Skip to content
Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru
Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru | © National Trust Images/John Miller

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru

Rydym yn gofalu am 157 milltir o arfordir yng Nghymru, sy’n cynnwys rhai o draethau gorau’r wlad, o draethau euraidd eang a childraethau cudd i forluniau gwyllt a darnau o Lwybr Arfordir Cymru.

Traethau ym Mhen Llŷn, Gogledd Cymru

O bentref prydferth perffaith Porthdinllaen, ‘tywod chwibanog’ Porthor a childraeth euraidd Llanbedrog, mae digon i’w ddarganfod ym Mhen Llŷn.

Golygfa o’r traeth a phentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r arfordir i’w weld ar y dde, clogwyn gwyrdd y tu ôl i’r pentref a phobl yn cerdded ar hyd y traeth
Lle
Lle

Porthdinllaen 

Hen bentref pysgota sy’n eistedd ar ben pellaf stribyn tenau o dir sy’n ymwthio allan i Fôr Iwerddon, gyda dyfroedd cysgodol clir a golygfeydd gogoneddus.

Morfa Nefyn, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Golygfa ar draws traeth Llanbedrog, Penrhyn Llŷn, tuag at gefnen o laswellt sy’n cyrraedd at y traeth, a bryniau niwlog yn y pellter.
Lle
Lle

Llanbedrog 

Traeth euraidd â thirwedd goediog, arw yn edrych dros Fae Ceredigion. Yn enwog am ei chytiau traeth lliwgar, mae Llanbedrog yn un o drysorau Llŷn.

Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Traeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Porthor 

Traeth teuluol gwych sy’n enwog am ei ‘dywod chwibanog’ a’i ddyfroedd disglair, gyda golygfeydd trawiadol ar hyd arfordir gogleddol garw Pen Llŷn.

Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Person yn sefyll ar yr arfordir ym Mhorth Meudwy, Gwynedd

Porth Meudwy

Cildraeth bach ar drwyn Pen Llŷn sy’n gwasanaethu fel porthladd i bysgotwyr lleol a man gadael i ymweld ag Ynys Enlli.

Arfordiroedd Ynys Môn, Gogledd Cymru

Dysgwch am dreftadaeth ddiwydiannol Ynys Môn ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yng Nghemaes, darganfyddwch Warchodfa Natur Genedlaethol Cemlyn a mwynhewch draeth tywodlyd poblogaidd Porth Dafach.

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Lle
Lle

Cemlyn 

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ag arfordir garw gwych o greigiau, baeau bychain a phentiroedd – paradwys i gerddwyr.

Bae Cemaes, Sir Fôn

Yn hollol agored heddiw

Traethau yng Ngheredigion, Canolbarth Cymru

Darganfyddwch un o arfordiroedd mwyaf anghysbell Cymru yng Ngheredigion gyda childraeth cudd Penbryn, traeth perffaith y Mwnt a llwybrau arfordirol Cei Newydd.

A view over Mwnt beach in ceredigion from the coast path, with a sea of purple wild flowers in the foreground
Lle
Lle

Mwnt 

Bae diarffordd prydferth gyda thraeth euraidd ar arfordir Ceredigion – y lle perffaith i wylio ddolffiniaid, morloi a bywyd gwyllt arall.

ger Aberteifi

Yn hollol agored heddiw
Tonnau gwyn yn torri ar draeth tywodlyd Penbryn, yn edrych o’r twyni llawn rhedyn. Mae llawer o bobl ar y traeth yn mwynhau’r diwrnod o haf.
Lle
Lle

Penbryn 

Yn un o gyfrinachau gorau Ceredigion, mae’r cildraeth euraidd anghysbell hwn yn gorwedd wrth ben lonydd deiliog, drwy goedwigoedd dyffryn rhedynog.

ger Aberteifi, Ceredigion

Yn hollol agored heddiw

Arfordiroedd a thraethau’r Gŵyr, De Cymru

Darganfyddwch y Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n cynnwys Rhosili, un o draethau gorau gwledydd Prydain, Bae’r Tri Chlogwyn, sydd wedi ennill gwobrau lu, a’r forfa heli yng Nghwm Ivy.

Y machlud dros Fae Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru
Lle
Lle

Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Mae bae bendigedig Rhosili yn brolio traeth euraidd tair milltir o hyd a golygfeydd godidog dros benrhyn Gŵyr, a phethwmbreth o fywyd gwyllt i’w wylio o’r clogwyni cyfagos.

Rhosili, Swansea

Yn rhannol agored heddiw
Yr olygfa o Fae’r Tri Chlogwyn o gyffiniau Penmaen gyda rhostir yn y blaendir, ar Benrhyn Gŵyr, De Cymru
Lle
Lle

Twyni Penmaen a Nicholaston 

Darganfyddwch fywyd gwyllt ac archaeoleg ar daith gerdded drwy rostir, twyni tywod a chlogwyni, sy’n swatio rhwng bae clodwiw’r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich.

Swansea

Yn hollol agored heddiw
Golygfa’n edrych tua’r dwyrain ar hyd arfordir Pennard gyda’r haul yn torri drwy’r cymylau
Lle
Lle

Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt 

Crwydrwch ardal sy’n gyfoeth o hanes ym Mae Pwll Du, gyda chlogwyni trawiadol, afon danddaearol, coetir hynafol ac ogofau a oedd yn gartref i’r mamoth amser maith yn ôl.

Swansea

Yn hollol agored heddiw
Golygfa ysgubol o'r arfordir yn Whiteford Burrows, Gogledd Gŵyr, Cymru
Lle
Lle

Whitffordd a Gogledd Gŵyr 

Llecyn heddychlon sy’n berffaith ar gyfer ymlacio, gwylio adar a cherdded, gyda thwyni tywod a morfa heli eang ac ardal fwydo o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer rhydwyr ac adar dŵr.

Swansea

Yn hollol agored heddiw

Traethau yn Sir Benfro, De Cymru

Darganfyddwch arfordir Sir Benfro, o Forlyn Glas Abereiddi a thirwedd hanesyddol Tyddewi i fae poblogaidd Barafundle yn Stagbwll a Freshwater West.

Golygfa o draeth Abermawr yn Sir Benfro
Lle
Lle

Abereiddi i Abermawr 

Darn gwyllt o arfordir lle mae diwydiant ac antur yn cyfuno â Morlyn Glas, traethau, creigiau ac adfeilion.

Yn hollol agored heddiw
Golygfa arfordirol o Fferm Gupton, Freshwater West, gyda chaeau gwyrddion yn ymestyn tua’r môr a bryniau yn y cefndir.
Lle
Lle

Traeth Freshwater West 

Yn boblogaidd gyda phobl sy’n hoff o antur neu natur, mae’r darn tywodlyd, gwyllt hwn o arfordir yn cefnu ar dwyni tywod a gwlyptir, sy’n berffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt.

Castlemartin, Sir Benfro

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa eang o Draeth Marloes, Sir Benfro. Mae nifer o bobl ar y tywod euraidd, ac ar ymyl y traeth mae clogwyni geirwon yn codi.
Lle
Lle

Traeth a Chors Marloes 

Yn drysor cudd ar ymyl orllewinol Sir Benfro, mae Penrhyn Marloes yn cyfuno golygfeydd arfordirol dramatig â chyfoeth o fywyd gwyllt a chyfleoedd nofio diogel ar draethau euraidd.

Sir Benfro

Yn hollol agored heddiw
Llwybr cerdded ym Mhenmaen Dewi, Sir Benfro
Lle
Lle

Penrhyn Dewi 

Yn arfordir lliwgar â llwybrau prydferth a llwyth o hanes, mae’r penrhyn prydferth hwn wedi bod yn ganolfan ddiwylliannol ers miloedd o flynyddoedd, gyda’i wreiddiau Celtaidd a’i gysegrfa i nawddsant Cymru.

Penrhyn Dewi, Sir benfro

Yn hollol agored heddiw
The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Lle
Lle

Arfordir Solfach 

Mae pentiroedd ymwthiol, dyffrynnoedd dedwydd ac arfordir ysgubol Solfach yn gyfoeth o hanes, o aneddiadau Oes yr Haearn a diwydiant i straeon morol iasol – perffaith am antur ar droed.

Caerfai i Niwgwl, Sir Benfro

Yn hollol agored heddiw
Y traeth yn Stad Southwood, Sir Benfro
Lle
Lle

Stad Southwood 

Darganfyddwch dirwedd oesol Southwood o ddyffrynnoedd coediog, caeau blodeuog a chlogwyni geirwon. Yn ymestyn i’r môr, mae’r llecyn arfordirol hudol hwn yn llawn rhyfeddodau.

Newgale, Roch, Sir Benfro

Yn hollol agored heddiw
Visitors at Stackpole Quay, Pembrokeshire, Wales.
Lle
Lle

Stad Stagbwll 

Darn hyfryd o arfordir gyda thraethau euraidd clodwiw, dyffrynnoedd coediog heddychlon, pyllau lili sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt, llwybrau cerdded a chwaraeon dŵr.

ger Penfro, Sir Benfro

Yn hollol agored heddiw
Golygfa arfordirol o eithin melyn a chaeau gwyrdd, clogwyni ac arfordir creigiog tywyll gyda môr gwyrddlas.
Lle
Lle

Canolfan Addysg Awyr Agored Stagbwll 

Mae’r ardal hon o Sir Benfro yn baradwys i gerddwyr, gyda golygfeydd ysblennydd a llwybrau arfordirol yn igam-ogamu dros glogwyni dramatig ac anghysbell.

Strumble Head, Pencaer to Cardigan, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

Ein gwaith ar arfordir Cymru

Golygfa o bentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r môr a thonnau yn y blaendir yng Ngwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith i fynd i’r afael â newid arfordirol yng Nghymru 

Dysgwch sut rydym yn gofalu am 157 milltir o arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, o ddiogelu cynefin bywyd gwyllt i addasu i heriau newid hinsawdd.

Lleoedd eraill o ddiddordeb i chi

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

The walled garden at Penrhyn Castle and garden is covered in frost.

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

A view of the front of the red mansion house

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.