Clogwyni ysblennydd, ogofâu lle'r oedd mamothiaid unwaith yn byw, adar prin, afon danddaearol, clwydi ystlumod, cloddio plwm arian, coetir hynafol, smyglo a chwareli calchfaen... dim ond rhai o ryfeddodau'r ardal hon.
Ceir hefyd nifer o nodweddion archeolegol a dwy ogof bwysig – Twll Bacon a Thwll Minchin. Roedd Mwynglawdd Long Ash yn Nyffryn Llandeilo yn gloddfa blwm arian ac mae bellach yn clwydo ystlumod pedol.
Ar un adeg roedd Bae Pwll Du yn chwarel galchfaen helaeth. Ar un adeg roedd yr adeiladau sy'n weddill yn dafarndai ar gyfer y gweithwyr sychedig. Roedd y bae hefyd yn fae bychan smyglo poblogaidd gyda rhywfaint o'r eitemau gwaharddedig yn cael ei werthu yn y tafarndai yn ôl y sôn.
Pen Pwll Du yw'r pentir uchaf ym Mhenrhyn Gŵyr ac mae'n cynnig golygfeydd anhygoel o Glogwyni Pennard a'r arfordir tuag at y Mwmbwls.
Beth am fynd am grwydr o'n maes parcio ar hyd clogwyni glaswelltog, fflat i'r gorllewin tuag at Fae Tri Chlogwyn neu i'r dwyrain at Bwll Du. Tir comin yw'r clogwyni hyn sy'n cael ei bori gan wartheg a defaid. Mae'r pori yma'n yn bwysig i'r frân goesgoch, aelod prin o deulu'r frân.