Darganfyddwch fwy yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Dysgwch sut i gyrraedd Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ymwelwch â thraeth Rhosili ac Arfordir De Gŵyr; 3 milltir o dywod gyda golygfeydd ysgubol o’r glannau. Dyma’r llecyn delfrydol i fwynhau diwrnod ar lan y môr – gallwch gerdded, nofio, syrffio neu hedfan barcud hyd yn oed. Arhoswch tan fod y llanw ar drai ac fe gewch eich syfrdanu. Wrth i’r môr gilio, mae’n bosibl y gwelwch weddillion yr Helvetia, llongddrylliad o 1887 sy’n gorwedd yn y tywod o hyd.
Mae Cefnen Rhosili yn ardal o rostir isel ac yn gartref i amrywiaeth o bryfed gan gynnwys morgrugyn du’r gors, sy’n greadur bach prin. Dringwch i frig Cefnen Rhosili, pwynt uchaf Penrhyn Gŵyr, a theimlo fel eich bod ar ben y byd.
Mae’r golygfeydd panoramig yn estyn yr holl ffordd i orllewin Cymru, Ynys Wair ac arfordir gogledd Dyfnaint. Cadwch olwg am yr Old Rectory, ein bwthyn gwyliau poblogaidd.
O’r siop a’r Ganolfan Ymwelwyr, mae llwybr gwastad yn arwain ar hyd pen glaswelltog y clogwyn i Hen Wylfa Gwylwyr y Glannau. Mae defaid yn aml yn pori ar y pentir hwn. Cadwch olwg am y brain coesgoch duon â’u pigau oren llachar.
Mae dros 15 hectar o ddolydd blodau gwyllt i’w darganfod, sy’n wledd o fwyd i beillwyr dros yr haf.
Os yw’r môr ar drai, gall yr anturus yn eich plith groesi’r sarn greigiog i Ynys Weryn, sy’n ynys lanw. Mae morloi llwyd i’w gweld yn diogi a bola-heulo ar y creigiau islaw. Ond cymerwch ofal – mae’r llanw’n gwahanu’r ynys oddi wrth y tir mawr.
Mentrwch ymhellach ar drywydd siambrau claddu Neolithig, carneddau o’r Oes Efydd a chaerau o’r Oes Haearn sydd ar wasgar yma ac acw ar hyd yr arfordir.
Cadwch y plant yn hapus gyda’n llwybrau ‘Rwy’n gweld gyda’m llygad bach i...’, y gallwch eu casglu o’r siop a’r ganolfan ymwelwyr. Cofiwch ddod â’u rhestrau ‘50 Peth’ hefyd!
Mae Penrhyn Gŵyr yn baradwys i gŵn hefyd, gyda thraeth Rhosili’n eu croesawu drwy gydol y flwyddyn.
Mae rhywbeth i bawb ac mae digon o le i bawb hefyd – mae’r traeth yn wirioneddol enfawr.
Dysgwch sut i gyrraedd Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)
Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)