Skip to content

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Grŵp ar daith gerdded gydag arweinwyr ym Marsden Moor, Gorllewin Swydd Efrog | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Cotswold Outdoor yw ein hunig bartner cerdded. Mae eu cefnogaeth hael yn ein helpu i edrych ar ôl mannau yn yr awyr agored fel y gall pawb fynd yn nes at natur. Dysgwch ragor am ein gwaith gyda’n gilydd a sut y gall cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael budd o ostyngiad pris yn Cotswold Outdoor.

Mynd â’r genedl i’r awyr agored

Mae Cotswold Outdoor wedi bod yn helpu cwsmeriaid i fynd i’r awyr agored ers bron i 50 mlynedd. Maent yn cynnig cyngor arbenigol a dewis helaeth o ddillad, offer ac ategolion o’r safon uchaf sydd wedi eu gwneud i bara ar gyfer pob math o anturiaethau. Rydym yn rhannu eu hoffter o natur, eu hangerdd am yr awyr agored a’u hymrwymiad i arferion cynaliadwy.

Ers i’n partneriaeth ddechrau yn 2015, mae Cotswold Outdoor wedi ein helpu i ofalu am dirweddau a llwybrau cerdded gwerthfawr ac ysbrydoli mwy o bobl i fynd allan a mwynhau bod yng nghanol natur.

Mae Cronfa Hygyrchedd Cotswold, a grëwyd gyda chefnogaeth Cotswold Outdoor, hefyd yn helpu i chwalu rhwystrau cymdeithasol a sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt yn yr awyr agored. Yn 2023, derbyniodd grwpiau cymunedol The Mason Mile a Muslim Hikers gyllid ar gyfer eu gwaith ac rydym yn bwriadu cefnogi mwy o grwpiau cerdded yn flynyddol.

Ein helpu i ofalu am fannau gwerthfawr

Trwy ein partneriaeth barhaus, rydym yn parhau ein hymdrechion i ysbrydoli’r genedl i archwilio a darganfod mwy o arfordir a chefn gwlad y Deyrnas Unedig, yn ddiogel a chyfrifol.

Mae Cotswold Outdoor yn rhoi mwy o gyllid i ni helpu i ofalu am lwybrau cerdded fel bod mwy o bobl yn gallu mynd i gefn gwlad. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar ein Rhaglen Llwybrau a Theithiau newydd, sydd â’r nod o fapio, trwsio a dathlu 15,000km o lwybrau a theithiau cerdded erbyn 2030.

Trwy roi teithiau clir a chadarn i gerddwyr eu defnyddio, gall pawb deimlo effeithiau buddiol natur gan hefyd ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt. Ar ben hynny, pan fyddwch yn defnyddio cod disgownt cefnogwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Cotswold Outdoor, bydd hyd at 7 y cant o’r pris pryniant yn mynd yn ôl i’n helpu i ofalu am y mannau yr ydych yn mwynhau mynd i’w gweld.

Rydym yn falch o fod yn bartneriaid tymor hir i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chefnogi’r Rhaglen Llwybrau a Theithiau ar draws Cymru a Lloegr. Rydyn ni’n credu bod pobl yn hapusach yn yr awyr agored ac felly rydym yn falch iawn o fod yn bartner i sefydliad sy’n rhannu ein gwerthoedd ac yn cynyddu mynediad i’r mannau rhyfeddol yma. Gyda’n gilydd rydym yn eiriolwyr angerddol dros yr awyr agored, ein planed a’u mwynhau yn gyfrifol.

Dyfyniad gan Jose FinchCotswold Outdoor Managing Director
A group of visitors, including one on a mobility scooter, walk along a path at Elterwater. Behind them a lake can be seen at the foot of a snow-capped mountain.
Ymwelwyr yn archwilio’r daith yn Elterwater yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria | © National Trust Images/James Dobson

Gostyngiad i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael disgownt o 15% yn Cotswold Outdoor. Gellir cael y gostyngiad ar-lein pan fyddwch yn ymuno â chynllun buddion ‘Explore More’ Cotswold Outdoor, neu yn unrhyw siop Cotswold Outdoor trwy ddangos eich cerdyn aelodaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llawlyfr neu hyd yn oed dderbynneb o gaffi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae’r cynnig hwn yn dod i ben ar 30 Medi 2026, ond gall gael ei ymestyn. Rhoddir rhagor o fanylion am sut i hawlio’r cynnig isod.

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors exploring the Green Trail at the Giant's Causeway, County Antrim
Erthygl
Erthygl

Llwybrau hygyrch gorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae rhai llwybrau hygyrch gwych yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. (Saesneg yn unig)

Cerddwr yn cerdded ar hyd llwybr wrth ochr afon, oddi wrth y camera
Erthygl
Erthygl

Ar drywydd chwedlau 

Darganfyddwch y chwedlau sy'n dod â'n tirweddau'n fyw ar y teithiau cerdded hyn, sydd wedi'u dewis yn arbennig am eu cysylltiadau â chwedloniaeth leol. (Saesneg yn unig)

Family walking with a pushchair and dogs with the shore behind and blue skies above
Erthygl
Erthygl

Llwybrau cerdded i’r teulu 

Mwynhewch ddiwrnod allan gyda’r teulu gyda thaith gerdded yn yr awyr iach, gyda llawer o bethau diddorol i bawb o bob oedran ar hyd y daith. (Saesneg yn unig)

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)