Darganfyddwch fwy ym Mannau Brycheiniog
Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Pen y Fan a Chorn Du, dau gopa uchaf y Bannau canolog, yn codi’n uchel uwchben y dirwedd ac mae’n bosib eu gweld o bellter mawr. Mae ffurf y grib wedi dod yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU, ac mae dyffrynnoedd gwyrddion godidog yn amgylchynu’r copaon. Crwydrwch a darganfyddwch lynnoedd cudd a choetiroedd hynafol ar hyd y daith.
Mae Pen y Fan yn codi i uchder o 886m a hwn yw’r mynydd uchaf yn ne Prydain. Corn Du yw’r ail gopa uchaf (873m) a Chribyn yw’r trydydd (795m). Bob blwyddyn mae dros 250,000 o bobl yn dringo i ben y mynyddoedd trawiadol hyn.
Mae’r dirwedd yn uchel, gwyllt a chyffrous. Mae’r ddringfa hir i gopa Pen y Fan yn werth chweil, wrth gwrs – cewch fwynhau golygfeydd gwych sy’n estyn ar draws de a chanolbarth Cymru a thros Aber Hafren i dde-orllewin Lloegr. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld Mynyddoedd Cambria, y Mynyddoedd Duon, Gŵyr, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf hefyd.
Taflwch eich golwg tua’r gogledd-orllewin o Gorn Du neu Ben y Fan, lle mae’r llethrau serth yn dechrau disgyn o’ch amgylch, ac mae Llyn Cwm Llwch yn siŵr o ddal y llygad.
Llyn Cwm Llwch yw’r llyn rhewlifol gorau yn Ne Cymru ac mae wedi’i leoli wrth ben Cwm Llwch. Mae’r ardal yn ffurfio rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Bannau Brycheiniog ac mae hefyd yn Safle Adolygu Cadwraeth Ddaearegol (ACDd).
Cwm Gwdi yw man cychwyn rhai o’r llwybrau cerdded mwyaf trawiadol a heriol ym Mannau Brycheiniog, De Cymru, ac mae’n llawn hanes.
Roedd Cwm Gwdi’n wersyll hyfforddi milwrol ‘slawer dydd, yn dyddio’n ôl i oes Fictoria. Mae’r canolfannau concrit a’r adeiladau gwag i’w gweld o hyd ymysg y coed.
Arferai’r fyddin ddefnyddio Allt Ddu, ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, ar gyfer ymarfer pledu. Parhaodd y fyddin i ddefnyddio’r gwersyll ar gyfer ymarferion cerdded bryniau tan 1996, pan ddaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol amdano.
Wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd gwyllt, agored Bannau Brycheiniog, mae Glyn Tarell Uchaf yn gartref i rai coetiroedd lled-hynafol prin sydd wedi goroesi hyd heddiw. Coed Carno a Choed Herbert yw’r ddwy brif goedwig yng Nglyn Tarell, ac maen nhw’n goetiroedd lled-hynafol. Maen nhw wedi tyfu’n naturiol ar briddoedd digyffwrdd dros gannoedd o flynyddoedd.
Un o ryfeddodau Coed Carno a Choed Herbert yw’r coed ffenics. Mae’r coed hyn wedi cwympo ond maen nhw’n dal i dyfu. Maen nhw’n dod â chanopi gwyrdd gwych y coetir i lawr i lefel y ddaear.
Cadwch lygad ar agor am adar y coed, gan gynnwys y gwybedog brith, telor y coed, y tingoch a’r siff-siaff. Mae esgyll cochion a heidiau o adar yr eira i’w gweld yn hedfan dros y caeau sy’n amgylchynu’r coed.
Mae planhigion yn cael llonydd llwyr i dyfu yma, gan gynnwys clychau’r gog, blodau’r gwynt, blodau taranau a llygad Ebrill, ynghyd â ffyngau a chennau prin.
Mae Afon Tarell yn cynnig amgylchedd gwyllt i ddyfrgwn ac amrywiaeth o fronfreithod dŵr croyw. Mae’r creaduriaid a’r adar bach chwareus hyn yn aml i’w gweld yn mwynhau llonyddwch yr ardal anghysbell hon.
Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.
Hanes trist bachgen bach 5 oed a aeth ar goll ar fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn haf 1900. Mae’r stori drist wedi’i pasio o un genhedlaeth i’r llall a chyffwrdd calon llawer o bobl. Mae cofeb wedi’i chodi fel symbol o ddarganfod a cholled.