Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae tirwedd wyllt Cymru yn cynnig antur o bob math, o lwybrau drwy goetiroedd hynafol a llwybrau glan afon i draciau mynyddig trawiadol, a dyffrynnoedd hardd sy’n gyfoeth o chwedlau Cymreig.
Darganfyddwch ddyffryn prydferth Craflwyn a Beddgelert yng nghysgodion copaon Eryri, neu afonydd a gweundir agored Ysbyty Ifan, gyda llwyth o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd.
Ymgollwch eich hun yn y chwedlau sydd wrth galon Eryri, gyda rhaeadrau byrlymog, llynnoedd a choetiroedd i’w darganfod yng Nghraflwyn a Beddgelert.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd afon dramatig a gweundir agored gwyllt gyda phlanhigion ac adar prin ger pentref prydferth Ysbyty Ifan.
Crwydrwch drwy dirwedd arw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.
Darganfyddwch y dirwedd wyllt o gwmpas tiroedd y Carneddau a’r Glyderau yn Eryri.
Darganfyddwch wylltir eang a thirwedd hynafol Canolbarth Cymru, o weundir mynyddig a mawnog i ddyffrynnoedd a rhaeadrau dramatig.
Darganfyddwch leoliad o dirweddau digyffwrdd a dramatig, lle mae dyffrynnoedd serth yn ildio i diroedd comin trawiadol sy’n cynnig golygfeydd gwych mor bell â Bannau Brycheiniog.
Ymwelwch â Rhaeadr Henrhyd, y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru, dilynwch lwybrau troellog drwy’r dedwydd Ddyffryn Wysg neu darganfyddwch ddyffrynnoedd coediog a chilfachau llanwol Sir Benfro.
Darganfyddwch dirwedd oesol Southwood o ddyffrynnoedd coediog, caeau blodeuog a chlogwyni geirwon. Yn ymestyn allan i'r môr, mae'r llecyn arfordirol hudol hwn yn llawn rhyfeddodau.
Dewch am dro i Lyn Tarell Uchaf, coetiroedd lled-hynafol wrth odre Bannau Brycheiniog, neu ymwelwch â Choedwig Graig Llech a rhaeadrau enwog Henrhyd.
Darganfyddwch encil heddychlon yn Lan-y-lai ym Mro Morgannwg gyda pherllan gymunedol, gweirgloddiau a môr o flodau gwyllt a choed hynod. Lan-y-lai yw’r ddihangfa berffaith.
Dilynwch ddyfroedd y Cleddau drwy goetir heddychlon, hynafol, morfa heli eang a chilfachau llanwol sy’n gyfoeth o dreftadaeth.
Darganfyddwch goetir hynafol Cwm y Santes Fair, ystâd Cleidda, sy’n dyddio o’r 18fed ganrif, bryngaer Oes yr Haearn Coed y Bwnydd a choetir a chefn gwlad eang Fferm Parc Lodge.
Darganfyddwch fyd o olygfeydd godidog a choetiroedd heddychlon, wedi'u cyfuno â thiroedd hamdden prydferth i'w mwynhau gyda phicnic neu daith gerdded ling-di-long.
Darganfyddwch gopaon trawiadol Cymru, o heriau Tryfan yng ngogledd Eryri i fynyddoedd eiconig Pen y Fan a Phen-y-fâl yn ne Cymru.
Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.
Os ydych yn dod â’ch ci i’r lleoedd rydym yn gofalu amdanynt, dyma wybodaeth am y Cod Cŵn a’r system sgorio ôl pawen a fydd yn eich helpu chi i drefnu’ch ymweliad.
Helpwch ni i warchod y lleoedd rydym yn gofalu amdanynt drwy ddilyn ychydig o ganllawiau syml yn ystod eich ymweliad ac ymlynu wrth y Cod Cefn Gwlad.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.