Skip to content

Mynyddoedd yng Nghymru

A hiker sitting looking at the view from the Brecon Beacons
A hiker takes in the views from the Brecon Beacons | © National Trust Images / James Dobson

Darganfyddwch gopaon trawiadol Cymru ar antur fynyddig arbennig gyda bywyd gwyllt, hanes, a golygfeydd godidog. O Fannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon yn y de i uchelfannau aruthrol Eryri, darganfyddwch y mynyddoedd gorau yn nhirwedd wyllt Cymru.

Mynyddoedd Bannau Brycheiniog

 

Pen y Fan
Yn 886m o uchder, Pen y Fan yw mynydd uchaf de Prydain, gyda Chorn Du yn dynn ar ei sodlau ar 873 metr. Mae’r ddringfa hir i gopa Pen y Fan yn werth chweil, wrth gwrs – cewch fwynhau golygfeydd gwych sy’n estyn ar draws de a chanolbarth Cymru a thros Aber Hafren i dde-orllewin Lloegr. Mae’r dirwedd yn uchel, gwyllt a chyffrous. Cadwch olwg am Lyn Cwm Llwch, y llyn rhewlifol gorau yn ne Cymru, sydd wedi’i leoli ym mhen pellaf Cwm Llwch.Darganfyddwch Ben y Fan
Mynydd Pen-y-fâl
Yn dod i’r golwg rhwng cribau Llanwenarth, Deri a Rholbren, mae Pen-y-fâl yn gefnlen drawiadol i dref farchnad y Fenni yn ne Cymru. Yn 596 metr o uchder, mae’n un o gopaon uchaf y Mynyddoedd Duon ac yn hafan i fywyd gwyllt, gyda gweundir agored a dyffrynnoedd coediog cysgodol.Darganfyddwch Ben-y-fâl
Ysgyryd Fawr
Mae’r copa hwn ym mhen pellaf y Mynyddoedd Duon yn codi’n ddramatig o’r dirwedd, er ei bod yn llai na’i chymdogion ar 486 metr o uchder. Wedi’i gwahanu wrth y brif gadwyn o fynyddoedd gan Gwm Gafenni, mae Ysgyryd Fawr, neu’r ‘Mynydd Sanctaidd’ yn lleol, yn gyfoeth o hanes a gwylltni. Ar y copa saif adfeilion capel San Mihangel, a ddefnyddiwyd gan Gatholigion tan ddiwedd y 17eg ganrif.Darganfyddwch Ysgyryd Fawr
Yr Wyddfa a chopaon mynyddoedd eraill gydag ystâd Hafod y Llan yn y pellter ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Cymru
Yr Wyddfa a chopaon mynyddoedd eraill ym Mharc Cenedlaethol Eryri | © National Trust Images/Joe Cornish

Mynyddoedd Eryri

Yr Wyddfa
Yn sefyll ar dros 3,000 troedfedd, yr Wyddfa yw’r mynydd uchaf yng Nghymru ac mae’n denu hyd at 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Hafod y Llan, un o’n ffermydd mewnol mwyaf a brynwyd ym 1998 diolch i roddion gan y cyhoedd, hefyd yn gartref i Lwybr Watkin, sy’n un o chwe llwybr i fyny’r Wyddfa. Mae’r dirwedd amrywiol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn gorchuddio ardal o 4000 erw (traean o’r Wyddfa), gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol.Darganfyddwch yr Wyddfa
Y Carneddau
Cadwyn fynyddoedd y Carneddau yw’r ardal gyffiniol fwyaf o dir uchel yng Nghymru a Lloegr, ac mae hefyd yn gartref i rai o gopaon uchaf y wlad. Mae’n cynnwys Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Yr Elen, Drosgl a Moel Wnion. Fel rhan o Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni cynllun 5 mlynedd i helpu i warchod treftadaeth y Carneddau.Darganfyddwch y Carneddau
Y Glyderau
Wrth ymyl cadwyn fynyddoedd y Carneddau mae’r Glyderau. Mae’r copaon yn cynnwys Glyder Fawr, Glyder Fach, Tryfan a’r Garn, yn ogystal â’r Warchodfa Natur Genedlaethol hynaf yng Nghymru, Cwm Idwal. Crëwyd yr ardal tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl trwy ymgodiad tanddaearol enfawr, a greodd holl fynyddoedd Eryri.Darganfyddwch y Glyderau
Cwm Idwal
Mae Cwm Idwal yn bant siâp powlen wedi’i lenwi â dŵr crisial Llyn Idwal. Mae’r safle’n fyd-enwog am ei ffurfiant creigiau a’i blanhigion prin a bregus. Mae’n lle poblogaidd i gerdded drwy gydol y flwyddyn gyda llwybr cymedrol yn arwain i fyny at Lyn Idwal ac ar hyd y glannau.Darganfyddwch Gwm Idwal
Tryfan
Mae copa’r mynydd hwn yng nghadwyn y Glyderau yng ngogledd Eryri yn 917.51 metr o uchder. Tryfan, felly, yw un o’r 14 copa uchaf yng Nghymru, ac mae’n pontio’r ffin rhwng heicio a mynydda. Fe’i defnyddiwyd fel man hyfforddi gan Syr Edmund Hillary, a oedd yn un o’r bobl gyntaf i ddringo Everest ym 1953.Darganfyddwch Dryfan
Cadair Idris
Mae Cadair Idris yn fynydd ym Meirionnydd, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae sawl llwybr yn arwain at y copa, y mae llawer ohonynt yn hynod o heriol, gan gynnwys Llwybr y Llwynog lle gwelwch Lyn-y-Gadair, llyn mynydd sy’n ffurfio rhan o’r ‘gadair’.Darganfyddwch dde Eryri
Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Dringwyr yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach | © National Trust Images/Chris Lacey

Cyngor diogelwch ar gyfer cerdded mynyddoedd

Bob blwyddyn mae timau achub mynydd yn derbyn cannoedd o alwadau. Fel gwarcheidwaid 157 milltir o arfordir a mwy na 46,000 hectar o dir, mae llawer o lefydd arbennig i gerdded a mynyddoedd heriol i’w dringo yng Nghymru. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu i beidio â mynd ar goll neu gael eich anafu a mwynhau diwrnod cyffrous campus drwy ddilyn y cyngor diogelwch yma.

Cynlluniwch eich llwybr

Cynlluniwch eich llwybr ymlaen llaw. Dewiswch lwybr cerdded sy’n addas i allu eich grŵp, a chadwch lygad ar yr amser. Dilynwch y llwybrau ac osgowch ymylon clogwyni neu gerdded ar dir nad ydych yn siŵr ohono.

Gwiriwch y tywydd

Yr haul yn gwenu neu law trwm? Ystyriwch a yw’r amodau’n addas o ystyried eich gallu chi a’ch cyfeillion.

Dywedwch wrth ffrind

Tra eich bod allan yn crwydro gyda phobl eraill, mae’n bwysig cerdded mor araf â’r person arafaf yn eich grŵp. Os byddai’n well gennych fynd ar eich pen eich hun, rhowch wybod i rywun am eich cynlluniau cyn dechrau ar eich taith. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys eich llwybr, eich man dechrau a gorffen, pryd rydych yn disgwyl dychwelyd ac unrhyw newidiadau yn ystod eich taith.

Gwisgwch y dillad cywir

Mae dewis dillad priodol ar gyfer eich gweithgaredd yn bwysig. Cyn dringo, hyd yn oed yn yr haf, dewiswch esgidiau addas, fel esgidiau cerdded sy’n cynnig cymorth i’r pigyrnau, ac ystyriwch wisgo haenau o ddillad, dillad gwrth-ddŵr, het a menig.

Ewch â’r offer cywir 

Dylai fod gennych fap a chwmpawd, a dylai fod yn hawdd cael gafael arnynt os ydych yn mynd ar daith gerdded hir neu’n dringo mynydd. Gallai oriawr, tortsh â batris a bylbiau sbâr, ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn, GPS a chwiban hefyd fod yn ddefnyddiol. I alw am help, chwythwch y chwiban chwe gwaith, am ychydig eiliadau ar y tro, stopiwch am funud, ac yna ailadroddwch y broses tan fod rhywun yn eich cyrraedd.

Cadwch eich lefelau egni yn uchel

Sicrhewch eich bod wedi bwyta’n dda cyn mynd allan. Cariwch fwyd a digon o ddiod i’ch hydradu, a chodwch eich lefelau egni pan fo angen. Mae siocled a ffrwyth sych yn ffyrdd gwych o roi hwb cyflym i chi.

Byddwch yn effro

Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd a newidiadau yn y tywydd. Cadwch lygad ar unrhyw blant ac anifeiliaid anwes sy’n ymuno â chi ar eich taith, a byddwch yn barod i orfod troi’n ôl os yw’r tywydd yn gwaethygu.

Sicrhewch eich bod yn gwybod lle i gael help

Cofiwch, os gwelwch rywun mewn trafferth, peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl. Os yw’n argyfwng, ffoniwch y canlynol:
Ar y tir: 999 – gofynnwch am yr heddlu ac yna’r Tîm Achub Mynydd
Dyfroedd mewndirol nad ydynt wedi’u categoreiddio fel ‘môr’: 999 – gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub
Arfordir: 999 – gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Dilynwch ganllawiau

Darllenwch y canllawiau diogelwch rydyn ni a sefydliadau eraill yn eu cynnig cyn mwynhau anturiaethau arbennig yn ein gwlad hyfryd.

 

 

 

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

The walled garden at Penrhyn Castle and garden is covered in frost.

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.