Ysgolion lleol yn dod â stori Tŷ Mawr Wybrnant yn fyw
Yn ddiweddar byddwn ni'n cyd-weithio ag Ysgol Llanddoged ac Ysgol Ysbyty Ifan ar brosiect i ddathlu hen drysor drwy leisiau ifanc, gan greu dehongliad newydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.
Dechreuodd y rhaglen fis o hyd gyda chyflwyniad i hanes hynod ddiddorol un o drigolion enwocaf Tŷ Mawr Wybrnant, yr Esgob William Morgan, drwy berfformiad hwyliog a rhyngweithiol ' Mewn Cymeriad ar y safle gan yr actor, Llion Williams.
Gyda chymorth hwyluswyr lleol, 'Tape Community, Music and Film', aeth yr ysgolion ymlaen wedyn i ddychmygu'r synau y byddai William Morgan wedi'u clywed yn blentyn o'u hoedran, yn y ffermdy dros 400 mlynedd yn ôl. Yna cafodd y disgyblion y dasg o greu map o Dŷ Mawr a dod â’r tŷ yn fyw trwy sain.
Roedd y sesiynau'n cynnwys recordio synau go iawn, fel y nant a phroses o ail-greu synau o'r enw seiniau Foley, a oedd yn cynnwys bod yn greadigol gyda phropiau annisgwyl, fel papur gyda swigod y gellir eu popio ar gyfer ail-greu sŵn tân yn yr aelwyd.
Dywedodd Lois Jones, Swyddog Partneriaethau a Rhaglennu, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Nhŷ Mawr Wybrnant, “Roeddem am weithio mewn partneriaeth â’r ysgolion, gan gynnig y cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd wrth roi’r her iddynt greu dehongliad i ymwelwyr. O fewn y paramedrau hynny, cynlluniwyd y rhaglen i gael ei harwain gan y plant a gwnaeth eu brwdfrydedd, eu hymgysylltiad â’r broses a’u perchnogaeth a’u balchder yn y gwaith argraff fawr arnom.”
Dywedodd Gareth Davies, Pennaeth Ysgol Llanddoged a Ysgol Ysbyty Ifan, ‘Profiad arbennig i’r disgyblion a chyfle gwych iddynt ddysgu am hanes a phwysigrwydd Tŷ Mawr Wybrnant yn niwylliant Cymru. Cafodd y disgyblion gyfle i weithio’n greadigol i greu adnodd bydd plant a phobl ifanc yr ardal a thu hwnt allu elwa ohoni. Diolch yn fawr am y cyfle i gyd-weithio.’
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod eu bod wedi gorfod gwneud rhai newidiadau mawr yn Nhŷ Mawr Wybrnant mewn ymateb i’r pandemig, ond mae’r elusen yn awyddus i bwysleisio ei bod wedi ymrwymo i ddathlu’r perl cenedlaethol symbolaidd hon ac yn datblygu cynlluniau eleni.
Ychwanegodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru “Yn dilyn llwyddiannau ein gwaith gydag ysgolion rydym yn edrych i ddatblygu ffocws ar addysg yn Nhŷ Mawr yn y dyfodol. Mae wedi rhoi cymaint o foddhad ac mae wedi bod yn galonogol gweld plant yn gallu mwynhau profiadau yr oeddem ni i gyd wedi eu cymryd yn ganiataol cyn y pandemig. Mae rhywbeth mor wych hefyd am glywed stori o safbwynt pobl ifanc.”
“Bu i ni ddechrau’r tymor hwn drwy wahodd teuluoedd i Dŷ Mawr Wybrnant i ddathlu gwaith yr ysgolion, daeth nifer wych i’r cyfarfod ac roedd ymdeimlad cymunedol hyfryd y diwrnod hwnnw, thema gref ar gyfer diwrnodau agored dilynol hefyd.”
Os hoffech weld gwaith y disgyblion, mae'r ystafell arddangos a'r tiroedd ar agor yn ddyddiol drwy'r tymor. Gallwch glywed y synau pan fydd y ffermdy ar agor.
Bydd Tŷ Mawr Wybrnant yn agor ar ddydd Sul cyntaf y mis tan fis Hydref, mae pob diwrnod agored yn canolbwyntio ar thema wahanol ac mae mynediad am ddim. Yn ogystal â’r diwrnodau agored bydd y ffermdy ar agor ar sail ad-hoc yn dibynnu ar argaeledd staff drwy gydol y tymor ac anogir ymwelwyr i edrych ar y wefan am yr oriau agor diweddaraf cyn cychwyn.