Skip to content

Ymdrin â’n hanes o wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol

Collage yn cynnwys tri gwaith celf: peintiad o Teresia, Arglwyddes Shirley gan Van Dyke yn Petworth House; peintiad olew o goetsmon ifanc yn Erddig; a ffotograff o’r Maharaja Jam Sahib o Nawnagar yn Polesden Lacey.
Ch i’r Dd: Teresia Khan, Arglwyddes Shirley, 1622, gan Van Dyck (Petworth); Portread o goetsman ifanc anhysbys, diwedd y 18fed ganrif (Erddig); Ranjitsinhji, y Maharaja Jam Sahib o Nawanagar, 1922 (Polesden Lacey) | © National Trust Images

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am leoedd a chasgliadau ar ran y genedl, ac mae gan lawer gysylltiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol â gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol. Mae ein hadroddiad interim ar y ‘Cysylltiadau rhwng Gwladychiaeth a’r Eiddo sydd nawr yng Ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol’ yn archwilio’r cysylltiadau hyn fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli, eu rhannu a’u dehongli’n iawn.

Cyflwyno’r adroddiad ar wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol

Mae’r adeiladau, y gerddi a’r eitemau yn ein gofal yn adlewyrchu llawer o wahanol gyfnodau ac ystod fawr o hanes Prydeinig a byd-eang – yn gymdeithasol, diwydiannol, gwleidyddol a diwylliannol. Fel elusen dreftadaeth, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn hanesyddol gywir ac yn academaidd gadarn wrth i ni gyfathrebu am y llefydd a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt.

Beth sydd yn yr adroddiad?

Mae’r ‘Adroddiad Interim ar y Cysylltiadau rhwng Gwladychiaeth a’r Eiddo sydd nawr yng Ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys Cysylltiadau â Chaethwasiaeth Hanesyddol’, sy’n 115 tudalen o hyd, yn nodi’r cysylltiadau rhwng 93 lleoliad hanesyddol rydym yn gofalu amdanynt a gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys y fasnach caethweision fyd-eang, nwyddau a chynhyrchion llafur caethweision, diddymu a phrotest, a’r East India Company a’r Ymerodraeth Brydeinig yn India.

Mae’n tynnu ar dystiolaeth ddiweddar gan gynnwys y prosiect Gwaddolion Perchnogion Caethweision Prydeinig a ffynonellau’r Ymddiriedolaeth ei hun. Mae hefyd yn dogfennu’r ffordd y mae lleoliadu pwysig yr Ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â diddymu caethwasiaeth ac ymgyrchoedd yn erbyn gormes wladychol.

Lawrlwythwch yr adroddiad gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol (Saesneg yn unig)

Cyfraniadau gan guraduron ac ymchwilwyr

Mae wedi’i olygu gan Dr Sally-Anne Huxtable (Prif Guradur yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Yr Athro Corinne Fowler o Brifysgol Caerlŷr, Dr Christo Kefalas (Curadur Diwylliannau’r Byd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Emma Slocombe (Curadur Tecstilau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) gyda chyfraniadau gan guraduron ac ymchwilwyr eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y wlad.

Mae rhywfaint o’r ymchwil eisoes wedi’i defnyddio i ddiweddaru cynnwys digidol, ac mae’n ategu gwybodaeth i ymwelwyr a dehongliadau mewn lleoliadau perthnasol.

A close-up of the detailed design on the shark-skin covered Japanese chest at Chirk Castle.
Manylion y gist Japaneaidd yng Nghastell y Waun, y gwnaeth Thomas Myddelton, sylfaenydd Cwmni Masnachu Dwyrain India ei chaffael | © National Trust Images/Paul Highnam

Y cysylltiadau rhwng cyfoeth a chaethwasiaeth mewn lleoliadau yn ein gofal

Ochr yn ochr â’i waith adnabyddus fel anturiaethwr a herwlongwr, roedd Francis Drake (tua 1540–96) yn fasnachwr caethweision a hwyliai gyda’i gefnder John Hawkins (1532–95). Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gipio a chaethiwo pobl o Orllewin Affrica a’u gwerthu i blanhigfeydd Sbaenaidd yng Nghyfandiroedd America. Roedd Drake yn berchen ar Abaty Buckland yn Nyfnaint o 1581 hyd ei farwolaeth, ac roedd ei ddisgynyddion yn berchen ar yr eiddo tan 1946.

Richard Pennant a Chastell Penrhyn

Gwnaeth llawer o berchnogion lleoliadau a chasgliadau’r Ymddiriedolaeth ffortiwn o fod yn berchen ar blanhigfeydd siwgwr, a’r caethweision a oedd yn gweithio yno. Er enghraifft, gwnaeth Richard Pennant (tua 1737–1808), perchennog Ystâd Penrhyn yng Nghymru, fuddsoddi’r enillion o’r chwe phlanhigfa yr oedd yn berchen arnynt yn Jamaica, a’r cannoedd o gaethweision a oedd yn gweithio yno, yn y cloddiau llechi ar ei ystâd yng Ngwynedd, Cymru.

Roedd Richard Pennant hefyd yn Aelod Seneddol rhwng 1761 a 1784, a defnyddiodd ei rôl i weithredu fel ymgyrchydd croch a dylanwadol yn erbyn diddymiad caethwasiaeth. Cafodd cyfoeth Pennant ei etifeddu gan ei deulu a ddefnyddiodd eu ffortiwn i adeiladu Castell Penrhyn, sydd bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Talwyd am barcdiroedd, gerddi, tai a gwrthrychau moethus ag elw a wnaed yn uniongyrchol drwy gaethwasiaeth a’r iawndal a dalwyd i berchnogion caethweision ar ôl y diddymiad.

Cofnodion a phortreadau o bobl o dras Affricanaidd ac Asiaidd 

Mae cysylltiadau llai gweladwy neu ddiriaethol â chaethwasiaeth hefyd yn bodoli yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn eu casgliadau.  

Gwyddwn fod nifer o bobl o dras Affricanaidd ac Asiaidd wedi byw a gweithio yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod plentyn du o’r enw Philip Lucy wedi’i fedyddio ym Mharc Charlecote, Swydd Warwig ym 1735, a bod Mary Jones Wade (neu Mary James mewn rhai cofnodion), sef mam-gu Charles Paget Wade (1893-1956) o Faenor Snowshill, Swydd Gaerloyw, yn fenyw ddu a aned â statws rhydd yn St Kitts.

Gwaith yn parhau

Mae llawer mwy o ymchwil i’w wneud i ddatgelu mwy am fywydau’r bobl hyn. Rhaid i ni hefyd ddatgelu, a rhoi llais i, enwau a straeon yr unigolion di-rif y mae eu profiadau wedi’u celu gan hanes a ysgrifennwyd gan, ac ar gyfer, lleisiau o fraint ac awdurdod.

Wyneb gorllewinol Castell Penrhyn yn cael ei oleuo gan haul isel. Gwelir coed yn y blaendir.
Roedd Ystâd Penrhyn yng Nghymru yn eiddo i Richard Pennant, oedd yn berchen ar chwe phlanhigfa siwgr yn Jamaica  | © National Trust Images//Matthew Antrobus

Ein casgliadau a chaethwasiaeth

Mae rhai o gasgliadau’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys gwrthrychau a wnaed gan gaethweision, neu a oedd yn berchen iddynt. Roedd pren caled trofannol fel mahogani yn cael ei gynaeafu drwy law caethweision, fel y dangosir yn rymus yn y ffilm fer ‘Mahogany’ (cyfarwyddwyd gan Zodwa Nyoni a chynhyrchwyd gan 24 Design yn 2018). Comisiynwyd y ffilm gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nostell, Gorllewin Swydd Efrog i drafod y defnydd o fahogani yng nghasgliad dodrefn Thomas Chippendale.

Mae rhai gwrthrychau yng nghasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn portreadu pobl dduon mewn ffyrdd ystrydebol neu sy’n gwrthrychu cyrff duon. Mae rhai yn peri sarhad a thrallod.

Mae gwrthrychau fel coler caethwas Caribïaidd posibl Charles Paget Wade yn arwyddion amlwg ac erchyll o’r gorthrwm treisgar a wynebwyd gan gaethweision duon.  Mae caethwasiaeth yn bwnc sydd angen ei drin â’r gofal a’r sensitifrwydd eithaf. Ein nod yw gweithio gyda phartneriaid a chymunedau, a dysgu ganddynt, er mwyn i ni allu ailarddangos ac ailddehongli’r eitemau hyn yn iawn, y tu allan i’w cyd-destunau blaenorol o gelf addurniadol neu arddangosfa orchestaidd.

Cysylltiadau â masnach a’r East India Company

Am bum can mlynedd, roedd gwladychiaeth Brydeinig yn hanfodol i fywyd cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol Prydain. Daeth hyn law yn llaw â chred mewn goruchafiaeth wen, o safbwynt hiliol a diwylliannol. Adlewyrchir hyn ar draws llawer o leoliadau a chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Roedd llawer o’r eiddo a’r casgliadau yn berchen i – neu wedi’u prynu gan – swyddogion arweiniol o’r East India Company, y gorfforaeth hynod bwerus a ddominyddodd masnach rhwng Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol rhwng 1600 a 1857. Roedd y cwmni yn allweddol yng nghaethfasnach Dwyrain Affrica a hefyd yn masnachu caethweision o Arfordir Gorllewinol Affrica i’w wladfeydd yn Ne a  Dwyrain Affrica, India ac Asia. 

Thomas Myddelton (1550-1631), AS ac Arglwydd Faer Llundain, a brynodd Gastell y Waun ym 1593, oedd un o sylfaenwyr yr East India Company, a dderbyniodd siarter gan Elisabeth I ar 31 Rhagfyr 1600. 

Y teulu Clive a’r East India Company

Yn y 18fed ganrif, o dan Robert Clive (1725-74), defnyddiodd y cwmni ei gyfoeth a’i fyddinoedd i heidio i isgyfandir yr India a’i orchfygu er mwyn manteisio ar ei gyfoeth o adnoddau naturiol. Yn ogystal â chreu’r Ymerodraeth Brydeinig yn India, gwnaeth hyn Clive yn ŵr eithriadol o gyfoethog, ac ym 1768 gwariodd tua £100,000 yn ailfodelu Ystâd Claremont yn Surrey. Heddiw, mae Gardd Claremont dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gwnaeth mab Robert, Edward Clive (1754–1839), ac yntau’n Llywodraethwr Madras, drechu a lladd Tipu Sultan (1750–99), llywodraethwr Mysore. Mae etifeddiaeth wladychol Edward Clive i’w gweld heddiw mewn casgliad a elwir yn ‘Amgueddfa Clive’ yng Nghastell Powis.

Gwnaeth mab Edward Clive, a enwyd yn Edward hefyd, etifeddu Powis pan fu farw ei ewythr ar ochr ei fam, Iarll Powis. Mae’r casgliad o wrthrychau Indiaidd yn cynnwys pabell gwladwriaeth ysblennydd Tipu Sultan a phen teigr aur gemog o’i orsedd.

Panel wal o babell Swltan Tipu yng Nghastell Powis, Cymru, a wnaed o gotwm cain gyda chefndir gwyn, gyda phatrwm a ffiol ganolog gyda threfniant blodau cymesur.
Paneli wal cotwm chintz o babell y Swltan Tipu yng Nghastell Powis yng Nghymru | © National Trust Images/Erik Pelham

Casgliadau ac arddangosfeydd Indiaidd

Mae’r arddangosfa o wrthrychau Indiaidd ac Asiaidd eraill yn yr ‘Amgueddfa Ddwyreiniol’ yn Neuadd Kedleston yn dyst i Imperialaeth Brydeinig yn India ar droad y 19eg a’r 20fed ganrif.

Cafodd y gwrthrychau eu meddiannu gan George Curzon (1859–1925), Rhaglaw’r India o 1899–1905. Yn ôl y sôn, roedd gan Curzon ddiddordeb mawr mewn celf ac arteffactau Indiaidd, ond yn ddiweddar rydym wedi cydnabod bod ein dull o arddangos y gwrthrychau yn ddiwylliannol ansensitif.

Mae prosiect newydd ar waith i weithio gydag arbenigwyr mewn celf a hanes Asiaidd yn ogystal â chymunedau Asiaidd i ymchwilio, dehongli ac ailarddangos y casgliad fel cymaint mwy nag ysbeilion prydferth Ymerodraeth. 

Gwaith parhaus

Ni fydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar ei phen ei hun i ddatgelu, ymchwilio ac adrodd hanesion caethwasiaeth a gwladychiaeth. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol a byd-eang perthnasol, ac yn gwrando ar eu lleisiau, gan gynnwys sefydliadau partner ac arbenigwyr o gymunedau du a lleiafrifol ethnig, i ymchwilio a datblygu ein dealltwriaeth o’r berthynas gyfoethog a chymhleth rhwng y lleoliadau rydym yn gofalu amdanynt a gwrthrychau a diwylliant a hanes y byd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhedwar ban byd i gysylltu’r hanes hwn yn fyd-eang.

Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio cychwyn trafodaethau a fydd yn meithrin ein cyd-ddealltwriaeth ymhellach, ac yn gwneud ein lleoliadau a’n casgliadau’n berthnasol ac ymatebol i gynulleidfaoedd cynyddol amrywiol. Byddwn yn profi a gwerthuso camau gweithredu newydd a chyfredol. Rydym yn derbyn bod llawer o hyn yn newydd i ni, ac ni fyddwn yn cael pethau’n iawn bob tro, ond fe ddysgwn o’n camgymeriadau.

Ymateb ein Rheolwr-Gyfarwyddwr i’r sylw a roddwyd i’r adroddiad

Gwrandwch ar ymateb diweddaraf Hilary McGrady i rywfaint o’r sylw y mae’r cyfryngau wedi’i roi i’n hadroddiad a’i drafodaeth ar Syr Winston Churchill.

Scientific instruments at Sedge Fen at Wicken Fen National Nature Reserve, Cambridgeshire

Ymchwil yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Rydym yn Sefydliad Ymchwil Annibynnol a gydnabyddir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Mae ein hymchwil yn digwydd ar sawl ffurf – o’r graddau PHD rydym yn eu noddi a phrofion ymarferol ar gyfer technegau cadwraeth newydd i'r cannoedd o brosiectau ymchwil rydym yn cymryd rhan ynddynt neu’n eu cynnal yn y lleoliadau rydym yn gofalu amdanynt bob blwyddyn.

Lawrlwythwch yr adroddiad gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol

PDF
PDF

Adroddiad gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol (Saesneg yn unig) 

Lawrlwythwch yr adroddiad gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol (Saesneg yn unig)