Darganfyddwch fwy ym Mhennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Dysgwch sut i gyrraedd Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Clogwyni Pennard, ger Southgate, Abertawe, yn cynnig golygfeydd ysblennydd ac wedi’u dynodi’n dir comin. Dewch am dro ar y comin a darganfod bywyd gwyllt Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.
Mae tir comin yn ardal o dir lle mae gan bobl heblaw’r perchennog hawliau traddodiadol i bori eu hanifeiliaid. Mae tiroedd comin yn ôl-ddyddio senedd-dai ac yn atgof o adeg pan fyddai tir yn aml yn wyllt a di-berchennog; gwaddol o’r system faenorol.
Mae’r Ddeddf Tiroedd Comin wreiddiol yn dyddio’n ôl i 1285. Mae bellach wedi’i diwygio dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006, gyda phob darn o dir comin wedi’i gofrestru a chofnodion yn cael eu cadw’n lleol gan Gynghorau Sir. Mae tua 12 y cant o dir Cymru wedi’i ddynodi’n dir comin, gyda dros 8,500 o diroedd comin gwahanol.
Rydym yn gofalu am dros 3km o dir sy’n ymestyn o Bwlldu i Fae’r Tri Chlogwyn a dros 1700 hectar o dir comin ym Mhenrhyn Gŵyr.
Mae dros hanner y tir ym Mhenrhyn Gŵyr wedi’i ddynodi’n dir comin, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio un o’r ardaloedd pwysicaf o rostir isel yng Nghymru. Ledled y wlad, mae grwpiau o gominwyr yn gweithio gyda’i gilydd ac, ym Mhenrhyn Gŵyr, maent wedi ffurfio Cymdeithas Cominwyr Gŵyr.
Sefydlwyd prosiect yn cefnogi Tiroedd Comin Gŵyr gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri ym 1998 a arweiniodd at lunio’r Cod Tiroedd Comin, ased i gefnogi pobl i wneud y gorau o’u hymweliad â Phenrhyn Gŵyr.
Mae tiroedd comin wedi dod yn ardaloedd pwysig iawn ar gyfer bywyd gwyllt a chadwraeth natur, gan fod bron pob un yn cefnogi llystyfiant lled-naturiol.
Mae wyneb y clogwyni yn Pennard yn ardaloedd pwysig iawn ar gyfer bwyd gwyllt – Penrhyn Gŵyr yw’r unig le yn y DU lle mae Llysiau Bystwn yn tyfu. Mae brain coesgoch yn nythu ar y clogwyni ac yn manteisio ar y porfeydd yn yr ardal gyfagos.
Mae’r darn hwn o dir yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr ac mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Mae hyn yn golygu bod gan anifeiliaid fel gwartheg a defaid yr hawl i grwydro’r rhydd ar dir comin Pennard.
Dysgwch sut i gyrraedd Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Mae’r olwyn ddŵr yn Aberdulais yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar gyfer y safle fel rhan o gynllun trydan dŵr arloesol. Mae traddodiad sy’n dyddio’n ôl 400 mlynedd yn dal i fynd.