored yn cael eu cynnal ar y Sul cyntaf o bob mis o fis Mai tan fis Medi. Bydd y ffermdy ar agor rhwng 10am a 4pm ar y diwrnodau agored.

Actor yn perfformio fel William Morgan ar lwyfan bach o flaen torf o ddisgyblion ysgol yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy, Cymru
Llion Williams yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn 2023. Bydd yn dychwelyd i Dŷ Mawr Wybrnant fel rhan o gast a fydd yn mynd â chi ar daith gerdded llawn straeon | © National Trust Images / Tape Productions

Dewch i Grwydro.

4 Mai | 10am a 2pm.

Dewch i ymuno ar daith gerdded interactif o gwmpas Tŷ Mawr ond gyda twist! Bydd actorion proffesiynol yn dod a chymeriadau llen gwerin yr ardal yn ôl yn fyw am gyfnod byr, ac yn eich gwahodd i wrando ar eu hanesion. Cast yn cynnwys Llion Williams, Mair Tomos Ifans, Mirain Fflur a Tudur Phillips.

£5 i oedolion. Plant am ddim. Cliciwch ar y ddolen i archebu lle: Buy Dewch i Grwydro - Tŷ Mawr Wybrnant Tickets online - National Trust

Mae'r daith gerdded yn Gymraeg, ond yn addas i ddysgwyr.

Llun o'r cerddor Gai Toms
Fe fydd Gai Toms yn perfformio yn Nhŷ Mawr eleni | © Gai Toms

Picnic ar y lawnt gyda Gai Toms.

1 Mehefin | 1pm.

Bydd y digwyddiad blynyddol boblogaidd ‘picnic ar y lawnt’ yn cael ei gynnal eto eleni, y tro hyn gyda’r cerddor gwerin, roc a ska Gai Toms. Dewch a blanced a phicnic efo chi i fwynhau set gerddorol yn awyrgylch unigryw Tŷ Mawr.

Am ddim ond rhaid archebu lle. [Manylion i ddilyn yn fuan]

Digwyddiadau Diwrnodau Agored Tŷ Mawr Wybrnant
Olrhain stori’r cymeriad llen gwerin Nannws a’ch Rhobert a oedd yn defnyddio lludw y tan i wneud sebon i'w werthu | © National Trust

Tân Glân.

6 Gorffennaf | 10am – 4pm (sesiynau anffurfiol drwy gydol y dydd.)

Bydd y digwyddiad yma’n olrhain stori’r cymeriad llen gwerin Nannws a’ch Rhobert drwy gynnau tân yn yr ardd. Buodd Nannws yn defnyddio lludw poeth y tan i wneud sebon i'w werthu i fasnachwyr a oedd yn teithio drwy’r dyffryn yn y gobaith o godi arian i adeiladu’r capel Methodist cyntaf yn yr ardal. Am ddim.

Digwyddiadau Diwrnodau Agored Tŷ Mawr Wybrnant
Dewch i ymuno gyda cherddorion gwerin yn Nhŷ Mawr | © National Trust

Tŷ Llawen.

3 Awst | 11am-3pm (sesiynau anffurfiol drwy gydol y dydd.)

Mae Tŷ Mawr wedi cynnal sawl Noson Lawen dros y canrifoedd yn ei hanfod fel man gorffwys i'r porthmyn. Ymunwch gyda ni am ddiwrnod ymlaciol gydag ambell i gerddor gwerin, wrth iddynt jamio yn ddi-blwg gydag offerynnau Celtaidd ar hyd y safle. Dewch a’ch offerynnau eich hunain os ydych eisiau ymuno! Am ddim.

Darlith gan yr Athro. Jerry Hunter.

7 Medi | (Amser i'w gadarnhau.)

Bydd y ddarlith flynyddol eleni yn cael ei chynnal gyda’r Athro. Jerry Hunter o Brifysgol Bangor. Bydd mwy o fanylion i ddilyn o ran y pwnc. £5 i oedolion. Rhaid archebu lle [Manylion i ddilyn yn fuan]

Mae’r Ymddiredolaeth Genedlaethol yn awyddus i argaeledd y digwyddiadau fod yn agored i bawb. Cysylltwch drwy ebostio tymawrwybrnant@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch 01766 510 120 os ydych eisiau trafod unrhyw beth gyda ni.